AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Darganfod yr AHNE

Mwy o wybodaeth

Ein Dyfodol gyda bywyd gwyllt – Cynllun Gweithredu lleol Bioamrywiaeth sir Ddinbych.

Mewn ymateb i ymrwymiad llywodraeth y DU i Gynulliad Bioamrywiaeth Rio, rhaid i bob awdurdod gynhyrchu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP).

Cynllun Gweithredu lleol Bioamrywiaeth sir Ddinbych

Bioamrywiaeth

Holl amrywiaeth a chyfoeth bywyd ar y ddaear ydy bioamrywiaeth – pob un o’r  rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, eu hamrywiaeth genetig a’r ecosystemau  cymhleth y maent yn rhan ohonynt.

Gwyddom am 1.9 miliwn rhywogaeth o blanhigion, anifeiliaid a microbau ar hyn o bryd ond mae rhywogaethau newydd yn cael eu darganfod yn barhaus ar draws y byd – cred gwyddonwyr y gall fod pump i 30 miliwn rhywogaeth mewn bodolaeth.

Pearl bordered fritillary

Mae bioamrywiaeth ymhobman, o’r pryfyn lleiaf i’r goeden dalaf. Bydd ei goroesiad yn dibynnu’n fawr ar ein gallu i’w deall, gwerthfawrogi, a gwneud lle ar ei chyfer.

Mae ymrwymiad llywodraeth y DU i Gonfensiwn Bioamrywiaeth Rio yn golygu bod rhaid i bob awdurdod lleol gynhyrchu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP). 

Pwrpas cynllun o’r fath ydy diogelu bywyd gwyllt lleol ac amlygu’r cynefinoedd a’r rhywogaethau hynny sydd dan fygythiad neu’n lleihau. Mae’n cynnig camau gweithredu blaenoriaethol a fydd yn atal y dirywiad hwn ac yn ennyn adferiad.

Mae bioamrywiaeth yn fater byd-eang – ond mae ag angen gweithredu lleol trwy bartneriaethau gyda’r gymuned leol ac amrywiaeth o sefydliadau.      

Mae’r pethau bach y gallwn ni eu gwneud fel unigolion yn ein hardaloedd lleol yn cyfrannu at warchod bioamrywiaeth yn fyd-eang. Mae’n wirioneddol bwysig ein bod i gyd yn gwneud ein rhan i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – yn cynnwys ei bioamrywiaeth anhygoel.

Yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy mae hyn yn golygu gofalu am gynefinoedd megis glaswelltir carreg galch, rhostir, coetir a dyffrynnoedd afonydd. Mae glaswelltir carreg galch yn gynefin eithriadol o amrywiol sy’n cynnal llawer o flodau gwyllt megis briallu Mair a rhosod y graig, rhai’n brin ac anghyffredin megis crwynllys yr hydref a thegeirianau. Mae’r rhain yn eu tro yn cynnal amrywiaeth o infertebratau yn cynnwys llawer o loÿnnod byw a gwyfynod megis y glesyn cyffredin a’r gwyfyn bwrned smotiau coch.

Merlin

Mae rhostiroedd yn lleoedd arbennig i adar yr ucheldir megis clochdar y graig, corhedydd y coed, y bod tinwyn a’r cudyll bach sy’n ymweld â’r gweunydd yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf i fagu. Ar un adeg roedd cri’r gylfinir yn sn cyfarwydd yn yr haf cyn iddo ddychwelyd i’r aberoedd i dreulio’r gaeaf.

Mae dyfrgwn a llygod pengrwn y dr yn dibynnu ar ein dyfrffyrdd. Yn ffodus mae’r dyfrgi’n dechrau adennill tir ond mae llygod pengrwn y dr yn lleihau’n ddifrifol.  Mae angen gweithredu’n awr i’w hatal rhag diflannu’n gyfan gwbl.      

Ar hyn o bryd mae’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn rhestru ychydig dros 30 o gynefinoedd blaenoriaethol, y mae llawer ohonynt yn yr AHNE. Mae rhai o’r rhain yn genedlaethol bwysig megis glaswelltir calchaidd, rhostir, coed deri, coed ynn cymysg yr ucheldir, gwrychoedd hynafol a chyfoethog eu rhywogaethau, dolydd iseldir, corsydd pori, a chynefinoedd arfordirol. Mae eraill, megis pyllau dr, lleiniau ochr ffordd sy’n rhoi lloches i flodau gwyllt a oedd unwaith yn gyffredin yn y caeau cyfagos, a mannau glas yn ein trefi yn werthfawr yn lleol.

Mae bron 250 o rywogaethau blaenoriaethol wedi’u rhestru, y mae rhai ohonynt hefyd dan fygythiad neu’n lleihau’n gyflym yn genedlaethol, er enghraifft, y glöyn byw brith perlog, yr ystlum pedol lleiaf, y rugiar ddu a llygoden bengron y dr.  Mamaliaid eraill a restrir ydy’r ysgyfarnog, pathew, dyfrgi, llygoden bengron y dr, rhywogaethau ystlumod, tra bo’r gornchwiglen, y gylfinir a’r bras melyn wedi’u cynnwys ymhlith yr adar. Mae rhai amffibiaid ac ymlusgiaid wedi’u hamlygu ynghyd ag amryw o infertebratau a nifer fawr o blanhigion gwyllt yn cynnwys mwsoglau, ffyngau a chennau.

Mae cynlluniau gweithredu unigol yn cael eu cynhyrchu ar gyfer llawer o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hyn. Bydd y rhain yn cael eu monitro’n ofalus i asesu pa mor llwyddiannus neu fel arall y mae’n camau cadwraeth wedi bod.   

Ewch i adran “Gofalu am yr AHNE” y wefan hon am wybodaeth ynghylch rheolaeth cynefinoedd penodol a phrosiectau cadwraeth bywyd gwyllt.

A chymerwch olwg ar y dolenni hyn i gael gwybod mwy am sut i adnabod a gwarchod bioamrywiaeth leol:

Cadwraeth tir amaeth/rheolaeth tir

http://www.fwag.org.uk/wales
http://www.rspb.org.uk/ourwork/farming
http://www.gct.org.uk

Bioamrywiaeth Gyffredinol

http://flood.nhm.ac.uk/eb//homepage.shtml ­– Archwilio Bioamrywiaeth
http://www.nhm.ac.uk/science/projects/fff – Chwiliad fflora ar gyfer eich ardal chi

Bioamrywiaeth Ryngwladol

http://www.biodiv.org – Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol
http://biodiv.wri.org – Sefydliad Adnoddau’r Byd — ffynhonnell ffeithiau a ffigurau am fioamrywiaeth
http://www.wcmc.org.uk – Canolfan Fonitro Cadwraeth y Byd (yn cynnwys Rhestrau Coch IUCN o anifeiliaid a phlanhigion dan fygythiad)

Garddio Bywyd Gwyllt

http://www.wildlife-gardening.co.uk

Datblygu Cynaliadwy

http://www.sustainable-development.gov.uk – dangosyddion bioamrywiaeth

Footer

Gwnaed gan Splinter