AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Cysylltiadau perthnasol

Mwy o wybodaeth

Mae modd cyrraedd Moel Fenlli drwy gymryd y ffordd o Ruthun i'r Wyddgrug (A494) a dilyn yr arwyddion brown ag arnynt y geiriau Parc Gwledig Moel Famau. Mae maes parcio Moel Fenlli yn union gyferbyn â maes parcio Moel Famau. Mae modd dod o hyd i Lwybr Clawdd Offa wrth droed Moel Fenlli ac yna mae llwybr yn union i fyny i'r Gaer o'r maes parcio sydd oddi tanodd.

Map OS: Explorer 265
Cyfeiriad grid OS: SJ163601

Bryngaer Moel Fenlli

Yn edrych allan dros Fwlch Pen Barras mae bryngaer hanesyddol Moel Fenlli.

Adeiladwyd Moel Fenlli yn ystod oes yr Haearn, tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl.
Moel Fenlli
Mae tystiolaeth y byddai pobl wedi byw tu mewn i'r fryngaer a chasglu dr o ffynnon sydd yng nghanol y gaer.

Gwnaed ymchwiliad bychan yma gan Wynne Ffoulkes yn 1849.

Mae pobl wedi bod yn defnyddio'r fryngaer cyn ac wedi oes yr Haearn. Mae, o bosibl, gloddfa gladdu o oes yr Efydd tu mewn i'r gaer. Ac yn 1816 canfuwyd pentwr o 1,500 o geiniogau Rhufeinig yma.

Saif Moel Fenlli (SJ163601) ar Fryniau Clwyd i'r de o Foel Famau, y tu uchaf i Fwlch Pen Barras ac ar fryn amlwg. William Camden,  hynafiaethydd Tuduraidd oedd y cyntaf i'w chofnodi yn  [i]  1607 yn y testun Britannia ‘For such is the wonderfull workmanship of nature that the tops of these mountaines resemble in fashion the battlements of wales. Among which the highest is Moilenlly, on the top whereof I saw a warlicke fense with trench and rampier, also a little fountaine of cleere water'.

Mae hi'n fryngaer amlglawdd sydd â rhagfuriau amlwg i'r gogledd a'r dwyrain ond rhai llai i'r de lle mae'r llethr naturiol yn serth iawn.  

Mae'r rhagfuriau'n amgáu llain o dir o 9.5 hectar. Mae gan y safle un fynedfa fewndro wreiddiol i'r gorllewin. Yn debyg i Benycloddiau i'r gogledd, nid yw'n fryngaer gyfuchlin wirioneddol ond mae'n goleddu o'i man uchaf yn y dwyrain wrth y fynedfa ar yr ochr orllewinol. [ii]. Mae yma hefyd olion tomen gladdu Oes yr Efydd, o bosib, y tu mewn i gopa'r bryn.

Yn dilyn darganfod casgliad o  1,500 o ddarnau arian Rhufeinig yn  1816[iii] , a ddaeth i olau dydd ar ôl llosgi grug yn ddamweiniol, y dechreuodd  W Wynne Ffoulkes ei raglen o archwilio'r tair bryngaer (Moel Fenlli, Moel y Gaer Llanbedr a  Moel Arthur) ym Mryniau Clwyd yn 1849. Roedd pob un yn eiddo i Stad Castell Rhuthun. Mae Wynne Ffoulkes yn disgrifio sut y gwnaeth doriadau mewn rhannau gwahanol y gaer, yn rhagfur y gogledd, yn rhan ddeheuol y rhagfur lle mae'r llwybr yn mynd i mewn i'r goedwig, ac mewn nifer o leoedd lle'r oedd llwyfannau cytiau, o bosib. Mae'n disgrifio sut y bu iddo gloddio ‘ffos ar ôl ffos' heb unrhyw lwyddiant  ‘Perseverance, however, at length brought to light a piece of white pottery, the rîm of some vessel...'.Aeth y gwaith rhagddo ac yn fuan wedyn fe godwyd  ‘remarkable knife and very god glazed Roman pottery, partaking the nature of samian ware'. Roedd yr arteffactau a ddarganfuwyd mewn casgliad yng Nghastell Rhuthun hyd ganol yr 1920au pan welodd Sir Mortimer Wheeler hwy, ond ymddengys eu bod wedi mynd ar goll ers hynny.

Disgrifia  Ellis Davies[v], yn yr 1920au, a  Forde Johnston[vi] , yn y  1960au, y safle yn fanwl. Nodir tua dau ddwsin o lwyfannau cytiau yn ogystal a ffynnon sych ac efallai argae dwr. Awgryma Forde Johnston bod dau brif gyfnod adeiladu yn natblygiad y  safle. Yn y cyfnod cyntaf, bu adeiladu cylch cyfan y clawdd a'r ffos a'r isglawdd sgarp [vii] .

Yn y 1950au fe wnaeth Bevan Evans peth gloddio archwiliadol cyn ymweliad gan y Cambrians [viii] . Daethpwyd o hyd i wybodaeth yn Swyddfa Gofnodion Penarlâg sy'n rhoi'r hawl i gloddio'n archeolegol, ond ni ddarganfuwyd canlyniadau'r gwaith eto.

Mewn arolwg topograffigol yn 2006, enwodd EAS, 61 o lwyfannau cytiau, o bosib.


[i] W. Camden 1607 Britannia - Cyfieithiad Saesneg  1610 Philemon Holland

[ii] Forde Johnston ibid

[iii] 1847 Archaeologica Cambrenis p108-11

[iv] Archaeology of Wales Mortimer Wheeler 1925

[v] Canon Ellis Davies 1929 Prehistoric and Roman Remains of Denbighshire

[vi] Forde Johnston ibid

[vii] Forde Johnston ibid

[viii] nodyn yn arch camb/Flintshire hist soc ac Archifdy Penarlag

[ix] Archifdy Penarlag, Casgliad  Bevan Evans

Footer

Gwnaed gan Splinter