AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Bryniau Clwyd

Mae Bryniau Clwyd yn gadwyn wahanredol o gopaon, sydd wedi’u gorchuddio â gweundir grug porffor a’u coroni gan y bryngaerau mwyaf trawiadol eu lleoliad ym Mhrydain. Dyma oror ucheldirol urddasol Gogledd Cymru, sydd i’w gweld o bob cyfeiriad, ac sy’n gwahodd rhywun yno i’w darganfod a’i chwilota.

View of the Range

Mae’r cefn gwlad hyfryd o amrywiol yn y fan yma yn cynnwys clogwyni a glaswelltir carreg galch trawiadol, dyffrynnoedd coediog hudolus a thir pori braf. Mae’r golygfeydd syfrdanol o Fryniau Clwyd yn cynnwys popeth o Eryri i Lannau Mersi. Maent yn eich atgoffa o bersbectif unigryw'r ardal hon, wrth galon Cymru wledig ond eto gyda chysylltiadau cryf ar draws y ffin gyfagos â Lloegr.

Mae Bryniau Clwyd yn ymestyn dros 160 cilometr sgwâr ac yn codi i 554 metr ar gopa Moel Famau. Mae’r bryniau’n ymledu o Ddyffryn Clwyd yn y gorllewin i droedfryniau Aber y Ddyfrdwy i’r dwyrain; o Fynydd Prestatyn yn y gogledd i fwlch Nant y Garth ar gwr Dyffryn Dyfrdwy yn y de.

I’w weld ar ei orau o Ddyffryn Clwyd, mae gweundir grug agored y grib uchel yn edrych dros gaeau gwrychog bychain a choetir prysgwydd y llethrau is. Mae’r tir ffermio tra ffrwythlon yma’n rhoi tu blaen bugeiliol meddal i’r bryniau.

Mae brigiadau carreg galch trawiadol yn rhwygo drwy’r wyneb mewn nifer o leoedd ar ochr ddwyreiniol y bryniau - yn fwyaf arbennig ar Fynydd Prestatyn, Llanferres a Loggerheads sy’n meddu ar laswelltiroedd cyfoethog o degeirianau a blodau gwyllt eraill sy’n cynnig hafan i löynnod byw.

Mae’r bryniau wedi’u torri mewn mannau gan ddyffrynnoedd dwfn sy’n cludo dwy brif afon yr ardal, yr Alun a’r Chwiler, sy’n diflannu’n aml dan ddaear i gyrsiau dr cudd yng nghanol y garreg galch.

Mae’r dirwedd “led-naturiol” amrywiol yma o weundir grug, glaswelltir carreg galch, afonydd a choetir yn golygu amrywiaeth gyfoethog o rywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt.

Panoramic view

Mae gan yr AHNE gyfoeth o weddillion archeolegol a hanesyddol hefyd, sy’n dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol cynnar yr holl ffordd drwodd i’r Ail Ryfel Byd. Mae’r safleoedd yn amrywio o fryngaerau anferth yr Oes Haearn i’r olion cnydau a darganfyddiadau llai amlwg yn yr ardaloedd is. 

Mae llawer o’r safleoedd archeolegol hyn yn Henebion Rhestredig a warchodir trwy CADW: Welsh Historic Monuments. Ond mae llawer o nodweddion hanesyddol eraill megis cerrig terfyn, ffynhonnau pentrefi a cherrig milltir nad ydynt wedi’u gwarchod ac sy’n llawer mwy bregus.

Mae llawer o’r safleoedd archeolegol hyn yn gydrannau pwysig o’r dirwedd ehangach – mae tystiolaeth o gloddio a chwarelu, aneddiadau a chladdiadau yn y gorffennol yn ffurfio cefnlen gyfarwydd i’n bywyd ni heddiw.

Mae’r olion archeolegol a adawyd ar y dirwedd yn dangos inni fod pobl a chymunedau’n gymaint rhan o’r dirwedd â blodau a bywyd gwyllt. Mae gan Fryniau Clwyd ddiwylliant arbennig o gyfoethog ac amrywiol. Cynhelir Eisteddfodau tros yr ardal i gyd i ddathlu’r Gymraeg, ei cherddoriaeth a’i barddoniaeth.

Yn draddodiadol bu Bryniau Clwyd yn gyrchfan taith undydd o Lannau Mersi a Sir Gaer, ac maent yn derbyn niferoedd mawr o ymwelwyr, yn arbennig yn nau barc gwledig Loggerheads a Moel Famau. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn dilyn bron hyd cyfan copa’r grib cyn mynd am Ddyffryn Dyfrdwy.

Map Bryniau Clwyd

Map Bryniau Clwyd

ViewDownload

Footer

Gwnaed gan Splinter