AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Coed Pen y Pigyn 

Mae Coed Pen y Pigyn wedi’i leoli yng nghanol ysblander Dyffryn Dyfrdwy yn union gyfagos i ganol tref Corwen.

Coed Pen y Pigyn

Parciwch yn y prif faes parcio, dilynwch lwybr troed heibio’r eglwys a dod allan mewn coetir derw dail digoes serth sy’n cynnwys cylch cerrig Gorsedd llawn awyrgylch a godwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Fuddugoliaeth yn 1919. Credai ei phensaer Iolo Morganwg ei fod yn ddisgynnydd i’r derwyddon. Mae cylchoedd cerrig tebyg i’w cael ledled Cymru, ac maent yn rhan o’r traddodiad hynafol o gadeirio a choroni’r beirdd buddugol mewn Eisteddfodau.

Ar lwybrau trwy’r coetir hynafol gellwch weld llawer o gerfluniau anifeiliaid ac, os byddwch yn lwcus, rai byw sy’n anadlu hefyd. Dyma un o’r cadarnleoedd olaf yng Nghymru i’r wiwer goch fwyfwy prin, a fu’n lleihau mewn niferoedd byth ers i’r wiwer lwyd Americanaidd fwy gyrraedd Prydain yn y 1870au

Mae yna olygfan yn y man ble dywed chwedl fod tywysog Cymru, Owain Glyndr, mewn pwl o gynddaredd, wedi hyrddio ei ddagr o ochr y bryn gyda’r fath rym fel ei fod wedi gadael ei amlinell mewn craig islaw. Mae’r garreg, gyda’i hôl dagr rhyfedd, yn dal i’w gweld heddiw fel lintel uwchben drws deheuol eglwys Corwen ar ôl ei ailadeiladu.

Footer

Gwnaed gan Splinter