AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Corwen

Mae tref farchnad fechan Corwen wedi’i lleoli rhwng troad mawr llydan yn Afon Dyfrdwy a throed Mynyddoedd y Berwyn, gyda llechwedd goediog serth Pen-y-Pigyn yn gefndir iddi. Yn ganolbwynt ffyrdd hynafol o Lundain i Gaergybi ac o Gaer i’r Bala, roedd “Croesffordd Gogledd Cymru” yn ganolfan i borthmyn ac yn hoff gan deithwyr oes Fictoria, fel y mae sawl adeilad nodedig yng nghanol y dref yn dal i dystio. 

Owain Glyndwr staute in Corwen

Ond mae gwreiddiau Corwen yn llawer h■n. Mae’i henw’n golygu “Cangell Wen” neu “Eglwys Wen”, sy’n cyfeirio at yr eglwys a sefydlwyd yma gan ddau sant o’r 6ed ganrif, Mael a Sulien, efallai ar safle paganaidd cynhanesyddol: mae bryngaer Oes Haearn Caer Drewyn yn coroni’r bryn ar draws yr afon.

Mae i’r eglwys ganoloesol a diweddarach bresennol lawer o nodweddion cyfareddol, yn cynnwys linter wedi’i marcio â “chroes dagr” - wedi’i thorri yn ôl traddodiad gan gyllell dafledig mab enwocaf Corwen, arwr Cymreig mawr y canoloesoedd, Owain Glynd­r. Saif Mwnt Glynd­r, ble cyhoeddodd ei hun yn Dywysog Cymru yn 1400, saith milltir i’r dwyrain wrth ymyl ffordd yr A5. Mae Capel y Rhug ac Eglwys Llangar gerllaw hefyd, ac mae Corwen yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer crwydro rhan uchaf Dyffryn Dyfrdwy a Mynyddoedd y Berwyn.

Darganfod Corwen

Darganfod Corwen

Archwiliwch harddwch, hanes a bywyd gwyllt Corwen a'r gorsafoedd rheilffordd yn Nyffryn Dyfrdwy.

Download

Taflen Crwydro Corwen

Taflen Crwydro Corwen

Llwybr tref cyfareddol, rhestr o ffeithiau diddorol, hanes Owain Glynd­r ac arwyddbyst i leoedd cyfagos o ddiddordeb, yn cynnwys Capel y Rhug ac Eglwys Llangar.

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter