AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Dyffryn Dyfrdwy

Mae rhai o dirweddau a safleoedd treftadaeth mwyaf eiconig Cymru i’w cael yn yr estyniad deheuol i AHNE Bryniau Clwyd a gyhoeddwyd yn 2011.

Dee Valley

Mae system LANDMAP Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi rhannu 230 cilometr sgwâr yr AHNE estynedig yn wyth ardal, sef:

Cerrig calch Graianrhyd i Landegla

Ardal o olygfeydd carreg galch carbonifferaidd gwahaniaethol, yn cynnwys bryniau carreg galch, brigiadau creigiau, dyffrynnoedd a choedydd. Mae’r coed a therfynau’r caeau’n dilyn llinellau cymhleth creigiau’n cribo i ffurfio tirwedd tir ffermio gaeëdig glyd, ar raddfa fechan. Mae waliau ac adeiladau carreg galch yn nodweddiadol. Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Graig wedi’i warchod oherwydd ei laswelltir carreg galch ac asidig. Mae’r garreg galch yn cynnwys safleoedd ogofaol eithriadol gyda gweddillion Neolithig.

Dyffryn Morwynion

Mae’r dyffryn wedi’i gau i mewn i’r de gan grib uchel Mynydd Llandysilio a Chyrn-y-Brain ac i’r gogledd gan fryniau is, tonnog Llanelidan a Gwyddelwern. Mae’r afon yn codi yn y dyffryn cul i’r gogledd o Goedwig Llandegla, gan lifo i’r de-orllewin i ymuno â’r Ddyfrdwy yng Ngharrog. Mae i’r dyffryn hir, llydan lechweddau graddol o dir pori wedi’i wella o fewn terfynau cymysgedd o wrychoedd a waliau cerrig. Mae Caer Drewyn, caer gynhanesyddol genedlaethol bwysig, yn dynodi pen gorllewinol yr ardal.

Mynydd Llandysilio

Rhan o un o’r tirweddau gweundir agored gorau ei gyflwr yng Ngogledd Cymru gyda chynefinoedd prin a phwysig a diddordebau hanesyddol. Mae’r tir, y mae’r rhan fwyaf ohono’n gomin agored, yn codi i dros 500m. Mae’r rhosydd sych sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o’r ardal yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) rhyngwladol bwysig Mynyddoedd y Berwyn a De Clwyd ac yn darparu cynefin ar gyfer adar sy’n magu yn yr ucheldir, yn cynnwys y rugiar ddu, yr ehedydd, corhedydd y coed a’r gylfinir. Mae llinell y grib yn dangos tystiolaeth helaeth o anheddu cynhanesyddol yn cynnwys henebion megis bryngaer Moel y Gaer. Mae cynnwys tir o gwmpas Yr Oernant yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yn amlygu pwysigrwydd chwareli llechi’r ardal.

Mynyddoedd Cyrn-y-Brain a Chefn y Fedw

Mae’r ardal eang hon yn ymestyn dros yr holl ucheldiroedd a gweundiroedd agored i’r gogledd o Ddyffryn Dyfrdwy. Mae’n cynnwys Mynydd Cyrn-y-Brain, Coedwig Llandegla a Chefn y Fedw yn ogystal ag ardaloedd dwyreiniol mwy ymylol Gweundiroedd Llandegla, Mynydd Esclusham a Mynydd Y Mwynglawdd. Mae’r rhan fwyaf ohoni’n llwyfandir gweundir llydan, agored, unig, digysgod ac mae’n perthyn i ACA Mynyddoedd y Berwyn a De Clwyd. Mae poblogaethau sylweddol o adar magu yn cynnwys y cudyll bach, mwyalchen y mynydd, y dylluan glustiog a’r cwtiad aur. Mae Chwarel Pant Glas yn safle allweddol ar gyfer daeareg adeileddol, mae calchbalmentydd yn Aber Sychnant a system ogofâu cenedlaethol bwysig yn Y Mwynglawdd. Mae tystiolaeth helaeth o anheddu cynhanesyddol ar ffurf carneddau a meini hirion ar dir uchel.

Llechweddau dwyreiniol Cefn y Fedw

Tirwedd gaeëdig, fugeiliol gan mwyaf a saif ar gwr dwyreiniol yr ardal ac sy’n wynebu Wrecsam a Gwastadedd Sir Gaer. Er yn dir ffermio wedi’i wella yn bennaf, mae’n cynnwys llawer o goed gwrych a choedlannau bychain. Mae golygfeydd hir tuag at i mewn a thuag at allan o blith y ffermydd unig a’r pentrefannau bychain. Ymhellach i’r dwyrain mae’r ffermydd unig a’r pentrefannau bychain yn ildio lle i aneddiadau mwy megis Penycae a Garth ac mae dylanwad codi glo yn dod yn amlwg. Mae llawer o’r dyffrynnoedd bychain yn cynnwys gweddillion coetiroedd lled-naturiol hynafol (yn cynnwys coetir derw ac ynn yr ucheldir) sy’n safleoedd bywyd gwyllt lleol. Mae bryngaer Pen y Gaer o bwysigrwydd hanesyddol arbennig.

Dyffryn Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy

Wedi’i chau i mewn i’r gogledd gan Fynyddoedd Llandysilio a Chefn y Fedw ac i’r de gan ran ogleddol Mynyddoedd y Berwyn, dyma dirwedd eiconig o ansawdd golygfaol a gweledol wirioneddol arbennig. Mae wedi ysbrydoli llên gwerin, llenyddiaeth, paentiadau a cherddoriaeth dros ganrifoedd lawer. Ffurfiwyd rhandiroedd yr ucheldir a’r dyffrynnoedd gan ffawtiad a màs-symudiad a chawsant eu naddu’n ddiweddarach gan rewlifoedd. Mae’r ardal yn ffurfio porth dramatig i Ogledd Cymru gydag ochrau dyffrynnoedd serth, ystumiau rhychog dwfn a therasau ffosilau. Ar yr ochr ogleddol mae creigiau carreg galch carbonifferaidd Creigiau Eglwyseg (445m) - y llechweddi sgri mwyaf trawiadol ym Mhrydain - yn bargodi dros ddyffryn ochrol dwfn Afon Eglwyseg. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a’r Rhodfa Banorama, sy’n rhedeg ar hyd troed Creigiau Eglwyseg, yn cynnig golygfeydd lefel uchel syfrdanol ar draws y dyffryn. Nodweddir ochr ddeheuol y Ddyfrdwy gan gyfres o grognentydd serth. Mae SoDdGA Afon Dyfrdwy yn bwysig oherwydd ei eog, dyfrgwn a chynefinoedd gwlyptir. Mae henebion yn cynnwys Castell Dinas Brân ac Abaty Glyn y Groes ac mae llawer o Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte yn gorwedd oddi mewn yr ardal hon.

Gogledd Mynyddoedd y Berwyn

Ar gwr deheuol Dyffryn Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, mae’r dirwedd hon yn ddiamheuol wahanol i’r ucheldiroedd ymhellach i’r gogledd. At ei gilydd mae’n symlach, yn fwy unig a llai cyfannedd. Mae’r ardal hon yn rhan o SoDdGA, ACA ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig Ewropeaidd Mynyddoedd y Berwyn, sy’n cynnwys rhostir ucheldir, gorgors a mignen o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’n cynnal ysgyfarnog, bras y gors, cudyll bach, hebog tramor, barcud coch, bod tinwyn, cwtiad aur a grugiar goch a grugiar ddu. Mae Coedwig Ceiriog yn darparu cynefin i’r wiwer goch hefyd. Mae mawndiroedd yr ardal o bwysigrwydd cenedlaethol, yn dangos tystiolaeth cynhanesyddol gwasgaredig o ddefnydd tir a safleoedd claddu.

Ystâd Y Waun i Froncysyllte

Yn gorwedd yng nghornel de-ddwyreiniol yr AHNE, mae i’r dirwedd hon leoliad strategol hollbwysig ar ffin Cymru-Lloegr ac mae’n borth i Ddyffryn Llangollen. Mae’n rhan o’r cefndir ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte ac yn cynnwys Castell Y Waun, sy’n genedlaethol bwysig. Mae’r borfa goedwigol, y parcdir a’r hen goed yn Y Waun yn gynefin â blaenoriaeth bioamrywiaeth genedlaethol, sy’n cynnal amrywiaeth o saproffytau ac infertebratau. Mae nifer o goetiroedd hynafol a safleoedd bywyd gwyllt lleol yn y parc ac ymhellach i’r gogledd ger Froncysyllte hefyd.

Footer

Gwnaed gan Splinter