AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg

Mae Dyffryn Llangollen yn cynnig cyfuniad mor hynod o dirffurfiau naturiol llwm a nodweddion hynafol a chyfoes o waith llaw dyn fel ei fod wedi’i gynnwys yn y Gofrestr Tirweddau Hanesyddol.

 

Mae’r rhestr dwy gyfrol hon o 58 o wahanol leoedd yng Nghymru wedi’i llunio gan Cadw mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd.

Mae diwydiant wedi llunio’r dirwedd hon er canrifoedd:

Grym dr

Mae’n ymddangos y bu melinau blawd dr mewn bodolaeth ers y drydedd ganrif ar ddeg, yn cynnwys y rheini’n perthyn i Abaty Glyn y Groes. Roedd melinau blawd a melinau ar gyfer bwyd anifeiliaid yn dal i weithio yn y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mewn rhai achosion yn nechrau’r 20fed ganrif yn Llangollen a Threfor.

Mae gan y diwydiant gwehyddu yn yr ardal ddechreuadau yr un mor gynnar a daeth Dyffryn Dyfrdwy yn ardal cynhyrchu brethyn bwysig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan adeiladwyd melinau mawr tebyg i’r rheini yn Swydd Gaerhirfryn a Swydd Gaerefrog. Caeodd yr olaf o dair melin Llangollen yn 1960.

Cloddio metelau

Ar ochr ogleddol Cefn y Fedw mae tirwedd i’w chael gydag olion helaeth cloddio am fwynau plwm, arian a sinc. Saif lefelydd cloddfa Parc y Pwll ar y gweundir tonnog, gyda’i orchudd o rug ac mae’r tomenni gwastraff a oedd yn ganlyniad suddo siafftiau a phrosesu mwyn yn dal yn foel o lystyfiant ac yn sefyll allan yn noethlwm.

Roedd dyddiau gorau’r mwyngloddiau yn yr 1860au a’r 1870au ac, ar wahân i ddinistrio’r cwt injan, mae’r ardal i raddau helaeth heb ei heffeithio gan weithgaredd diweddarach. Felly mae’r cloddwaith sydd ar ôl yn cynrychioli tirwedd mwyngloddio ffosiledig i raddau helaeth.

Mae dwy redfa o siafftiau'n dilyn y prif wythiennau, er bod y rhan fwyaf o'r gweithgaredd wedi'i ganoli o amgylch siafft fawr gyda thomenni rwbel helaeth, yn agos i ba rai y mae gweddillion y cwt injan ac arglawdd sylweddol ar gyfer tramffordd a oedd yn cysylltu'r safle ag ail ardal o lefelydd.

Mae dwy system ddyfrffos bwysig a oedd yn tynnu dr o nant Aber Sychnant, un i gyflenwi cloddfeydd Y Mwynglawdd a’r llall i fwydo cronfa fawr, i’w gweld o hyd hefyd.

Cloddio llechi

Mae’r llechi Silwraidd o gwmpas Llangollen wedi’u gweithio ers yr ail ganrif ar bymtheg. Ond dim ond gyda dyfodiad y gamlas ac yn ddiweddarach y rheilffordd y dechreuodd y diwydiant llechi lleol ddechrau allforio y tu allan i’r ardal i Wrecsam a Chanolbarth Lloegr.

Safai un clwstwr o chwareli mawr o amgylch godreon Mynydd Llandysilio a Bwlch Rhiwfelen yn yr Oernant, Moel-y-faen, Clogau (Berwyn), Craig y Glan, Cymmo a Rhiw Goch. Er bod y rhan fwyaf yn segur yn awr, maent yn dal i edrych dros y dirwedd, gan ffurfio twmpathau enfawr a chloddiadau mawr wedi’u llenwi â dr. Mae hen adeiladau chwarel, tramffyrdd ac incleiniau i'w gweld o hyd.

Mae Chwarel Lechi’r Berwyn yn SoDdGA ac yn Safle Adolygu Cadwraeth Ddaearegol (GCRS). Mae’n dal i gynhyrchu cynhyrchion llechi arbenigol ac mae’i lefelydd yn werthfawr i astudio creigiau a ffosilau Silwraidd.

Roedd gweithfeydd llechi Pentrefelin ar lanfa’r gamlas yn Llangollen yn trin deunydd a ddygwyd o chwareli Bwlch Rhiwfelen gan dramffordd yr Oernant.

Daliodd i weithio tan yr 1920au er gwaethaf problemau tipio a chwynion ynghylch difwyno’r afon. Cymerwyd yr adeiladau drosodd yn y diwedd gan Amgueddfa Foduron Llangollen.

Cloddio carreg galch

Roedd odynau calch ar ymyl y gamlas yn gweithio ar ochr ddeheuol y dyffryn yn Froncysyllte o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, gan ddefnyddio carreg o’r  brigiad arunig o garreg galch yn chwareli Pen-y-Graig. Fe’i cludwyd ar i lawr gan gyfres o dramffyrdd ac incleiniau sydd i’w gweld o hyd heddiw.

Ar ochr gyferbyn y dyffryn, roedd yr odynau calch yn Nhref-y-nant yn dibynnu ar garreg galch a ddygwyd i lawr o Greigiau Trefor, ble mae llawer o weddillion y diwydiant carreg galch yn goroesi, yn cynnwys chwareli, rheiliau tram ac odynau calch.

Cynhyrchu brics a theils

Ymddangosodd diwydiant brics a theils ffyniannus ym mhen dwyreiniol Dyffryn Dyfrdwy yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar glai o ansawdd da o welyau marl lleol a dyddodion glo o faes glo Rhiwabon.

Yn agos at y rheilffordd ac at y gamlas, roedd yr ardal yn gweddu i’r dim i gwrdd â galwadau’r aneddiadau diwydiannol a oedd yn ehangu yn Wrecsam a’r ganolfan dwristiaeth a oedd yn tyfu yn Llangollen.

Agorodd gwaith brics yn Garth yn agos i dafarn yr Australia Arms yn 1862 ac yn fuan roedd yn cynhyrchu “llawer o frics coch ceirios da, graenus a defnyddiol”.

Erbyn y 1860au roedd y gwaith brics yn Nhref-y-Nant yn gweithio chwe odyn gan arbenigo mewn cynhyrchu pibelli glanweithiol gwydrog – yr oedd galw mawr amdanynt ar ôl Deddfau Iechyd Cyhoeddus 1848 a 1858. Caeodd yn 1958 ac fe’i prynwyd gan Weithfeydd Cemegol Monsanto. Heddiw yr unig weddillion sydd ar ôl yn gyfan ydy dau biler brics giatiau’r swyddfa.

Footer

Gwnaed gan Splinter