AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Mae lleoliad neilltuol o bictiwrésg Llangollen ger dyfroedd rhuthrol Afon Dyfrdwy, wedi’i hamgylchynu gan fryniau a gyda chraig Castell Dinas Brân yn gwylio drosti, wedi’i gwneud yn un o gyrchfannau gwyliau mewndirol mwyaf poblogaidd Cymru ers y cyfnod Sioraidd diweddar. 

Mae enw a gwreiddiau’r dref yn mynd yn ôl i’r 6ed ganrif, pan sefydlodd y sant Cymreig-Gwyddelig, Sant Collen, arwr llawer o chwedlau, ei eglwys (“Llan Collen”) yma. Erbyn heddiw mae’r eglwys yn enwog yn bennaf am y “toeau angel” cerfiedig anhygoel o’r cyfnod Tuduraidd cynnar a’i chofeb i “Ferched Llangollen”.

Fe wnaeth ffordd o fyw ramantaidd y cwpwl Sioraidd aristocrataidd yma, y mae’u cartref, Plas Newydd yn atyniad i ymwelwyr erbyn hyn, helpu i sefydlu ffyniant Llangollen fel tynfa i deithwyr. Bellach mae Llangollen yn enwog hefyd fel canolbwynt yr Eisteddfod Ryngwladol flynyddol bob mis Gorffennaf, ble mae Cymru’n croesawu’r byd mewn gyl liwgar o ganu a dawnsio, gyda chystadleuwyr a chyfranogwyr o bob cwr o’r byd. 

International Eisteddfod

Mae pedair priffordd bwysig yn cyfarfod yn Llangollen: ffordd coets fawr Telford o Lundain i Gaergybi ar ei ffordd i Ddulyn, Afon Dyfrdwy, Camlas Llangollen a’r rheilffordd stêm wedi’i hadfer sy’n rhedeg o’r dref cyn belled â Charrog. 

Gall Llangollen ymfalchïo hefyd mewn rhaglen o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn, yn cynnwys cyngherddau, gornestau chwaraeon ac arddangosfeydd o fri, yn ogystal ag ymarferion côr mewn tafarnau lleol. 

Horseshoe Falls

Os nad ydy hyn i gyd yn ddigon, mae Rhaeadr y Bedol (rhan o Safle Treftadaeth y Byd sy’n ymestyn yr holl ffordd i Ddyfrbont Pontcysyllte a thu hwnt), Abaty Glyn y Groes a Philer Eliseg i gyd yn gyfagos. Mae llwybrau cerdded ag arwyddion yn cysylltu’r rhain â thrysorau eraill yr ardal.

Taflen Llwybr Hanes Llangollen

Taflen Llwybr Hanes Llangollen

Chwilotwch hanes Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy oddi amgylch ar y llwybr crwn ag arwyddion yma sy’n hawdd ei ddilyn. 

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter