AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Llinell amser y bryngaerau

A ydych am gael gwybod sut oedd bywyd yn ein bryngaerau dros yr ychydig filoedd flynyddoedd diwethaf? Bydd y cymeriadau hyn yn dweud y cyfan amdano wrthych yn eu geiriau eu hunain.

Mesolithig

Pwy sy’ ’na?! Well ichi fod yn ofalus yn crwydro o gwmpas ffor’ma- fe allech fod wedi cael eich hun ar flaen fy mhicell!

Mesolithic

F’enw i ydi Helfeydd, Helf, ac mae’n well i chi lynu’n agos ataf os ydych ag eisiau bod yn ddiogel. Nid dim ond picelli y mae angen ichi boeni yn eu cylch ar y bryniau ’ma.

Dewch efo fi am ršan. Mi wnaf eich arwain drwy’r darn yma o goedwig ar fy ffordd yn ôl i’m gwersyll. Dwi ag angen rhoi trefn ar ’chydig o bethau ar y ffordd. Ac i dalu’n ôl imi am eich cadw’n ddiogel gellwch fy helpu i’w gwneud nhw.

Dyma chi, cym’rwch hwn. Fe welwch chi fod gennym y celfi gorau yma. Maen nhw’n cael eu gwneud yn lleol i fyny yn y bryniau yn ymyl y môr mawr y gellwch ei weld draw acw i’r gogledd. Wedi’u gwneud o’r garreg orau ar y tir yma. Ac maen nhw’n torri’n dda.

Felly, helpwch fi i dorri’r ’chydig goed ’ma i lawr. Yn haws eu llosgi i lawr fel arfer ond ddim yn y tywydd yma...  Gwneud llecyn agored yn y coed welwch chi. Yn denu’r bwystfilod i bori. Mae’n haws inni anelu atynt gyda’n saethau a’n picelli gan nad oes dim coed ar y ffordd. Ac maen nhw’n sefyll yn llonydd tra byddan nhw’n sglaffio’r holl laswellt ’na - y petha’ barus iddyn nhw. Eitha’ gwaith iddyn nhw medda fi. Ac mae’n gwneud ein cinio ni’n gymaint hynny’n haws ei gael, po fwyaf o’r llecynnau agored yma sydd gennym. Felly torrwch y rhain i lawr imi, wnewch chi?

Dewch yn eich blaen ’te, yn ôl i’m gwersyll ršan. Mae’r bryniau ’ma’n goed drostynt ond rydych yn dod i wybod eich ffordd o gwmpas yn ddigon hawdd. Ršan ein bod yn torri rhai o’r coed i lawr mae hi hyd yn oed yn haws gwybod ble’r ydych. Golygfa dda o ben y bryn ’ma a dim ond yr un tro yma fe awn ni i’r copa fel eich bod yn gallu gweld ble’r ydych.

Fe’ch gadawaf ršan, daliwch chi ymlaen ffordd hyn. Gen i gig carw rhost blasus yn aros amdanaf ar y tân. Gewch chi hyd i’ch ffordd o fan yma ’mlaen…

Yr Oes Haearn

Helô ’na, ddieithryn. Yma i ddathlu genedigaeth Bryn y babi ydych chi? Peidiwch â phoeni, dwi’n gwybod ei fod braidd yn ddychrynllyd dod at y cloddiau a’r ffensys a’r giatiau mawr yma i’r gaer, ond gaf i chi drwodd, gadewch y gwarchodwr i mi.

Iron Age

Dewch yn eich blaen, cariad, gadewch inni fynd i mewn i’r gaer. Gwen Weaver ydw i ac mae’n bleser eich cyfarfod. ’Dyw hi ddim mor ddychrynllyd unwaith y byddwn y tu mewn! Hwyrach ei bod yn edrych yn frawychus ac ia, dyna’r pwynt, ond mewn gwirionedd rydym yn gymuned gyfeillgar glên o grefftwyr, masnachwyr, fel fi. A ršan fod Rhodri’r Gof yn gwneud y metel sgleiniog newydd ’na “haearn” trwy ddewiniaeth, medd rhai, mae gennym fwy o bobl nag erioed yn dod i brynu ein nwyddau.

Mae llawer defnydd i’n cartref, bryngaer Penycloddiau, a bu rhywun yn byw yma am genedlaethau! Credwn ei bod hi’n un o’r bryngaerau mwyaf yn y wlad ’ma ac mae llawer o deithwyr yn ymweld â hi i fasnachu ac i ddod i’r farchnad. I ddathlu genedigaethau, marwolaethau a phriodasau ein cyfeillion a’n teuluoedd hefyd. Paham na fyddech am ddod i ddathlu yn yr anheddiad gwych yma - gellir ei weld am  filltiroedd!

Rydym yn ffermwyr hefyd, peidiwch ag anghofio hynny! Rydym yn tyfu grawn ar bennau’r bryniau a heb ein defaid a’n gwartheg, sut y gallem fasnachu ein cig, llefrith a gwlân? Mae’r anifeiliaid yn ein cyflenwi â bwyd, diod, lledr a chnu fel ein bod yn gallu goroesi.  Mae’r ffosydd a’r cloddiau ’ma o gwmpas ein hanheddiad a’r ffens sy’n amgylchynu’r gaer yn atal ein stoc rhag mynd ar goll - ac i atal bleiddiaid rhag dod i mewn i’w dwyn nhw oddi arnom wrth gwrs!

Ond mae’n dda gennym gadw pethau eraill rhag dod i mewn i’n hanheddiad hefyd, wyddoch chi. GORESGYNWYR! A oeddech chi wedi colli eich gwynt ar ôl ichi gerdded i fyny’r bryn? Fe ddylech chi fod! Dychmygwch redeg i fyny’r bryn gyda chleddyfau a thariannau trwm i ymosod arnom yma. Dyna pam y mae Penycloddiau mor ddiogel! Mae bod ar y bryn yn golygu y gallwn weld pobl yn dod. Mae’n golygu eu bod yn rhy flinedig i ymladd erbyn iddyn nhw gyrraedd yma! A’r ffosydd a’r cloddiau anferth ’ma (rai ohonyn nhw’n 20 troedfedd o uchder!), wel, maen nhw’n golygu y gallwn ymosod ar ymosodwyr wrth iddyn nhw geisio dod i mewn ac, wrth gwrs, ni sy’n ennill bob tro!

Ond cymuned heddychlon ydym ni yma ym Mhenycloddiau.  Ffermwyr hapus, yn mwynhau’r awyr iach ar y llechweddi, yn gwarchod ein stoc wrth iddynt bori, yn coginio ar ein tanau agored ac yn cysgu’n braf o amgylch yr aelwyd yn ein tai crynion, yn gysurus y tu mewn i’r waliau plethwaith a chlai ac o dan y to gwellt.

Mae sôn am y tân yn fy ngwneud yn llwglyd - mae’n amser cinio. Welai chi yn y parti, hwyl!

Yr Oesoedd Tywyll

Helô ’na, Grug ydw i. 

Rwyf yn byw yng Nghwmwd Iâl yng Nghymru. Yn fwy na thebyg byddwch wedi clywed am ein tiroedd gan eu bod dafliad carreg o’r gwrthglawdd newydd y mae Brenin Mercia wedi gorchymyn ei adeiladu. Mae’n cael ei adnabod fel Clawdd Offa ac mae’n ffin rhwng ein tiroedd ni a thiroedd Brenin Mercia, Offa.

Dark AgesRwyf yn byw ar y bryniau mawr - y rhai cyntaf y byddwch yn eu cyrraedd yng Nghymru, y rhai sy’n cysgodi Lloegr. Mae rhai pobl yn credu mai’n hynafiaid ydynt, yn edrych dros ein tiroedd ac yn ein hamddiffyn rhag goresgynwyr!

Mae’r bryniau’n rhan o’n bywoliaeth hefyd, rydym yn eu defnyddio bob dydd. Ers cenedlaethau bu fy nheulu’n ceisio tyfu cnydau ar y bryniau, ond ’doedd y pridd ddim digon da. Mae planhigyn porffor sy’n ffafrio’r pridd gwan yma wedi dechrau lledaenu ac rydym yn ei alw’n Grug - yn union fel fi! Mae’n ddefnyddiol iawn!

Pan fydd y grug yn mynd yn hen mae bron fel pren ac mae o’n dda iawn ar gyfer gwneud ysgubau i ysgubo. Mae oglau hyfryd arno hefyd ac mae’n dda i liwio brethyn.

Gan nad ydym yn gallu tyfu unrhyw beth arall yn y bryniau, rydym yn troi ein gwartheg a’n defaid allan i bori yno. Maen nhw’n hoffi bwyta’r grug pan fydd yn ifanc.

Rwyf yn meddwl ei bod yn rhaid ei fod yn blanhigyn hud. Un diwrnod roedd y bryniau’n wenfflam. Ni wyddom hyd heddiw beth achosodd y tân ond o fewn chwe mis roedd y llus duon bach yn tyfu’n fwy suddlon nag erioed ac ar ôl blwyddyn roedd y grug wedi dychwelyd i’r man ble’r oedd wedi llosgi’n ulw ac roedd yn aeddfed ac irlas! Mae’r un fath pan fyddwn yn torri’r planhigyn yn ei ôl i’w ddefnyddio gartref; mae’n tyfu’n ôl yn well po fwyaf yr ydych yn mynd ag ef ymaith - hudolus!

Hwyl Fawr.

Hwyl Fawr.

Yr Oesoedd Canol

Cyfarchion! Syr Clwydalot at eich gwasanaeth!

Middle AgesGwelaf eich bod yn teithio’r bryniau ’ma – wel! A ydych yn gwybod eich bod yn troedio tiroedd Iarll Rhuthun?

Rwyf yn gwasanaethu yn y Castell Coch yn y Gwernfor. Byddwch yn ei adnabod yn dda, gan fod Castell Rhuthun wedi’i wneud o’r tywodfaen coch gorau ac mae’n sefyll 100 troedfedd uwchben y gors fawr yn y dyffryn.

Rwyf yn gweithio i’m Harglwydd ac fe wnaf godi arfau drosto ar y Gororau gwyllt ’ma, ond ar y bryniau ’ma rwyf yn fwyaf adnabyddus fel “Fforestwr”. Mae’n fraint gennyf fy mod wedi fy ymddiried i warchod y Parc Ceirw ar y bryniau ’ma ac i oruchwylio gwerthiant eu cynnyrch.

Oes, mae gennyf y fraint hefyd o hela fy hun, sy’n darparu gwledd ardderchog ar gyfer fy mwrdd. A diwrnod da o adloniant, wrth gwrs – ’does dim curo ar ddiwrnod da yn marchogaeth eich ceffyl yn y goedwig gyda chyfeillion hoff.

Rwyf wedi bod mor ffyddlon i’m Harglwydd fel bod gennyf rai hawliau llesiannol eraill hefyd! Mae gennyf fesobr i bori fy moch ar fes cwympedig, oes wir. Fy moch i ydi’r rhai tewaf yng Nghymru!

Yn fwyaf pwysig gallaf weinyddu dirwyon am dresmasu – a dyna pam y mae gennyf gymaint o ddiddordeb yn yr hyn yr ydych chi’n ei wneud yma… rwyf wedi delio â chymaint o botseriaid sydd wedi bod ar ôl Ceirw a Baeddod yr Arglwydd ar y tiroedd ’ma yn fy amser, felly well ichi ei bachu hi! Fe adawaf ichi ddal i fynd ar eich ffordd y tro yma, ond y tro nesa’ fe allech gael eich dirwyo! EWCH!

Fictoraidd

Cyfarchion! F’enw ydi’r Parchedig Drewyn ac rwyf yn falch eich bod wedi dod i weld ein hymchwiliad bach. Fel y gellwch weld, rydym yn cloddio’r twmpath ’ma gan ein bod yn credu ei fod yn grair hynafol o’r gorffennol ac rydym yn gobeithio dod o hyd i drysorau ein hynafiaid wedi’u claddu yma!

Victorian

Rwyf wedi astudio llawer o’r testunau a’r llyfrau hanesyddol ac rwyf yn cynnal yr hyn ydym yn ei alw’n “gloddiad archeolegol” - ia, yn union! Felly rydym wedi torri twll trwy ganol y twmpath i weld beth allwn ddod o hyd iddo.

Fe allech ddweud mai dim ond “y ffasiwn” ydi edrych ar y creiriau hyn heddiw a’i bod hyd yn oed yn fwy ffasiynol os oes gennych gofadail yn eich iard gefn, ond ’tydi hi’n gyffrous bod â’r cyswllt yma â’r gorffennol? Rydych yn darllen am drysorau hynafol yn cael eu darganfod dros y môr, felly paham ddim ym mryniau Clwyd hefyd?

Wel, ia, hyd yma ’dydym ddim wedi dod o hyd i ryw lawer ond mae gobaith o hyd. A wyddoch chi byth beth ddeil y dyfodol ar gyfer archeoleg, felly byddwn yn gadael rhai o wrthrychau heddiw ar ôl. Mae hyn yn golygu y bydd pobl yn y dyfodol yn gwybod ein bod wedi bod yno o’u blaen. Ceiniog ddyddiedig efallai, neu botel, neu efallai hyd yn oed goes y cetyn clai a dorrais yn ddamweiniol y bore ’ma. Digon hawdd ei wneud, pethau tila ydyn nhw!

Wel, rydym wedi darganfod bod y twmpath hwn yn bendant wedi’i wneud gan ddyn yn hytrach na’i fod yn ddaearegol. Unwaith y cawsom y dywarchen oddi ar y brig gallem weld y cerrig i gyd wedi’u pentyrru fel wal oddi tanodd. Mae hwn yn bendant wedi’i adeiladu, nid ei ffurfio - newydd cyffrous iawn!

Wel, dwi’n gobeithio y dewch chi’n ôl ryw ddiwrnod arall i weld sut ddaethom ymlaen. Twmpath glaswelltog mawr y tu mewn i gaer hynafol - rydym yn sišr o ddod o hyd i rywbeth!

Dydd da!

Canol yr 20fed ganrif

S’mai, Bryn ydw i!

Rwyf ar drip i Gymru gyda’m ffrindiau o’r Gršp Sgowtiaid ym Mhenbedw. Rydym yn dod yma mor aml ag y gallwn i wersylla a mwynhau’r awyr agored ardderchog. Rydym yn gweithio tuag at fathodyn!


Mid 20th Century

Rwyf wedi fy enwi ar ôl fy Nhaid sy’n dod o’r cyffiniau yma.  Gyda’r enw Bryn efallai mai dyna paham fy mod yn hoff o Foel Famau – y bryn mwyaf y ffordd yma!

Roeddwn yn arfer byw gyda Taid yma yng Nghymru ychydig flynyddoedd yn ôl. Faciwî oeddwn i. Yn falch o fod gartref ršan. Roedd yn adeg ddychrynllyd gyda’r holl fomiau ’na, ond rwyf yn falch fy mod wedi fy ngyrru i rywle mor braf. Nid fy mod yn cofio llawer, ’doeddwn i ond bach, ond rwyf yn cofio mam yn codi llaw arnaf wrth imi gychwyn ar y trên am Gymru. Aeth y rhan fwyaf o bobl i Golomendy heb fod ymhell oddi yma, ond arhosais i ar y ffarm gyda Nain a Taid.

Rwyf yn dod yn ôl yma’n awr i gerdded y bryniau. Rydym yn cael y bws i’r Wyddgrug ac yna’n cerdded i Loggerheads. Rydym yn gofyn i ffermwyr a gawn ni wersylla yn eu caeau a’u hysguboriau ac yna rydym yn defnyddio mapiau i fynd rownd y bryniau ac yn mynd i fyny Moel Famau at yr hen dšr. Pwt o sylfaen ydi’r cyfan sydd yno’n awr ond gallaf weld Lerpwl o’r copa!

Mae’r bws am adref yn gadael mewn pum munud felly rhaid imi eich gadael yma. Bydd mam yn fy lladd os byddaf yn hwyr i de!

Ta’ra ršan!!

Heddiw

Helô, Grug ydw i ac rwyf yn pori fy nefaid ar weundir grug toreithiog Mynyddoedd  Llandysilio.

Nid ydi fy ffarm ymhell o bentref Llandysilio, ger Llangollen yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae’r ffarm wedi’i throsglwyddo o un genhedlaeth i’r llall i mi. Gyda fy ffarm a thir mae hawliau pori hanesyddol pwysig i roi anifeiliaid ar dir comin Mynyddoedd Llandysilio.

Present dayMae hyn yn gaffaeliad enfawr i ni fel ffermwyr gan ei fod yn golygu bod gennym le ychwanegol i roi ein defaid. Gallwn orffwys y caeau yr ydym yn berchen arnynt yn y dyffryn trwy roi defaid i fyny ar y gweundir grug. Maen nhw wrth eu bodd yn bwyta egin ifanc newydd y grug a’r llus blasus sy’n carpedu’r bryniau.

’Dydi’r defaid ddim yn hoff o’r grug hžn chwaith, felly mae’n rhaid inni reoli’r gweundir yn unol â hynny i wneud yn sišr fod yna glytwaith o rug o wahanol oed. Bob gaeaf rydym yn llosgi neu’n torri stribedi o’r gweundir, sy’n arwain at dyfiant newydd blasus. Mae’r llus yn ffynnu ar ôl y llosgi hefyd! Mae’r grug iau byrrach yn ei gwneud hi’n haws i’n defaid fynd o gwmpas y llechweddi, fel eu bod ar wasgar ar y gweundir. Petai i gyd yn rug hžn, hirach, prennaidd nid yn unig ni fyddai’r defaid yn ei fwyta, ond byddai’u coesau bach yn ei chael hi’n anodd symud o gwmpas ynddo, hefyd!

Mae’r llosgi a’r torri yma’n gwneud y mynydd yn lle gwell i’r adar a’r anifeiliaid prin sy’n byw yma hefyd. Rwyf hyd yn oed wedi gweld y rugiar ddu yn arddangos yn y darnau a dorrwyd! Ac rydym wedi’u gyrru o’u cuddfannau mewn grug dwfn pan fyddwn yn hel y defaid!

Na, ’dydym ddim yn poeni gormod ynghylch y defaid yn mynd ar goll ar y mynydd- mae’r defaid yn glyfar iawn a dweud y gwir! Mae’r defaid mewn oed yn gwybod terfynau eu tiriogaeth, neu eu “cynefin”, a byddant yn dysgu hyn i’w hšyn, felly ’dydyn nhw byth yn crwydro’n rhy bell. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws inni ddod o hyd iddyn nhw hefyd, pan fydd hi’n amser eu hel nhw at ei gilydd.

Rwyf yn ystyried fy hun mor lwcus fod gennym y dirwedd hardd yma fel rhan o’m cartref. Weithiau dim ond esgus da i fynd allan i’r awyr agored i fwynhau’r awyr iach a’r olygfa gyda’m cšn ydi mynd i edrych y defaid!

Footer

Gwnaed gan Splinter