AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Animeiddio Adluniad

Cipolwg cyflym

Moel Arthur - aneddiad cynnar

Er mai dyma un o'r bryngaerau lleiaf yn y Bryniau mae yma amddiffynfeydd trawiadol, yn enwedig i'r gogledd. A yw’r amddiffynfeydd hyn yn awgrymu mwy o fygythiad ac ymosodiadau o'r arfordir? A yw'r dystiolaeth o fwyell o'r oes efydd a 'sawna' yn dangos mai hwn oedd un o'r setliadau cynharaf?


close nav
close nav

Oriel Ddelweddau


close nav

Gwybodaeth

Bryngaer fechan gron sy’n coroni bryn amlwg iawn sy’n edrych dros Ddyffryn Clwyd i’r de o Benycloddiau ydy Moel Arthur. Ond er ei bod yn ymestyn dros ddau hectar yn unig, mae’n meddu ar rai o’r cloddiau a’r ffosydd mwyaf o’n holl fryngaerau.

Mae’r rhagfuriau hyn yn fychan ar yr ochr orllewinol, ble maent yn ffurfio’r terfyn rhwng Sir y Fflint a Sir Ddinbych, ond yn llawer mwy datblygedig i’r gogledd. Mae un fynedfa fewndro yn y gogledd-ddwyrain.

’Doedd gweithgaredd ar Foel Arthur ddim wedi’i gyfyngu i’r Oes Haearn. Mae yna domen gladdu bosibl o’r Oes Efydd yng nghanol y fryngaer a thystiolaeth o chwarelu ar ymyl deheuol y bryn.

Dywed chwedl y bu ymwela ar y bryn yn ystod y byrhoedlog ruthr am aur yng Nghilcain gan gloddwyr aur bythol-obeithiol ond siomedig gwaetha’r modd.

Gwnaeth Wynne Ffoulkes rywfaint o gloddiadau yn 1849 er nad ydy’r union leoliadau na nifer y ffosydd yn glir. Fe wnaeth ddod o hyd i ôl waliau cerrig sych wedi’u hadeiladu’n rheolaidd yn ogystal â “coarse red Roman pottery, and flint arrowheads and corroded iron” [i].

Yn 1962, yn dilyn storm ddifrifol o law, cafwyd hyd i gelc o dair bwyell fflat o’r Oes Efydd oddi mewn i’r amddiffynfeydd [ii].

Forde Johnston sy’n nodi’r gwarchotgellau wrth y fynedfa a’r mynediad cul a gogwydd aruchel y rhagfuriau yno gyntaf. Mae’n awgrymu mai’r clawdd mewnol ar yr ochr ogleddol oedd cam cyntaf yr adeiladu gyda’r clawdd allanol wedi’i adeiladu’n ddiweddarach.

Ond mae arolwg topograffig gan Engineering Archaeology Services (EAS) yn 2006 yn awgrymu mai’r ffordd arall oedd hi. 

[i] Wynne Ffoulkes 1850 Archaeologia Cambrensis

[ii] Forde Johnston 1965 Archaeologica Cambrensis

Sut i gyrraedd yno

O’r ffordd o’r Wyddgrug i Ddinbych (A541) cymerwch y troad cyntaf i’r chwith ar ôl y troad am Gilcain. Mae’r gaer ddwy filltir i lawr y ffordd yma gyda maes parcio bychan wedi’i leoli’n agos at y safle.

Map OS: Explorer 265.
Cyfeirnod grid OS: SJ145660.

Bryngaer Moel Arthur

Bryngaer Moel Arthur

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter