AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Animeiddio Adluniad

Cipolwg cyflym

Moel Fenlli - lle poblogaidd i fyw

Gyda thystiolaeth o ffynnon ddr ffres, argae a 61 o dai crwn, oedd hon yn gymuned ffyniannus neu a fu pobl yn byw yma dros gyfnod hir o amser a newid?


close nav
close nav

Oriel Ddelweddau


close nav

Gwybodaeth

Saif Moel Fenlli yn union i’r de o Foel Famau, man uchaf Bryniau Clwyd, uwchlaw Bwlch Pen Barras ar fryn amlwg.

Bryngaer amlglawdd ydyw gyda rhagfuriau helaeth i’r gogledd a’r dwyrain ond amddiffynfeydd bychain i’r de ble mae’r llechwedd naturiol yn eithriadol o serth.

Mae’r rhagfuriau’n amgáu arwynebedd o 9.5 hectar gydag un fynedfa fewndro wreiddiol yn y gorllewin. Nid yw’n gaer gyfuchlin go iawn ond mae’n goleddfu o’r dwyrain ac mae tomen gladdu bosibl o’r Oes Efydd y tu mewn i’r gaer ym man uchaf y bryn.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y bobl a oedd yn byw y tu mewn i’r fryngaer yn casglu dr o ffynnon yn y canol.

Nodir Moel Fenlli gyntaf gan yr hynafiaethydd Tuduraidd William Camden yn 1607 yn Britannia: “For such is the wonderfull workmanship of nature that the tops of these mountaines resemble in fashion the battlements of wales. Among which the highest is Moilenlly, on the top whereof I saw a warlicke fense with trench and rampier, also a little fountaine of cleere water.”

Ar ôl darganfod celc o 1,500 o ddarnau arian Rhufeinig ar Foel Fenlli yn 1816, a ddaeth i’r golwg ar ôl llosgi grug yn ddamweiniol, dechreuodd W Wynne Ffoulkes ei raglen o ymchwiliadau yma ac ar Foel y Gaer Llanbedr a Moel Arthur.

Mae’n disgrifio “making incisions” mewn amrywiol rannau o’r gaer – yn y rhagfur i’r gogledd, rhan ddeheuol y rhagfur ble mae llwybr yn mynd i mewn i’r gaer ac mewn sawl llwyfan cwt posibl. Fe gloddiodd “trench after trench”' heb lwyddiant. “Perseverance, however, at length brought to light a piece of white pottery, the rim of some vessel...” Parhaodd y gwaith ac yn fuan bu iddynt ddod o hyd i “remarkable knife and very good glazed Roman pottery, partaking the nature of samian ware”. Roedd yr arteffactau hyn yng nghasgliad Castell Rhuthun tan ganol y 1920au pan welodd Syr Mortimer Wheeler nhw ond maent wedi mynd ar goll ers hynny.

Mae Ellis Davies yn y 1920au a Forde Johnston yn y 1960au ill dau yn disgrifio’r safle yn fanwl a nodir tua dau ddwsin o lwyfannau cytiau yn ogystal â ffynnon sych ac argae dr posibl. Mae Forde Johnston yn awgrymu dau brif gyfnod adeileddol – gyda’r cyntaf yn amgylch cyfan o glawdd, ffos ac isglawdd sgarp.

Digwyddodd rhywfaint o gloddio ymchwiliol gan Bevan Evans cyn ymweliad gan y Cambriaid yn y 1950au ond ni chafwyd hyd i ganlyniadau’r gwaith hwn eto.

Yn 2006 gwnaeth Engineering Archaeology Services (EAS) arolwg topograffig a ganfu 61 o lwyfannau cytiau posibl.

Sut i gyrraedd yno

Cymerwch ffordd yr A494 o Ruthun i’r Wyddgrug a dilynwch yr arwyddion brown am Barc Gwledig Moel Famau. Mae maes parcio Moel Fenlli gyferbyn â maes parcio Moel Famau. Er bod Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn rhedeg ar hyd gwaelod Moel Fenlli, gellwch gymryd llwybr i fyny i’r gaer yn uniongyrchol o’r maes parcio.

Map OS: Explorer 265
Cyfeirnod Grid OS: SJ163601

Taflen Moel Fenlli

Taflen Moel Fenlli

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter