AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Newyddion pwysig

Digwyddiadau mawr, gwobrau amgylcheddol, prosiectau bywyd gwyllt, sylw teledu, cyfleoedd gwirfoddoli. Mae’r cyfan yn digwydd yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Dyma restr o’r storïau diweddaraf.

  • Gwarchod y Gorffennol, Paratoi ar gyfer y Dyfodol

    15.02.2017

    This needs to copy the title of the publication.

    Drwy warchod y gorffennol, rydym yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Un o'r heriau mwyaf a wynebir yma yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yw diogelu nodweddion arbennig yr ardal tra ar yr un pryd cwrdd â gofynion yr oes bresennol.

    Dyma'r her a wynebir yng Nghyrn-y-Brain, ardal fawr o weundir ar yr ucheldir i'r gogledd o Langollen, lle roedd rhaid gwneud gwaith i amddiffyn tomen gladdu o'r Oes Efydd drwy ddargyfeirio rhan o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa sy'n rhedeg trwyddo.

    A rhai metrau o gylch yr Heneb Gofrestredig, gwnaed gwaith pellach yn ddiweddar i wella'r rhan yma o'r llwybr. Gosodwyd mwy o slabiau cerrig i gymryd lle'r trawstiau o goed fel datrysiad mwy deniadol a pharhaol i ddarparu mynediad hawdd heb achosi difrod pellach i'r Ardal o Gadwraeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yma.

    O'i gymharu â safleoedd hardd Coed Hyrddyn neu Gastell Dinas Brân, mae Cyrn-y-Brain yn meddu ar brydferthwch o fath gwahanol. Er nad yw o bosib yn ymddangos mor brydferth mewn lluniau, mae'n fwy trawiadol gyda'r elfen bellennig agored yn creu synnwyr o syfrdandod i'r rhai sy'n croesi yma ar hyd y Llwybr Cenedlaethol.

    Yma mae'r tirlun yn parhau i ddangos elfen o'r symlrwydd a wynebai'r rhai a oedd unwaith yn byw yma ac, fel y dengys tystiolaeth, a fu farw yma hefyd. Heddiw, serch hynny, mae yna breswylydd arall sy'n brwydro i oroesi, mae Cyrn-y-Brain yn gartref i'r Grugiar Ddu, ac mae'r rhan yma o'r gweundir bellach yn cynnwys dros 80% o'r boblogaeth yng Nghymru.

    Diolch unwaith eto i Richard, Jack a Colin o Sgiliau Cefn Gwlad am fentro yn y tywydd gaeafol mewn amodau mor agored a hefyd i Gerddwyr Telford a Dwyrain Sir Amwythig a deithiodd yma fis Tachwedd diwethaf i helpu gyda'r gwelliannau mynediad. Gwerthfawrogir eich gwaith yn fawr!

    Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda'r tîm yma yn Llangollen, peidiwch oedi i gysylltu â ni unai ar y ffôn (01824 712791) neu drwy e-bost (aron.roberts@denbighshire.gov.uk).

    Os ydych am ganfod mwy am hanes y tirlun neu am Gyrn-y-Brain, dyma ddolen o wefan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys.

    Aron Richard Roberts

    Warden Cefn Gwlad Dan Hyfforddiant

  • Gwarchodfa Natur Ochr Ffordd

    09.12.2016

    This needs to copy the title of the publication.

    O brysgdir heb driniaeth i laswelltir llawn blodau gwyllt, dyna'r weledigaeth gydag ein gwarchodfa natur ochr ffordd wrth Rock Farm, yn agor golygfeydd allweddol o glogwyni galchfaen trawiadol Creigiau Eglwyseg, sydd yn sefyll yn aruthrol dros ran o Lwybr Clawdd Offa.

    Erbyn yr amser bydd y tegeirian porffor cyntaf wedi blodeuo, bydd bob crafiad a fflewyn wedi diflannu a bydd y dasg ddiddiolch o ymgodymu draen gwynion a chelyn yn rhoi ei gwobr deg (er gwaethaf oes o lwc ddrwg).

    Diolch mawr i Richard, Colin a Jack o Countryside Skills (contractwr lleol) am gyd o'u gwaith caled ac am adael imi ymuno gyda nhw. Hefyd i Gareth, un o'n gwirfoddolwyr, am ddod lawr i Langollen i helpu allan. Diolch o galon.

    I bawb a diddordeb y bydd yna daith gerdded tywysedig ym mis Mai 2017, pryd y byddwn yn dynodi'r holl flodau gwyllt ar y safle. Bydd mwy o wybodaeth yn agosach i'r dyddiad.

    Aron Richard Roberts

    Warden Cefn Gwlad Dan Hyfforddiant

  • Mabwysiadu Etifeddiaeth

    22.11.2016

    This needs to copy the title of the publication.

    Dyma fy unfed ddiwrnod ar ddeg fel Warden Cefn Gwlad Dan Hyfforddiant, a hyd yma rwyf wedi bod yn cymryd rhan mewn sgiliau traddodiadol megis bondocio mannau o goetir er mwyn clirio i gael gweld golygfeydd allweddol a gwella ei bioamrywiaeth, helpu'r Prif Arddwr ym Mhlas Newydd, cynnal arolygon ymwelwyr yn Rhaeadr y Bedol, gwella mannau o laswelltir calchfaen gyda blodau yn Llangollen, dyma ond ychydig o dasgau bychain sy'n cael eu gwneud i sicrhau bod Dyffryn Dyfrdwy yn aros yn ardal sy'n enwog am ei harddwch naturiol eithriadol.

    Ond er gymaint o hwyl yw trafod miri chwythu dail, neu'r perygl yn y gwaith pan mae wiwerod yn disgyn (y ddau a welais am y tro cyntaf ym Mhlas Newydd), rwy'n credu mai'r ffordd orau i ddechrau'r blog hwn yw edrych ar y darlun cyfan, 390 km₂ ohono!

    Yn ymestyn o Fryn Prestatyn i fyny'r gogledd ac i lawr i'r de i Fynyddoedd y Berwyn, mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn lleoliad sy'n adnabod rhinweddau arbennig yr ardal, ei brif bwrpas yw bod yn gadwraeth ac ehangu harddwch naturiol (gan gynnwys nodweddion planhigion, anifeiliaid a daearegol).

    Dyma ein 'Datganiad Cenhadaeth' yn gryno, un o gadwraeth rhagweithiol, oherwydd er bod y Cefn Gwlad yn ddarluniadwy, nid yw "yno" ar ben ei hun a sefydlog fel llun wedi'i beintio, ond yn hytrach mae yno o ganlyniad i filoedd o flynyddoedd o drin y tir fel tirlun byw a gweithiol.

    Mae'r dirwedd hon, sy'n wyneb ar y ddaear, yn darlunio ei hanes fel gwyneb unigolyn, pob nodwedd yn fynegiant o'i chymeriad, pob marc neu graith yn olrhain stori, storïau sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn ein cymunedau, os ydym yn eu hadnabod neu beidio.

    O fryngaerau i berthi, coedwigoedd i gaeau, mae'r tirwedd yn cynnwys etifeddiaeth pobl sydd wedi llafurio a ffynnu arni i greu'r cymunedau sydd yng ngwraidd yr hyn y gallwn ei werthfawrogi fel y Cefn Gwlad sydd yno heddiw.

    Mae'n etifeddiaeth i'w mabwysiadu, dim i'w gofio'n unig, gan sicrhau bod perthynas ymarferol gyda'n Cefn Gwlad yn parhau fel ein bod ni gyda'n gilydd yn gallu cymryd rhan yn ei stori, a bydd ei hetifeddiaeth yn parhau i'r canrifoedd nesaf, mor sicr ag Afon Dyfrdwy.

    Pwy ag ŵyr beth fydd yn dod o'n hetifeddiaeth, ond y mwyaf y mae pobl yn ymwneud â chadwraeth y Cefn Gwlad, y mwyaf y byddwn yn diogelu ei dyfodol, oherwydd nid yw'r tasgau bychain yr ydym yn eu gwneud fel Wardeiniaid Cefn Gwlad yn enfawr o'i gymharu â'r hyn y gallwn gyflawni wrth weithio gyda'r cymunedau, y bobl, sydd yng nghalon AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

    A dyma'r rheswm yr wyf yn ysgrifennu'r blog hwn, i gysylltu â chi, i roi syniad bach o'r gwaith yr ydym yn ei wneud fel rhan o'n gwasanaeth i hyrwyddo a gwarchod ein Cefn Gwlad. Felly os hoffech ddweud eich dweud neu gymryd rhan, peidiwch â phetruso, mae ein Rhaglen Gwirfoddoli ar gyfer diwedd eleni hyd at fis Mawrth 2017 wedi ei gyhoeddi.

    Ond yn bennaf oll, gwisgwch yn gynnes ac ewch allan a mwynhewch y Cefn Gwlad!

    Aron Richard Roberts

    Warden Cefn Gwlad Dan Hyfforddiant

  • Rhaglen Gwirfoddolwyr Hydref 2016 I Mawrth 2017

    21.10.2016

    This needs to copy the title of the publication.

    Yng Nghyngor Sir Ddinbych mae ein
    gwasanaethau amrywiol i gyd yn
    cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr. Gellir
    gweld manylion ynglūn â’r hyn sydd
    ar gael a sut y gellir ymgeisio drwy
    fynd i wefan Cyngor Sir Ddinbych.

    http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/gwirfoddoli/

Previous PageNext Page

Footer

Gwnaed gan Splinter