AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Navigation

Content

Animeiddio Adluniad

Cipolwg cyflym

Penycloddiau - gofod enfawr

Mae dychmygu 21 hectar yn eich pen bron yn amhosibl, felly rydym wedi gwneud hynny ar eich rhan, gan roi maint enfawr y aneddiad hwn mewn persbectif. A leolwyd y tai crwn ar hyd yr ymyl i gael cysgod gan y rhagfuriau pridd a phren? A oedd y tai crwn yn y canol yn perthyn i deulu o statws neu a oeddent yn adeiladau cymunedol pwysig?


close nav
close nav

Oriel Ddelweddau


close nav

Cannlaw Sain

1 2 3 4

Canfyddwch beth sydd wedi llunio a dylanwadu ar y dirwedd a welwch chi heddiw gan ddefnyddio eich ffôn wrth ichi gerdded. Ffoniwch 01745 222123 o’ch ffôn symudol neu lawrlwythwch y ffeiliau mp3 yma am ddim. Mae’r daith yn dechrau ym maes parcio Coed Llangwyfan rhwng Nannerch a Llandyrnog. Cewch gyfarfod cymeriadau a oedd yn byw yma unwaith a gadael iddynt eich tywys o gwmpas y nodweddion a adawsant i ni ddod o hyd iddynt heddiw.

close nav

Gwybodaeth

Penycloddiau ydy’r fryngaer fwyaf ar Fryniau Clwyd ac un o’r mwyaf yng Nghymru, yn amgáu arwynebedd o 21 hectar.

Mae’n amlglawdd (gyda ffosydd consentrig lluosog) gyda rhagfuriau eang i’r gogledd a’r gogledd-orllewin. Mae’r terfyn sirol hanesyddol rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn dilyn llawer o’r rhagfur gorllewinol.

Mae dwy fynedfa fewndro wreiddiol, un i’r de a’r llall hanner ffordd ar hyd y rhagfur dwyreiniol.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod tai wedi’u hadeiladu o amgylch ymyl y gaer i wneud defnydd o’r cysgod o’r cloddiau mawr a’r ffens bren fawr a fyddai wedi bod ar ei phen.  Fe all pyllau yng nghanol y gaer fod wedi cyflenwi’r trigolion â dr.

Mae’n bosibl y bu pobl yn defnyddio’r safle hwn hyd yn oed cyn yr Oes Haearn gan fod tystiolaeth o domen gladdu o’r Oes Efydd ym mhen gogleddol y bryn.

Fel y nododd Forde Johnston [i] nid ydy’r safle’n gaer gyfuchlin gan ei bod yn goleddfu o’r man uchaf yn y gogledd i’r fynedfa yn y de.

Mae’r cyfeiriad cyntaf at Benycloddiau yn Parochialia gan Edward Lhwyd ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg pan ysgrifenna “on top of Moel Ysweiliog is an old camp close on a mile in circumference”. [ii]

Dywed Topographical Dictionary Lewis yn y 18fed ganrif fod y “principal and most extensive of the (Clwydian Range military posts) occupies the summit from which its strong foundations were called Bryn y Cloddiau or ‘the hill of the ditches’... and defended according to the facility or difficulty of access by single, double or triple and quadruple entrenchments...” [iii].

Sut bynnag, y Canon Ellis Davies sy’n rhoi’r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf o’r safle yn ei lyfr The Prehistoric and Roman Remains of Flintshire [iv].

Yn y 1960au ehangodd Forde Johnston ar y gwaith a wnaed gan Ellis Davies ac awgrymodd dri cham adeiladu posibl i’r fryngaer. Y cyntaf oedd y clawdd mewnol a’r ffos chwarel fewnol, yr ail y ffos allanol a’r isglawdd sgarp a’r drydedd ran y clawdd a’r ffos fwyaf allanol. Mae o’n awgrymu y gallai cam un a dau gynrychioli un cyfnod o adeiladu.

Hyd y gallwn ddweud ni fu dim cloddio ym Mhenycloddiau o’r blaen. Yn 2004 gwnaeth Ymddiriedolaeth Archeoleg Clwyd-Powys (CPAT) arolwg topograffig o’r safle a ganfu 43 llwyfan posibl ac yn 2008 fe wnaethant gloddio ffos werthuso ar y twmpath y tu mewn i’r fryngaer i geisio cael gwybod a oedd yn naturiol neu’n nodwedd Oes Efydd o waith llaw dyn. Cafwyd cloddiad pellach yn 2009.

Hefyd yn 2008 gwnaeth Engineering Archaeology Services (EAS) a gwirfoddolwyr arolwg geoffisegol a ddatgelodd dai crwn newydd a lloc posibl.

[i] Hillforts of the Clwydian Range Trafodion Cymdeithas Hanes Sir y Fflint

[ii] Parochialia Edward Lhwyd 1600'au

[iii] Topographical Dictionary Lewis

[iv] Canon Ellis Davies 1949 Prehistoric and Roman Remains of Flintshire

Sut i gyrraedd yno

O Fodfari ger Dinbych neu Lanbedr DC ger Rhuthun, cymerwch y B5429 am Landyrnog. Dilynwch yr arwyddion am Langwyfan, daliwch i fynd ar y ffordd wledig fach hon drwy’r pentref ac ymlaen i faes parcio bychan 1/4 milltir o’r safle. Gellir mynd at y gaer yn uniongyrchol gan fod Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn mynd drwyddi.

Map OS: Explorer 265
OS. Cyfeirnod Grid: SJ128678.

Taflen Penycloddiau

Taflen Penycloddiau

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter