AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Teithiau Cerdded TywysedigY Cwestiynau a Ofynnir yn Aml 

Beth sydd angen imi ei wisgo?
Dillad cyfforddus llac a hen esgidiau, esgidiau cryf neu esgidiau ymarfer wedi’u gwisgo tipyn. Rhaid bod gafael da arnyn nhw!

Beth sydd angen imi ddod gyda mi?
Top ychwanegol a dillad glaw os ydi rhagolygon y tywydd yn ansicr. Cinio pecyn/ byrbryd yn dibynnu ar hyd y daith gerdded.

Gaf i ddod â’r ci?
Er mwyn cysur pob un o’n hymwelwyr NI chaniateir cn ar deithiau cerdded tywysedig fel arfer. Mae rhai teithiau’n addas ar gyfer cn ar dennyn.

Sut fyddaf yn gwybod a ydi’r daith yn mynd yn ei blaen?
Bydd arweinydd y daith yn y man cyfarfod beth bynnag fo’r tywydd. Bydd canslo’r daith ond yn digwydd os ydi’r arweinydd a’r bobl sydd wedi cyrraedd yn cytuno.

Sut fyddaf yn dal i fyny?
Bydd yr arweinydd bob amser yn cerdded ar gyflymdra’r cerddwr arafaf. Peidiwch da chi ag ymuno â’n teithiau os ydych ag eisiau rhuthro!

Sut mae cael gwybod mwy am y rhaglen teithiau cerdded tywysedig?

Ffoniwch 01352 810614.

Footer

Gwnaed gan Splinter