AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Tirwedd hanesyddol

Mae Bryniau Clwyd yn cynnwys safleoedd o weithgaredd ac anheddiad dynol yn y gorffennol sy’n dyddio’n ôl i 30,000 CC o leiaf. 

Bryngaerau’r Oes Haearn sy’n coroni Bryniau Clwyd ydy nodweddion archeolegol mwyaf amlwg  a mwyaf adnabyddus yr ardal. Yn dyddio o tua 800 CC i 43 OC, mae’r chwe chaer yn amrywio o ran maint o gaer anferth Penycloddiau i gaer fwy cryno Moel Arthur. Maent yn dal i ymddyrchafu uwchlaw’r dirwedd.

Mae’r Bryniau’n cynnwys llawer o feini coffa claddu o’r Oes Efydd hefyd, yn dyddio o tua 2,000 i 800 CC. Fe all pobl yr Oes Efydd fod wedi defnyddio safleoedd bryngaerau olynol, fel yr awgrymir pan ddarganfuwyd celc o fwyeill Oes Efydd ym Moel Arthur a gweithgaredd tebyg ym Moel y Gaer, Rhosesmor gerllaw.

Mae llawer o batrwm y dirwedd o bentrefi a ffermydd unig sydd i’w gweld heddiw yn dyddio o’r cyfnod canoloesol. Mae eglwysi canoloesol yn llawer o’r pentrefi yn yr AHNE.  Sefydlwyd cestyll Dinbych a Rhuthun yn oes Edward I ac roedd rhannau mawr o Fryniau Clwyd yn dal i fod yn eiddo i ystâd Castell Rhuthun tan mor ddiweddar â chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn y blynyddoedd mwy diweddar datblygwyd sawl ystâd parcdir mawr yn cynnwys Gwylgre a Cholomendy. Roedd rhai’n ganlyniad cyfoeth a gronnwyd trwy ehangu diwydiannau lleol, yn arbennig cloddio plwm, ac mae olion helaeth o’r gweithgaredd cloddio hwn yn dal i’w gweld yn yr ardaloedd carreg galch. O’r pedwar cwt injan Cernywaidd yn Sir Ddinbych, saif tri oddi mewn yr AHNE a’r pedwerydd yn union y tu allan.

Ledled y Bryniau harneisiwyd dr i ddarparu per – ar afon Alun i gloddio plwm ac ar y Chwiler ar gyfer melinau d, gweithfeydd tunplat, melinau papur a melinau llifio. Yr adeg yma y dechreuodd trafnidiaeth ym Mryniau Clwyd newid. Yn raddol disodlwyd neu cymerwyd lle rhwydwaith o lonydd wrth i ddefnydd cerbydau modur gynyddu. Roedd rheilffordd yn croesi’r Bryniau i’r gogledd.

Mae safleoedd ogofaol arbennig gyda gweddillion Neolithig yn y garreg galch rhwng Graianrhyd a Llandegla, tra bo llinell grib Mynydd Llandysilio yn dangos tystiolaeth helaeth o anheddu cynhanesyddol, yn cynnwys henebion megis bryngaer Moel y Gaer. Bryngaer gynhanesyddol genedlaethol bwysig arall ydy Caer Drewyn yn Nyffryn Morwynion ger Corwen.

Mae carneddau a meini hirion hynafol ar y tir uchel yng Nghyrn-y-Brain a Chefn y Fedw a chlwstwr o feini coffa claddu cynhanesyddol ar Fynydd Drenewydd.

Mae’r dirwedd yn rhyfeddol o amrywiol ac yn dal i adlewyrchu’r ffordd y’i defnyddid gan genedlaethau lawer o ffermwyr, chwarelwyr, mwyngloddwyr a diwydianwyr.

Mae coetiroedd hynafol a phatrymau cau caeau afreolaidd, organig yn nyffryn Morwynion o hyd. Ar lechweddau dwyreiniol Cefn y Fedw mae patrymau caeau canoloesol yn gyfan. Mae’r gweundir grug agored ar Fynydd Llandysilio yn dal i gael ei bori gan ddefaid fel y bu am ganrifoedd.

Dyffryn Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy sydd efallai â’r crynhoad mwyaf trawiadol o nodweddion tirwedd hanesyddol. Mae’r rhain yn cynnwys henebion megis Castell Dinas Brân ac Abaty Glyn y Groes, Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte – 11 milltir o beirianneg Sioraidd syfrdanol yn ymestyn o’r ddyfrbont ei hun i Raeadrau’r Bedol yn Llangollen – a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg.

Mae Castell y Waun, sy’n bwysig yn genedlaethol, ac sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn dal a’i drem dros y gororau strategol dyngedfennol wrth y porth i Ddyffryn Llangollen.

Gellwch gerdded rhai o’r llwybrau hanesyddol ar draws yr AHNE o hyd. Yr enwocaf o’r rhain ydy Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n rhedeg trwy’r ardal o gwmpas Cefn Mawr a Froncysyllte, yn mynd trwy’r dirwedd drawiadol o gwmpas Llangollen a Chreigiau Eglwyseg, ac yn mynd dros Cefn y Fedw a thrwy Goedwig Llandegla cyn dilyn Bryniau Clwyd dan eu mantell o rug.

Yn llai adnabyddus mae’r llwybrau ar draws Mynyddoedd Gogleddol y Berwyn yn cynnwys Llwybr yr Abadau fel y’i gelwir i Abaty Glyn y Groes i’r gogledd o Langollen.

Footer

Gwnaed gan Splinter