AHNE Bryniau Clwyd / Clwydian Range AONB

Content

Treftadaeth

Mae tirwedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ei phrydferthwch syfrdanol a’i chymeriad, wedi’i chreu gan genedlaethau yn byw ar ac yn gweithio’r tir.

Clive Engine House, Melidan

Mae’r hyn a welwn ni o’n cwmpas yn gynnyrch miloedd o flynyddoedd o ddylanwad dyn.  Mae ffermio, adeiladu aneddiadau, cestyll a mannau addoli, ennill mwynau a cherrig gwerthfawr i gyd wedi siapio tirweddau cyfarwydd heddiw ac yn cyfrannu at gyfoeth diwylliannol yr ardal a’i chymeriad lleol nodweddiadol. 

Nid mewn amgueddfeydd yn unig y mae’n treftadaeth i’w chael. Mae’n dal yn rhan o’r dirwedd ac yn rhan o wead ein bywydau heddiw. Mae’n weladwy nid yn unig yn ein cestyll a’n heglwysi, mewn henebion byd-enwog megis Dyfrbont Pontcysyllte neu Bont Llangollen, ond hefyd allan yn y bryniau, caeau, mynyddoedd a dyffrynnoedd yn aros i gael ei darganfod.

Weithiau mae’r profiad yn ysblennydd: yn sefyll ar ragfuriau bryngaer Oes Haearn gyda’r dirwedd gyfan wedi’i gosod allan o’ch blaen, er enghraifft, neu’n syllu ar domenni llechi enfawr Yr Oernant.

Yn rhywle arall mae pethau tawelach i’ch atgoffa o’r gorffennol. Wal gerrig sych a all fod wedi bod ar ei thraed am ddwy ganrif. Clwt o rug llosg ar weundir a reolir yn draddodiadol. Hen odynau calch neu gytiau injans y ceir cipolwg arnynt trwy lystyfiant.

Ond er bod gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gyswllt cryf â’i gorffennol fe erys yn dirwedd fyw, gweithiol. Mae pobl yma’n dal yn brysur ynglūn â’u gwaith yn union fel y buont am filoedd o flynyddoedd. Yn dal yn rhan o dirwedd a all fod yn eithriadol, naturiol a hardd ond sydd wedi’i siapio gan ddyn am filoedd o flynyddoedd.

Footer

Gwnaed gan Splinter