Chynlluniau Bioamrywiaeth Gweithdy
Ynglŷn â Chynlluniau Bioamrywiaeth ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned – Gweithdy
Mae gan bob Cyngor Tref a Chymuned ddyletswydd statudol o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd 2016 i ymgorffori ystyriaeth o fioamrywiaeth ac ecosystemau yn eu holl waith cynllunio, polisïau a swyddogaethau fel corff cyhoeddus. Er mwyn cyflawni ‘Dyletswydd Adran 6’ rhaid i bob cyngor Tref a Chymuned gyhoeddi adroddiad bob 3 blynedd, yn manylu ar yr holl gamau a gymerwyd i gydymffurfio â’r ddyletswydd hon. Rhaid i unrhyw gamau a gymerir ganolbwyntio ar: greu, adfer, amddiffyn a gwella bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau.
Er mwyn galluogi Cynghorau i adrodd ar y camau a gymerwyd, mae hyn yn gofyn am Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn arwain at bob rownd adrodd. Y rownd adrodd nesaf fydd diwedd 2025.
Rydym yn cydnabod bod gan bob cymuned eu heriau a’u cyfleoedd eu hunain mewn perthynas â gwarchod a gwella bioamrywiaeth leol. O’r herwydd, rydym yn awyddus i ddysgu mwy ynghylch yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn eich cynlluniau ac a oes modd i ni fel Tîm Tirwedd Genedlaethol i gynnig unrhyw gyngor o ran llunio neu gyflawni eich Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, gan gynnwys unrhyw gyfleoedd ariannu posibl drwy Gronfa Datblygu Cynaliadwy’r Dirwedd Genedlaethol.
Fel y gofynnwyd yn y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 15 Mai, rydym yn cynnal dwy sesiwn gweithdy –
Dydd Mercher 24 Medi
15:00 – 17:00 a 18:00 – 20:00
yn Hwb Coleg Cambria, Llysfasi, Ffordd Rhuthun, Rhuthun LL15 2LB
Cynhelir y gweithdy gan:
Rheolwr Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, Un Llais Cymru
– Rachel Carter a Sam Langdon
Ymgynghorydd Tirweddau Cymru, 30×30 / Adfer Natur 30×30 – Sara Wynne Pari
Oeddech chi’n gwybod?
A fyddech cystal ag anfon RSPV at Karen.Weaver@denbighshire.gov.uk neu ffonio 07884416827
gan nodi pa sesiwn y gallwch ddod iddi.
Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi
Ddydd Mercher 24 Medi