Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer www.ahnebryniauclwydadyffryndyfrdwy.org.uk

Gwybodaeth am y wefan

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Cefn Gwlad a Threftadaeth Cyngor Sir Ddinbych ar ran cydbwyllgor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • Chwyddo’r sgrin hyd at 300% gwaith yn fwy heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • Llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar fwyafrif o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud testun ein gwefan mor syml â phosibl i’w ddeall, ac yn defnyddio dyluniadau cyson er mwyn osgoi cymhlethdod.

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Mae hon yn wefan allanol a bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch.

  • Nid yw’r cynnwys a’r ymarferoldeb a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti yn hollol hygyrch.
  • Nid yw rhai o’n ffurflenni ar-lein yn gwbl hygyrch.
  • Nid yw mwyafrif o hen ddogfennau PDF yn gwbl hygyrch i dechnoleg gynorthwyol.
  • Mae mapiau rhyngweithiol yn anodd llywio wrth ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Nid yw mapiau rhyngweithiol yn cynnwys labelu botymau neu gyferbynnedd lliw digonol

Gwybodaeth Adborth a Chyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, cysylltwch â ni:

E-bost:
parcgwledigloggerheads@sirddinbych.gov.uk

Ffôn:
01824 712757
Neu ewch i / ysgrifennwch at:
Parc Gwledig Loggerheads
Loggerheads
Ffordd Rhuthun, ger Yr Wyddgrug
CH7 5LH

Os oes angen cyfarwyddiadau arnoch, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom ni.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 10 diwrnod.

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi cael eu rhestru ar y dudalen hon, neu os oes gennych awgrymiadau i wella hygyrchedd y wefan hon, cysylltwch â’r Swyddog AHNE ar 01824 712757.

Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS). (https://www.equalityadvisoryservice.com)

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth gyda’r canllawiau hygyrchedd:

  • Nid oes testun amgen ar rhai o’r delweddau. Rydym yn bwriadu ychwanegu testunau amgen ar gyfer ein holl ddelweddau erbyn 1 Ionawr 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein holl ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd.
  • Nid yw rhai ardaloedd o gyferbynnedd lliw yn bodloni gofynion hygyrchedd. Rydym yn bwriadu addasu’r cyferbynnedd lliw i fodloni safonau hygyrchedd erbyn 1 Ionawr 2021.
  • Mae mapiau yn anodd eu llywio wrth ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.

Baich anghymesur:

  • Nid yw rhai o’n dogfennau PDF a Word a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2018 yn bodloni safonau hygyrchedd. Wrth ystyried a allwn ddarparu’r wybodaeth mewn fformat hygyrch, byddwn yn asesu’r canlynol:
    • faint fyddai’r gwaith yn ei gostio a’r effaith y byddai cyflawni’r gwaith yn ei chael arnom
    • faint fyddai defnyddwyr ag anabledd yn elwa o wneud y gwaith
  • Nid yw rhai meddalwedd trydydd parti yn bodloni safonau hygyrchedd. Rydym yn bwriadu gweithredu diweddariadau hygyrchedd unwaith fyddent ar gael gan y datblygwr.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Ar hyn o bryd mae’r wefan yn mynd drwy broses o welliannau hygyrchedd, a bydd Datganiad Hygyrchedd diwygiedig yn cael ei gyhoeddi yn Ionawr 2021.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 21 Medi 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 21 Medi 2020.

Cafodd y wefan ei phrofi ddiwethaf ar 21 Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Artychoke.

Defnyddiom y dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi: Croestoriad o fathau o dudalennau, gyda lefel uchel o draffig ar y wefan.

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?