Cerdded

Cerdded

  • Children on Moel Famau
  • Walking in Autumn

Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn le rhagorol i’w archwilio ar droed. Nid yn unig y gallwn gynnig llwybrau hir heriol sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, ond mae gennym deithiau byrrach sy’n haws neu’n syml sy’n cymryd llai o amser. Pa un bynnag y byddwch yn ei ddewis, mae pob cerddwr yn gallu mwynhau golygfeydd godidog a thirluniau gwefreiddiol.

Gallwch ddilyn rhan o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa drwy Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, gan fwynhau rhai o’r golygfeydd gorau y gwelwch ar y llwybr byd enwog sy’n rhedeg bron o arfordir i arfordir o’r gogledd i’r de.

Gallech ddilyn her y 13 milltir llawn o Lwybr Gogledd y Berwyn neu ran wrth ran o bwyntiau hawdd eu cyrraedd. Os ydych yn chwilio am rywbeth y gallwch ei wneud fel teulu fyddai’n llenwi pnawn, yna gallwch ddilyn ein llwybrau Milltiroedd Cymunedol sy’n mynd â chi o amgylch ein cymunedau, ymuno ag un o’r grwpiau cerdded wythnosol niferus, neu ddarganfod ein parciau gwledig yn defnyddio un neu ymuno â dwy neu fwy o deithiau i ddylunio llwybr sy’n addas i’r amser sydd gennych ar gael a’ch gallu.

Oeddech chi’n gwybod?

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwisgo’n addas ar gyfer y daith o’ch dewis. Mae esgidiau cadarn, dillad dal dŵr, eli haul, diod a map da iawn i gyd yn helpu i wneud eich taith hyd yn oed yn fwy pleserus. Rydym yn argymell y mapiau Archwilio OS 1:25,000 graddfa fawr (gyda’r gorchydd oren) i helpu i weld eich taith yn fwy manwl a dilyn y canllawiau gan Cod Cefn Gwlad.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?