{"id":7415,"date":"2025-06-08T13:09:58","date_gmt":"2025-06-08T12:09:58","guid":{"rendered":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/article\/cultural-heritage\/"},"modified":"2025-11-07T13:32:16","modified_gmt":"2025-11-07T13:32:16","slug":"cultural-heritage","status":"publish","type":"article","link":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/","title":{"rendered":"Treftadaeth Ddiwylliannol"},"content":{"rendered":"<h3>Darganfod Dyffryn Dyfrdwy Hardd: Dyffryn sy\u2019n Gyforiog o Gelf a Thwristiaeth<\/h3>\n<p>Cymru yw cartref ysbrydol y mudiad celf Ddarluniadwy, a oedd yn annog arlunwyr fel Turner i ymgolli ym myd natur ac roeddent yn heidio i Ddyffryn Dyfrdwy i fwynhau ei hyfrydwch.<\/p>\n<p>Mae\u2019r hanes yn dechrau ym 1771, pan ddechreuodd Syr Watkin Williams Wynn, wedi\u2019i ddylanwadu gan ei deithiau mawr o Ewrop, ar un o\u2019r teithiau domestig cyntaf o amgylch ei ystadau yng Ngogledd Cymru, gyda\u2019r artist Paul Sandby. Cyhoeddodd Sandby lyfr &#8216;XII Views in North Wales&#8217; a chomisiynodd Syr Watkin ddwy olygfa o Ddinas Br\u00e2n gan Richard Wilson, gan ddatgelu tirlun darluniadwy ac anhygoel.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-2272\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-1024x768.jpg\" alt=\"Our Picturesque Landscape book\" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>O amgylch yr un pryd, roedd Merched Llangollen, Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, o\u2019u cartref ym Mhlas Newydd, yn sefydlu Dyffryn Dyfrdwy fel canolfan gwerthfawrogi golygfeydd. Roeddent yn gefnogwyr brwd o\u2019r rhamant, ac roedd y gymdeithas wedi cyfareddu \u00e2\u2019u bywydau.<\/p>\n<p>Mae nifer o\u2019r darluniau gwreiddiol wedi cael eu hailgynhyrchu gan artistiaid yn dilyn trywydd yr artistiaid tirlun cynnar. Ymwelodd JMW Turner yn benodol \u00e2 Dyffryn Dyfrdwy nifer o weithiau gan ddarlunio\u2019r Afon Ddyfrdwy yng Nghorwen a Glyn y Groes a Chastell Dinas Br\u00e2n.<\/p>\n<p>Mae llyfrau o\u2019r ardal yn cynnwys \u201cWanderings and Excursions in north Wales\u201d (1836) gan Thomas Roscoe, sy\u2019n cynnwys darlun o Glyn y Groes. Cynhyrchodd Henry Gastineau \u201cWales Illustrated\u201d yn 1830-31 gan gynnwys darluniau o Ddinas Br\u00e2n, Glyn y Groes ac ardal Llangollen. Fe wnaeth George Borrow gynnwys Dyffryn Dyfrdwy ar ei daith o Gymru yn y 1830au hefyd.<\/p>\n<p>Roedd strwythurau peirianyddol mawr yn y cyfnod, megis Dyfrbont Dd\u0175r Pontcysyllte, Rhaeadr y Bedol a\u2019r Bont Gadwyn gydag agwedd estheteg, gan ddynodi y gallai cynnydd peirianyddol mawr gymryd lle yn y dirwedd a chyd-fynd gyda natur.<\/p>\n<p>Erbyn dechrau a chanol y 19eg ganrif, roedd poblogrwydd tirlun Dyffryn Dyfrdwy, ynghyd \u00e2 ffactorau eraill yn dechrau cael eu sefydlu yn ein hymwybod fel tirluniau eiconig. Daeth yr A5 a\u2019r rheilffordd yn lwybrau i dwristiaid, gan ddod ag ymwelwyr i ogledd Cymru mewn niferoedd a rhoi Llangollen a Chorwen ar y map.<\/p>\n<p>Heddiw gellwch ymweld \u00e2 nifer o\u2019r safleoedd hanesyddol, gan gerdded yn \u00f4l troed y twristiaid cynnar hynny. Dringwch i gopa Dinas Br\u00e2n; dewch i ganfod y Glyn ym Mhlas Newydd; a dewch i ryfeddu at y campweithiau peirianyddol sy\u2019n ategu at y dirwedd yn Rhaeadr y Bedol a Phontcysyllte.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-2278\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-cover-1024x768.jpg\" alt=\"Our Picturesque Landscape book cover\" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-cover-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-cover-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-cover-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-cover-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-cover-2048x1536.jpg 2048w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-cover-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Picturesque-landscape-book-cover-1200x900.jpg 1200w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>I ganfod mwy am y Mudiad Darluniadwy yn Nyffryn Dyfrdwy, gellwch brynu ein llyfr, <em>Dyffryn Dyfrdwy: Creu Ein Tirlun Darluniadwy<\/em>, yng Nghanolfan Wybodaeth Llangollen, Plas Newydd, neu Loggerheads. Ysgrifennwyd y llyfr hwn yn rhan o brosiect \u2018Ein Tirlun Darluniadwy\u2019, a ariannwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, rhwng 2018 a 2024.<\/p>\n<h3>T\u0177 a Gerddi Hanesyddol Plas Newydd<\/h3>\n<p>Yn 1780 prynodd Lady Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby fwthyn carreg diymhongar ar gyrion Llangollen. Dros yr hanner can mlynedd nesaf treuliodd y ddwy\u2019r rhan fwyaf o\u2019u hamser yn troi\u2019r adeilad yn gampwaith gothig a\u2019r gerddi\u2019n hafan o dirluniau amrywiol i apelio at y synhwyrau creadigol.<\/p>\n<p>Y tu mewn i\u2019r adeilad fe welwch dderw wedi\u2019i gerfio a gwydr lliw wedi\u2019i achub o eglwysi lleol. Wedi\u2019u harddangos yn y t\u0177 mae eitemau o eiddo\u2019r merched ac mae \u2018na hefyd daith awdio sy\u2019n adrodd hanes \u2018y Merched\u2019 y bu cymaint o s\u00f4n amdanynt ar \u00f4l iddynt redeg i ffwrdd gyda\u2019i gilydd i wneud eu cartref yn Llangollen.<\/p>\n<blockquote>\n<p><strong>Oeddech chi\u2019n gwybod<\/strong><br \/>Cafodd y cylch cerrig ar y tir ei osod gan Orsedd y Beirdd ar gyfer seremoni wobrwyo Eisteddfod Genedlaethol Llangollen yn 1908.<\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Roedd Merched Llangollen yn adnabyddus drwy Ewrop fel casglwyr hynodion a chefnogwyr y mudiad Darluniadwy. Fe wnaethant hoelio dychymyg y cyhoedd, sbarduno twf twristiaeth a chroesawu dynion a merched blaenllaw yr oes.<\/p>\n<p>Daeth llawer i wybod am y gyfeillgarwch arbennig rhwng y Foneddiges Eleanor a Miss Sarah a chroesawodd y ddwy nifer fawr o ymwelwyr adnabyddus i\u2019w cartref, gyda Dug Wellington, Wordsworth, Anne Lister, Sir Walter Scott a Josiah Wedgewood yn eu plith.<\/p>\n<p>Parhaodd y Merched i ddylanwadu\u2019n gryf ar berchnogion dilynol, hyd yn oed wrth i\u2019r t\u0177 a\u2019r ardd gael eu newid yn llwyr. Bron i ddwy ganrif ar \u00f4l eu marwolaeth, gallwn deimlo eu presenoldeb o hyd. Rydym yn eu hadnabod yn bersonol drwy eu llythyrau, eu dyddlyfrau a\u2019r marciau annileadwy a adawsant ar y t\u0177.<\/p>\n<p>Yn awr gallwch chi ddilyn yn \u00f4l eu traed a phrofi drosoch eich hun y lle hudolus a rhamantaidd hwn. Mae staff gwybodus wrth law i ateb unrhyw gwestiynau ac mae\u2019r Ystafelloedd Te bendigedig yn gweini bwyd a diod lleol a theisennau cartref.<\/p>\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"682\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/PlasNewydd-gardens-1024x682.jpg\" alt=\"Plas Newydd gardens\" class=\"wp-image-7406\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/PlasNewydd-gardens-1024x682.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/PlasNewydd-gardens-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/PlasNewydd-gardens-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/PlasNewydd-gardens-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/PlasNewydd-gardens-1200x800.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/PlasNewydd-gardens.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Plas Newydd, Llangollen<\/figcaption><\/figure>\n\n\n<p>Ewch am dro drwy\u2019r 10 acer o dir i ddarganfod gerddi addurniadol ffurfiol a choetir hyfryd. Gallwch hefyd fynd am dro ar hyd yr afon drwy\u2019r Glyn a gafodd ei adnewyddu fel rhan o\u2019r prosiect Ein Tirlun Darluniadol. Ym mhob cwr o\u2019r tiroedd a\u2019r gerddi fe ddewch o hyd i lefydd eistedd cudd, golygfeydd godidog a chynlluniau plannu cywrain lle gall ymwelwyr aros am ennyd i werthfawrogi\u2019r harddwch o\u2019u cwmpas.<\/p>\n<p>Camwch yn \u00f4l mewn amser a chyfarfod Ladis Llangollen: <a href=\"https:\/\/vimeo.com\/689342146?share=copy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Fideo 1<\/a> and <a href=\"https:\/\/vimeo.com\/689359524?share=copy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Fideo 2<\/a>.<br \/><a href=\"https:\/\/vimeo.com\/709532262?share=copy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Barddoniaeth wedi ei Hysbrydoli gan Ferched Llangollen.<\/a><br \/><a href=\"https:\/\/vimeo.com\/962363493?share=copy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><span style=\"color: #000000;\">Plas Newydd pan oedd Ladis Llangollen yn byw yno.\u00a0<\/span><\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/visit-plas-newydd\/\">Cynlluniwch ymweliad<\/a>.<\/p>\n<h3><strong>Coed Pen y Pigyn<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Coed Pen y Pigyn hefyd i\u2019w canfod yn Nyffryn Dyfrdwy, ger canol tref Corwen.<\/p>\n<p>Parciwch yn y prif faes parcio, dilynwch y llwybr heibio i\u2019r eglwys ac ewch i mewn i\u2019r coetir derw mes di-goes serth. Dyma fan llawn awyrgylch sy\u2019n cynnwys Cerrig yr Orsedd a godwyd ar gyfer Eisteddfod y Fuddugoliaeth yn 1919. Cafodd yr orsedd gyntaf ei chreu yn 1792 gan Iolo Morgannwg, a oedd yn credu ei fod yn un o ddisgynyddion y derwyddon. Mae cylchoedd cerrig i\u2019w gweld ar hyd a lled Cymru ac maen nhw\u2019n rhan o hen draddodiad o gadeirio a choroni beirdd buddugol mewn Eisteddfodau.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-2284\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/stepping-stones-to-Pen-y-Pigyn-wood-web-1024x768.jpg\" alt=\"stepping stones at Coed Pen y Pigyn\" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/stepping-stones-to-Pen-y-Pigyn-wood-web-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/stepping-stones-to-Pen-y-Pigyn-wood-web-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/stepping-stones-to-Pen-y-Pigyn-wood-web-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/stepping-stones-to-Pen-y-Pigyn-wood-web-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/stepping-stones-to-Pen-y-Pigyn-wood-web-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/stepping-stones-to-Pen-y-Pigyn-wood-web-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/stepping-stones-to-Pen-y-Pigyn-wood-web.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>Ar hyd y llwybrau drwy\u2019r coetir hynafol fe welwch chi lawer o gerfluniau o anifeiliaid ac, os ydych chi\u2019n lwcus, efallai y gwelwch chi rai byw hefyd.<\/p>\n<p>Mae yna stori dda ynghlwm wrth yr olygfan. Yn \u00f4l yr hanes, yn y fan hon yr oedd Owain Glynd\u0175r, Tywysog Cymru, yn sefyll pan daflodd ei ddagr mewn gwylltineb a tharo carreg islaw. Mae\u2019r garreg, a\u2019r marc dagr rhyfedd sydd arni, i\u2019w gweld hyd heddiw ac yn lintel uwchben drws deheuol Eglwys Corwen.<\/p>\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"the-jubilee-tower\">T\u0175r y Jiwbil\u00ee<\/h3>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i adeiladu ar gyfer jiwbil\u00ee aur Brenin Si\u00f4r III \u201cgwallgof\u201d dros 200 mlynedd yn \u00f4l, newidiodd y t\u0175r jiwbil\u00ee broffil Moel Famau. Gosodwyd y garreg sylfaen gyda ffanffer fawr ar ddydd Iau, 25ain Hydref 1810. Yr adeg honno, fodd bynnag, doedd yna ddim cynllun wedi\u2019i gytuno.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y dyluniad terfynol gan Thomas Harrison yn goeth a thrawiadol, Yn y adeilad yn yr arddull Eifftaidd a fyddai\u2019n ffasiynol ymhen fawr o dro \u2013 sylfaen hirsgwar gyda phedwar bastiwn a drysau ar osgo, y gellir ei weld o hyd heddiw, gydag obelisg ar ei ben.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Bu ymgecru wedyn ynghylch diffyg arian a gwaith gwael a chafodd yr adeilad ond ei orffen, i gynllun llai crand, yn 1817. Erbyn 1846 roedd un gornel wedi dymchwel ac roedd y pwyntio wedi dirywio. Codwyd arian ar gyfer atgyweiriadau ond roedd mwy o ddifrod yn amlwg erbyn 1856.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"649\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Edwardian-Image-1024x649.jpg\" alt=\"Jubilee Tower in the Clwydian Range\" class=\"wp-image-7087\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Edwardian-Image-1024x649.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Edwardian-Image-300x190.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Edwardian-Image-768x487.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Edwardian-Image-1200x760.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Edwardian-Image.jpg 1280w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Roedd y dirywiad yn gyflym ac yn 1862 cwympodd yr obelisg gyda chlec aruthrol, yn ystod y gosteg yn dilyn gwynt mawr a oedd wedi para am ddau ddiwrnod. Gellid ei glywed mor bell i ffwrdd \u00e2 lawnt Castell Dinbych.<\/p>\n\n\n\n<p>Dros y degawdau dilynol methodd amrywiol gynlluniau ailadeiladu oherwydd diffyg arian a chefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Ni wnaethpwyd dim tan 1969 pan benderfynodd cangen Dinbych a Fflint o Gymdeithas y Tirfeddianwyr mai\u2019u cyfraniad nhw at Flwyddyn Cadwraeth Ewrop 1970 fyddai tacluso\u2019r adfeilion a\u2019u diogelu rhag dirywio ymhellach.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 1974 gwnaethpwyd Moel Famau yn Barc Gwledig gan Gyngor Sir Clwyd ac yn 1985 dynodwyd Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Yn 1995 rhestrwyd T\u0175r y Jiwbil\u00ee gan Cadw i roi nodded gyfreithiol iddo oherwydd ei arwyddoc\u00e2d pensaern\u00efol a diwylliannol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Moel Famau ac adfeilion Tr y Jiwbil\u00ee yn darparu cefnlen ddramatig i fywydau dyddiol cymunedau Sir y Fflint a Sir Ddinbych fel ei gilydd. Maent yn rhoi ymdeimlad cryf o le ir ardal ac yn fegwn i ymwelwyr o Sir Gaer, Glannau Mersi ac ymhellach i ffwrdd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"treftadaeth-ddiwylliannol-loggerheads\">Treftadaeth Ddiwylliannol Loggerheads<\/h3>\n\n\n<p>Mae Loggerheads yn gyforiog o hanes diwylliannol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r enw Loggerheads ei hun yn tarddu o anghytundeb mwyngloddio chwerw yn y 18fed ganrif. Mae plac i\u2019w weld o hyd uwchben y garreg derfyn ar yr A494 a godwyd ar \u00f4l datrys ffrae rhwng teulu Grosvenor, a oedd yn berchen ar yr hawliau cloddio ym mhlwyf Llanferres, ac Arglwyddi\u2019r Wyddgrug, a oedd yn berchen ar y rheini ym mhlwyf Yr Wyddgrug.<\/p>\n<p>Rhygnodd yr anghytundeb ymlaen am flynyddoedd lawer cyn iddo gael ei benderfynu yn y diwedd o blaid Arglwyddi\u2019r Wyddgrug. Mae\u2019r ardal wedi\u2019i hadnabod fel Loggerheads byth ers hynny.<\/p>\n<p>Yr enw ar y garreg derfyn yw \u2018Carreg Carn March Arthur\u2019. Yn \u00f4l y chwedl, mae \u00f4l carn ceffyl y Brenin Arthur arni ar \u00f4l iddo lamu o\u2019r clogwyni i ddianc rhag y Sacsoniaid!<\/p>\n<p>Yn y 1800au bu\u2019r arlunydd tirluniau enwog, Richard Wilson, yn aros yn y Colomendy gerllaw gyda\u2019i fodryb. Roedd yn arfer mynychu\u2019r dafarn yn Loggerheads, ac yn \u00f4l y s\u00f4n mae\u2019n debyg ei fod, ar \u00f4l derbyn bil sylweddol wrth y bar, wedi cynnig paentio arwydd newydd ar gyfer y dafarn yn lle talu\u2019r bil. Cafodd ysbrydoliaeth o\u2019r anghydfod adnabyddus ac fe baentiodd \u2018We Three Loggerheads\u2019 \u2013 llun o ddau unigolyn, a\u2019r trydydd oedd landlord y dafarn yn gwylio\u2019r ddadl.<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-2551\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1-1024x768.jpg\" alt=\"Pentre Mill at Loggerheads\" width=\"1024\" height=\"768\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/p>\n<p>Mae Loggerheads wedi denu ac ysbrydoli ymwelwyr ers y 1800au, o leiaf.<\/p>\n<p>Ym 1829 daeth y cyfansoddwr Almaenig byd-enwog, Felix Mendelssohn, i Gymru ac fe\u2019i hysbrydolwyd gan y dirwedd o gwmpas Loggerheads i gyfansoddi nifer o\u2019i ddarnau enwog. Dywedir bod un gwaith ganddo, a elwir yn Saesneg yn \u2018<em>The Rivulet<\/em>\u2019, wedi ei ysbrydoli gan Afon Alun.<\/p>\n<p>Yn nechraur 20fed ganrif dechreudd Crosville Motor Services redeg bysus rheolaidd i Loggerheads o Benbedw ac yn 1926 bu iddynt brynu 74 erw o Yst\u00e2d Loggerheads iw datblygu fel cyrchfan i ymwelwyr.<\/p>\n<p>Fe wnaethant sefydlu Gerddi Te Crosville, gan adeiladu t\u0177 te mawr, ychwanegu bandstand, lawnt bytio ac atyniadau eraill ac agor y coedydd a glan yr afon i ymwelwyr.<\/p>\n<p>Ym 1928 bu Eisteddfod gerddorol fawreddog yn Loggerheads. Hysbysebwyd hyn ar yr amserlen fysiau yn y cyfnod.<\/p>\n<p>Yn ei anterth deuai\u2019r gwasanaeth bws \u00e2 miloedd o drigolion Glannau Mersi i Loggerheads ar benwythnosau\u2019r haf. Disgynnodd niferoedd y teithwyr yn raddol wrth i berchenogaeth ceir gynyddu yn ystod y Chwedegau ac yn 1974 gwerthodd Crosville y tir i Gyngor Sir Clwyd County, rhagflaenwyr Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, a\u2019i datblygodd a\u2019i agor fel parc gwledig.<\/p>\n<p>Roedd yr ardal hefyd yn lloches croesawgar i blant yn ystod y rhyfel ac roedd y cyswllt hwnnw yn parhau gyda theuluoedd yn ymweld ar \u00f4l y rhyfel a miloedd o blant ysgol yn ymweld \u00e2 Cholomendy. Mae Loggerheads yn parhau \u00e2 chysylltiad arbennig gyda phobl Lerpwl a Glannau Mersi. Mae llawer yn parhau i ddychwelyd ar deithiau dyddiol ac mae eraill wedi setlo yma i weithio neu ymddeol.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Am ganrifoedd mae ein tirwedd wedi bod yn gefndir i gelf a diwylliant unigryw, sydd yr un mor werthfawr \u00e2\u2019r copaon grugog a\u2019r adfeilion hanesyddol hudolus.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2291,"menu_order":0,"template":"","article-category":[132,140],"class_list":["post-7415","article","type-article","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","article-category-discover-and-explore-cy","article-category-history-and-heritage-cy"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.7 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Treftadaeth Ddiwylliannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Treftadaeth Ddiwylliannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Am ganrifoedd mae ein tirwedd wedi bod yn gefndir i gelf a diwylliant unigryw, sydd yr un mor werthfawr \u00e2\u2019r copaon grugog a\u2019r adfeilion hanesyddol hudolus.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-11-07T13:32:16+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/plas-newydd-ban.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1800\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"900\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"9 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/\",\"name\":\"Treftadaeth Ddiwylliannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/plas-newydd-ban.jpg\",\"datePublished\":\"2025-06-08T12:09:58+00:00\",\"dateModified\":\"2025-11-07T13:32:16+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/plas-newydd-ban.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/plas-newydd-ban.jpg\",\"width\":1800,\"height\":900,\"caption\":\"Plas Newydd\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Articles\",\"item\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Treftadaeth Ddiwylliannol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\",\"name\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"description\":\"Area of Outstanding Natural Beauty\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization\",\"name\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg\",\"width\":381,\"height\":148,\"caption\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/\",\"https:\/\/www.instagram.com\/Clwyd_Dee_AONB\/\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Treftadaeth Ddiwylliannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Treftadaeth Ddiwylliannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","og_description":"Am ganrifoedd mae ein tirwedd wedi bod yn gefndir i gelf a diwylliant unigryw, sydd yr un mor werthfawr \u00e2\u2019r copaon grugog a\u2019r adfeilion hanesyddol hudolus.","og_url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/","og_site_name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/","article_modified_time":"2025-11-07T13:32:16+00:00","og_image":[{"width":1800,"height":900,"url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/plas-newydd-ban.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"9 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/","name":"Treftadaeth Ddiwylliannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/plas-newydd-ban.jpg","datePublished":"2025-06-08T12:09:58+00:00","dateModified":"2025-11-07T13:32:16+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/plas-newydd-ban.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/plas-newydd-ban.jpg","width":1800,"height":900,"caption":"Plas Newydd"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/cultural-heritage\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Articles","item":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Treftadaeth Ddiwylliannol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/","name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","description":"Area of Outstanding Natural Beauty","publisher":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization","name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg","width":381,"height":148,"caption":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape"},"image":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/","https:\/\/www.instagram.com\/Clwyd_Dee_AONB\/"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/7415","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/article"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/7415\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9036,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/7415\/revisions\/9036"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2291"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7415"}],"wp:term":[{"taxonomy":"article-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article-category?post=7415"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}