{"id":7421,"date":"2025-06-07T15:49:07","date_gmt":"2025-06-07T14:49:07","guid":{"rendered":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/article\/habitats\/"},"modified":"2026-01-23T11:32:10","modified_gmt":"2026-01-23T11:32:10","slug":"habitats","status":"publish","type":"article","link":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/","title":{"rendered":"Cynefinoedd"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"clogwyni-calchfaen-a-chalchbalmant\">Clogwyni calchfaen a chalchbalmant<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae calchfaen yn graig hynod sy\u2019n ffurfio rhai o dirweddau mwyaf nodedig Prydain. Mae enghreifftiau gwych o\u2019r golygfeydd dramatig hyn i\u2019w gweld yn Tirwedd GenedlaetholBryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yng Nghreigiau Eglwyseg, Bryn Alun, Bryniau Prestatyn a Pharc Gwledig Loggerheads.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"porfa-galchfaen\"><strong>Porfa galchfaen<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae porfa galchfaen yn gynefin hynod wahanol ac yn gartref i lawer o flodau gwyllt fel briallu Mairsawrus a chor-rosyn, gan gynnwys rhai prin ac anghyffredin fel crwynllys yr hydref a thegeirian fel tegeirian porffor y gwanwyn. Yn eu tro mae\u2019r rhain yn cynnig rhywbeth i amryw o anifeiliaid di-asgwrn-cefn gan gynnwys llawer o lo\u00ffnnod byw a gwyfynod fel y gl\u00f6yn byw glas cyffredin a\u2019r gwyfyn bwrned smotiau coch.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-vimeo wp-block-embed-vimeo wp-embed-aspect-4-3 wp-has-aspect-ratio\" style=\"margin-bottom:var(--wp--preset--spacing--60)\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Grassland SD\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/386284231?dnt=1&amp;app_id=122963\" width=\"640\" height=\"480\" frameborder=\"0\" allow=\"autoplay; fullscreen; picture-in-picture; clipboard-write; encrypted-media; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"rhostir\">Rhostir<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ardaloedd mawr o rosydd grug sy\u2019n garped ar lawr yr Tirwedd Genedlaethol o bwys rhyngwladol. Mae dros hanner cynefinoedd rhostir y byd yn y DU ac maent yn ffurfio\u2019r ardal fwyaf o gynefinoedd bywyd gwyllt annatblygedig sydd ar \u00f4l yng Nghymru o bell ffordd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"681\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/heathland-1024x681.jpg\" alt=\"Heathland\" class=\"wp-image-2107\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/heathland-1024x681.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/heathland-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/heathland-768x511.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/heathland-1536x1022.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/heathland-1200x799.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/heathland.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r rhostiroedd hyn yn llefydd arbennig i adar yr ucheldir fel clochdar y cerrig, cornhedydd y coed, cudwalch yr ieir a\u2019r cudyll bach sy\u2019n ymweld \u00e2\u2019r rhostiroedd yn ystod misoedd y gwanwyn a\u2019r haf i fridio. Roedd cri\u2019r gylfinir yn arfer bod yn s\u0175n cyfarwydd yn yr haf cyn iddo ddychwelyd i\u2019r aberoedd dros y gaeaf. Mae rhostiroedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy hefyd yn gadarnle i\u2019r grugiar ddu, un o adar mwyaf prin y DU.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"ffridd-ffridd-is-a-special-type-of-habitat-and-an-important-feature-of-the-welsh-countryside-it-is-a-habitat-under-threat\"><strong>Ffridd<\/strong> <\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Ffridd yn fath arbennig o gynefin ac yn nodwedd bwysig o gefn gwlad Cymru. Mae\u2019n gynefin sydd dan fygythiad.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"683\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/22-11-25-Panorama-Walk-WEB-RES-0068-1024x683.jpg\" alt=\"Ffrith habitat\" class=\"wp-image-2105\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/22-11-25-Panorama-Walk-WEB-RES-0068-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/22-11-25-Panorama-Walk-WEB-RES-0068-300x200.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/22-11-25-Panorama-Walk-WEB-RES-0068-768x512.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/22-11-25-Panorama-Walk-WEB-RES-0068-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/22-11-25-Panorama-Walk-WEB-RES-0068-1200x800.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/22-11-25-Panorama-Walk-WEB-RES-0068.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae ardaloedd ffridd i&#8217;w cael rhwng ardaloedd o ucheldir ac iseldir, ac yn cynnwys nodweddion o&#8217;r ddau gynefin hyn. Mae cynefin ffridd yn \u2018goridor\u2019 pwysig yng nghefn gwlad. Disgrifir Ffridd yn aml fel cynefin o frithwaith neu glytwaith gan ei fod yn cynnwys cymysgedd o lystyfiant gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn aml fe welwch gymysgedd o laswellt, rhostir, rhedyn a chlytiau o lwyni gwasgaredig a choed bach.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Ffridd yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid sydd wedi addasu i fyw rhwng amgylcheddau ucheldir ac iseldir. Cliradain Gymreig Mwyalchen y mynydd, Ffwng Tafod y Ddaear, Edafeddog y Mynydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ffriddoedd yn lled-naturiol sy&#8217;n golygu bod angen ei drin yn ofalus i&#8217;w atal rhag troi&#8217;n goetir yn y pen draw.<\/p>\n\n\n\n<p>I weld enghreifftiau da o gynefinoedd Ffridd, mae\u2019n werth mynd o Langollen i Gastell Dinas Br\u00e2n, sy\u2019n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) neu o Gorwen i Gaer Drewyn.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Ffridd-HandbookCYM.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Dysgwch fwy am reoli&#8217;r cynefin pwysig hwn<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"coetir\"><strong>Coetir<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae llawer o goetiroedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn goetiroedd hynafol lled naturiol sy\u2019n cynrychioli cyswllt \u00e2\u2019r tirlun fel ag yr oedd yn dilyn yr oes yr i\u00e2 olaf. Gan na fu llawer o darfu arnynt ers cyhyd, maen nhw\u2019n cynnal amrywiaeth gyfoethog o fflora a ffawna. <a href=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/woodland-management\/\">Darllenwch fwy am arferion rheoli coetiroedd yn yr Tirwedd Cenedlaethol<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"dyffrynnoedd-afonydd-a-gwlyptir\"><strong>Dyffrynnoedd afonydd a gwlyptir<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae nifer o ddyffrynnoedd a gwlyptiroedd yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy \u2013 y rhai mwyaf nodedig yw Afon Alun ac Afon Dyfrdwy, ac Afon Chwiler ac Afon Morwynion, sy\u2019n llai adnabyddus.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/River-Alyn-1024x768.jpg\" alt=\"River Alyn\" class=\"wp-image-2109\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/River-Alyn-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/River-Alyn-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/River-Alyn-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/River-Alyn-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/River-Alyn-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/River-Alyn-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/River-Alyn.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae llawer o\u2019r afonydd yn y Dirwedd Genedlaethol wedi derbyn dynodiad o ryw fath er mwyn eu gwarchod a\u2019r bywyd gwyllt ynddynt. Dynodwyd Afon Dyfrdwy i gyd yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA); mae bron i 17% o Afon Alun o fewn ffiniau ACA, ac mae canran debyg o Afon Chwiler yn llifo drwy safleoedd bywyd gwyllt dynodedig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dyfrgwn a llygod pengrwn y d\u0175r yn dibynnu ar ein dyfrffyrdd. Yn ffodus, yn dilyn dirywiad dramatig yn y boblogaeth yng nghanol yr 20fed ganrif, mae\u2019r dyfrgi yn dechrau adfeddiannu ei hun. Dyma un o\u2019r rheswm dros ddynodi Afon Dyfrdwy fel Ardal Cadwraeth Arbennig.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, mae llygod pengrwn y d\u0175r yn dirywio&#8217;n ddifrifol, gyda 90% o boblogaeth y DU wedi ei golli ers y 1980au. Mae angen gweithredu r\u0175an i\u2019w atal rhag diflannu\u2019n llwyr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynnwys nifer o gynefinoedd a bywyd gwyllt y mae angen gweithredu i atal eu dirywiad ac yn wir, eu hadfer. Darllenwch am ein prosiectau i weld y camau gweithredu penodol sydd ar waith.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2112,"menu_order":0,"template":"","article-category":[132,136],"class_list":["post-7421","article","type-article","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","article-category-discover-and-explore-cy","article-category-landscapes-and-wildlife-cy"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.7 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Cynefinoedd - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Cynefinoedd - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynnwys nifer o gynefinoedd a bywyd gwyllt y mae angen gweithredu i atal eu dirywiad ac yn wir, eu hadfer. Darllenwch am ein prosiectau i weld y camau gweithredu penodol sydd ar waith.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2026-01-23T11:32:10+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/IMG_0447.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1600\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"4 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/\",\"name\":\"Cynefinoedd - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/IMG_0447.jpg\",\"datePublished\":\"2025-06-07T14:49:07+00:00\",\"dateModified\":\"2026-01-23T11:32:10+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/IMG_0447.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/IMG_0447.jpg\",\"width\":2000,\"height\":1600,\"caption\":\"Sheep on heathland\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Articles\",\"item\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Cynefinoedd\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\",\"name\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"description\":\"Area of Outstanding Natural Beauty\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization\",\"name\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg\",\"width\":381,\"height\":148,\"caption\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/\",\"https:\/\/www.instagram.com\/Clwyd_Dee_AONB\/\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Cynefinoedd - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Cynefinoedd - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","og_description":"Mae Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cynnwys nifer o gynefinoedd a bywyd gwyllt y mae angen gweithredu i atal eu dirywiad ac yn wir, eu hadfer. Darllenwch am ein prosiectau i weld y camau gweithredu penodol sydd ar waith.","og_url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/","og_site_name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/","article_modified_time":"2026-01-23T11:32:10+00:00","og_image":[{"width":2000,"height":1600,"url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/IMG_0447.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"4 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/","name":"Cynefinoedd - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/IMG_0447.jpg","datePublished":"2025-06-07T14:49:07+00:00","dateModified":"2026-01-23T11:32:10+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/IMG_0447.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/IMG_0447.jpg","width":2000,"height":1600,"caption":"Sheep on heathland"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/habitats\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Articles","item":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Cynefinoedd"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/","name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","description":"Area of Outstanding Natural Beauty","publisher":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization","name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg","width":381,"height":148,"caption":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape"},"image":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/","https:\/\/www.instagram.com\/Clwyd_Dee_AONB\/"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/7421","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/article"}],"version-history":[{"count":11,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/7421\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8895,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/7421\/revisions\/8895"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2112"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7421"}],"wp:term":[{"taxonomy":"article-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article-category?post=7421"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}