{"id":7684,"date":"2025-06-08T15:41:21","date_gmt":"2025-06-08T14:41:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/article\/industrial-heritage\/"},"modified":"2025-10-22T13:57:35","modified_gmt":"2025-10-22T12:57:35","slug":"industrial-heritage","status":"publish","type":"article","link":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/","title":{"rendered":"Treftadaeth Ddiwydiannol"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1024x768.jpg\" alt=\"Loggerheads water mill\" class=\"wp-image-2303\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Loggerheads-Pentre-Mill-Wheel.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"loggerheads-country-park-industrial-heritage-lead-and-leats-nowadays-it-s-hard-to-imagine-that-this-peaceful-valley-was-once-industrial-with-waterwheels-tunnels-tramways-water-channels-and-numerous-ever-growing-spoil-heaps-there-is-a-long-history-of-lead-mining-in-the-area\"><strong>Treftadaeth Ddiwydiannol Parc Gwledig Loggerheads<\/strong> <\/h3>\n\n\n\n<p><em>Y plwm a\u2019r dwr<\/em> <br>Anodd credu heddiw fod y dyffryn tawel hwn yn lle diwydiannol iawn ers talwm, gyda\u2019r olwynion d\u0175r, twneli, tramffyrdd, sianeli d\u0175r a\u2019r tomennydd sbwriel niferus. Mae gan yr ardal hon hanes hir o fwyngloddio am blwm.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir mwyn plwm mewn nifer o wythiennau yn y calchfaen sy\u2019n rhedeg o\u2019r gogledd-orllewin i\u2019r de-ddwyrain, yn fras.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o domenni gwastraff ynghudd o dan y tyfiant, ond nid oes unrhyw beirianwaith mwyngloddio ar \u00f4l. Yr adeilad amlycaf yw\u2019r olwyn-pwll fawr, garreg yn ymyl y bont yn Loggerheads. Ers talwm roedd olwyn dd\u0175r 40 troedfedd mewn diamedr yn yr adeilad hwn. Gyrrwyd yr olwyn gan y d\u0175r o\u2019r l\u00eet (sianel a dorrwyd gan bobl) oedd yn rhedeg o lyn y felin yn ymyl y maes parcio. Ar y lan ddwyreiniol erys olion pwll twrbein dwr a fyddai\u2019n cael ei fwydo gan l\u00eet wahanol. Defnyddiwyd y twrbein a\u2019r olwyn dd\u0175r i bwmpio d\u0175r o Gloddfa Glan Alun yn y 1860au.<\/p>\n\n\n\n<p>Un atgof o\u2019r gorffennol diwydiannol yw Ceudwll y Diafol a ffurfiwyd pan gloddiwyd gwyth\u00efen lydan o spar gwyn yn ystod yr 19eg ganrif.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Melin Pentre<\/em> <br>Defnyddid d\u0175r i yrru nifer o\u2019r melinau ar yr Afon Alun. Mae Melin Pentre, yn y Parc Gwledig, yn dyddio o leiaf o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Yn wreiddiol, melin \u0177d oedd hi a melin coed ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ychwanegwyd deinamo yn y 1920au i ynhyrchu trydan i\u2019r tai lleol. Byddai\u2019r bobl leol yn dod \u00e2\u2019u batris i\u2019r felin i\u2019w llenwi!<\/p>\n\n\n\n<p><em>Chwarela<\/em> <br>Agorwyd chwarel calchfaen Cefn Mawr, i\u2019r gogledd ddwyrain o\u2019r Parc Gwledig ar ddiwedd y 1940au i gyflenwi calchfaen i\u2019r gwaith sment yn Padeswood, y gwaith sment cyntaf i\u2019w adeiladu yn y DU ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd. Mae\u2019r chwarel yn dal i ddarparu cerrig ar\ngyfer y gwaith sment, a rhoesant gerrig yn rhodd i\u2019r Parc Gwledig I ailadeiladu waliau cerrig a gwella\u2019r llwybrau. Hefyd, mae dwy chwarel fechan segur o fewn ffiniau\u2019r Parc a fu\u2019n gweithio ar raddfa lai. Llosgwyd calchfaen o\u2019r hen chwarel yn yr odyn gyfagos i gynhyrchu calch ar gyfer morter ac i chwalu ar y caeau i felysu\u2019r pridd. Ar ddiwedd y 19eg ganrif daeth mwynwyr plwm o hyd i ddyddodion gwerthfawr o dywod silica pur iawn ac o glai t\u00e2n yng nghloddfa Glan Alun.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/visit-loggerheads-country-park\/\">Cynlluniwch ymweliad<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"pontcysyllte-aqueduct-and-canal-world-heritage-site-watch-this-life-by-the-water-film-to-see-the-highlights-of-the-11-miles-of-stunning-canal-and-countryside-spanning-two-countries-along-aqueducts-tunnels-and-viaducts\"><strong>Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont Pontcysyllte a\u2019r Gamlas<\/strong> <\/h3>\n\n\n\n<p>Gwyliwch y ffilm hon, <a href=\"https:\/\/vimeo.com\/385083127?share=copy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Bywyd wrth y D\u0175r,<\/a> i weld uchafbwyntiau\u2019r 11 milltir o gamlas a chefn gwlad trawiadol sy\u2019n ymestyn dros ddwy wlad, ar hyd traphontydd d\u0175r, twneli a thraphontydd.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.pontcysyllte-aqueduct.co.uk\/cy\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cynlluniwch ymweliad<\/a><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Horseshoe-falls_Web-1024x768.jpg\" alt=\"Horseshoe Falls\" class=\"wp-image-2318\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Horseshoe-falls_Web-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Horseshoe-falls_Web-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Horseshoe-falls_Web-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Horseshoe-falls_Web-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Horseshoe-falls_Web-600x450.jpg 600w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Horseshoe-falls_Web-1200x900.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Horseshoe-falls_Web.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"horseshoe-falls-completed-in-1808-thomas-telford-designed-this-elegant-140m-horseshoe-shaped-weir-to-divert-water-from-the-river-dee-into-what-is-the-beginning-of-the-llangollen-canal-it-s-an-impressive-piece-of-engineering-but-what-makes-it-so-remarkable-is-that-for-all-its-industrial-purpose-it-enhances-the-beauty-of-the-surrounding-landscape\"><strong>Rhaeadr y Bedol<\/strong> <\/h3>\n\n\n\n<p>Cafodd y gored gain si\u00e2p pedol hon, sy\u2019n 140m o hyd, ei dylunio gan Thomas Telford. Cafodd ei chwblhau yn 1808 gyda\u2019r bwriad o ddargyfeirio d\u0175r o Afon Dyfrdwy i fan cychwyn Camlas Llangollen. Mae\u2019n gampwaith peirianyddol trawiadol ond yr hyn sy\u2019n rhyfeddol yw ei bod yn ychwanegu at harddwch y tirlun cyfagos, er gwaethaf ei phwrpas diwydiannol.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><strong>Oeddech chi\u2019n gwybod<\/strong> <br>Mae dolydd llethrog esmwyth o bopty i\u2019r rhaeadr, a choed hynafol a da byw lle mae cenedlaethau o bobl wedi bod yn dod i fwynhau\u2019r golygfeydd gyda phicnic.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Gyda\u2019r gostyngiad yn y defnydd o gamlesi at ddibenion masnachol, dirywiodd cyflwr llawer ohonynt ac fe\u2019u collwyd. Mae Camlas Llangollen wedi goroesi oherwydd bod y d\u0175r a dynnir o Afon Dyfrdwy yn Rhaeadr y Bedol nid yn unig yn bwydo i mewn i rwydwaith o gamlesi eraill, ond hefyd yn cyflenwi d\u0175r i Swydd Gaer hyd heddiw. Yn 2009 dynodwyd bod Rhaeadr Y Bedol yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Dd\u0175r a Chamlas Pontcysyllte gan UNESCO.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch groesi\u2019r sianel wrth D\u0177\u2019r Mesurydd sy\u2019n rheoleiddio dros 12 miliwn galwyn o dd\u0175r a dynnir o\u2019r afon i\u2019r gamlas bob dydd. Ewch ar hyd llwybr tynnu\u2019r gamlas i Langollen sydd llai na dwy filltir i ffwrdd, ac o\u2019r fan honno gallwch barhau i archwilio Safle Treftadaeth Y Byd trwy fynd ar fordaith gamlas hamddenol o Lanfa Llangollen ac ar draws Traphont Dd\u0175r Pontcysyllte \u2013 un o\u2019r teithiau camlas mwyaf poblogaidd ym Mhrydain.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/visit-horseshoe-falls\/\" data-type=\"page\" data-id=\"7709\">Cynlluniwch ymweliad<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><strong>Oeddech chi\u2019n gwybod<\/strong> <br>Gallwch weld Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte a Rhaeadr y Bedol ar y daith <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=LtdXPH3YC6E\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=LtdXPH3YC6E\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">hedfan rithwir ysblennydd hon o Ddyffryn Dyfrdwy<\/a>.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"minera-country-park-minera-lead-mines-and-country-park-offers-a-fascinating-glimpse-into-the-industrial-past-of-the-beautiful-clywedog-valley-situated-at-the-head-of-the-valley-minera-is-a-great-starting-point-for-accessing-the-beautiful-surrounding-countryside-including-minera-mountain-for-dedicated-walkers\"><strong>Parc Gwledig y Mwynglawdd<\/strong> <\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Parc Gwledig a Phyllau Plwm y Mwynglawdd yn rhoi cipolwg diddorol ar hanes diwydiannol Dyffryn hardd Clywedog. Mae\u2019r Mwynglawdd wedi\u2019i leoli ym mhen draw\u2019r dyffryn ac mae\u2019n fan cychwyn da i fwynhau\u2019r cefn gwlad cyfagos, gan gynnwys Mynydd y Mwynglawdd ar gyfer cerddwyr brwd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Parc Gwledig y Mwynglawdd yn cwmpasu 53 acer o laswelltir, coetir a safleoedd archeolegol ac yn cynnwys amrywiaeth wych o fywyd gwyllt a chyfleoedd diddiwedd i archwilio ardal o hedd a thawelwch.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.groundworknorthwales.org.uk\/visitminera\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cliciwch yma i gael gwybod mwy neu i gynllunio ymweliad \u00e2 Minera<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"ty-mawr-country-park-ty-mawr-country-park-sits-on-the-banks-of-the-river-dee-beneath-the-impressive-stone-arches-of-the-cefn-viaduct\"><strong>Parc Gwledig T\u0177 Mawr<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Gorweddai Parc Gwledig T\u0177 Mawr ar lannau afon Dyfrdwy, o dan fw\u00e2u carreg trawiadol Traphont Cefn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Parc Gwledig yn gartref i anifeiliaid fel mulod, moch a geifr, a hyd yn oed lamas. Gall teuluoedd ymweld \u00e2\u2019r anifeiliaid a bwydo\u2019r hwyaid a\u2019r ieir rhydd. Mae\u2019r parc hefyd yn gartref i lawer o flodau ac anifeiliaid gwyllt, adar a phryfaid sy\u2019n ffynnu ar y tir na welai unrhyw blaladdwr gyda chemegau niweidiol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image aligncenter\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Ty-Mawr-meadow-768x1024.jpg\" alt=\"T\u0177 Mawr meadow\" class=\"wp-image-2314\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Ty-Mawr-meadow-768x1024.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Ty-Mawr-meadow-225x300.jpg 225w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Ty-Mawr-meadow-1152x1536.jpg 1152w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Ty-Mawr-meadow-1200x1600.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Ty-Mawr-meadow.jpg 1500w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Yn yr haf mae\u2019r dolydd gwair yn llawn lliw a gall teuluoedd ddod yma i ymlacio a mwynhau picnic a\u2019r golygfeydd godidog.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae T\u0177 Mawr yn lle delfrydol i gerdded, pa un ai ydych chi\u2019n mynd am dro o amgylch y parc neu\u2019n dod yma i gychwyn taith hirach fel <a href=\"\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Cefn-Mawr-Heritage-Trail.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Llwybr Treftadaeth Cefn Mawr<\/a>. Mae\u2019r llwybr yma\u2019n mynd \u00e2 chi ar daith i bentref hanesyddol Cefn Mawr ac yn gyfle i chi archwilio\u2019i dreftadaeth ddiwydiannol bwysig a mwynhau golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Dyfrdwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd Cefn Mawr yn dref newydd a gr\u00ebwyd gan y cyfleoedd a ddaeth gyda\u2019r gamlas, pan dyfodd anheddiad o gwmpas y chwareli cerrig, gwaith haearn, clai a phyllau glo. Y tu \u00f4l i\u2019r brif stryd drwy Gefn Mawr oedd y dramffordd. Yn wir, tramffyrdd oedd y rhan fwyaf o strydoedd Cefn Mawr yn wreiddiol<\/p>\n\n\n\n<p>Mae T\u0177 Mawr ryw filltir i ffwrdd o Draphont Dd\u0175r Pontcysyllte, nodwedd allweddol yn Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte a Chamlas Llangollen \u2013 dilynwch y llwybr ar hyd glannau afon Dyfrdwy i gyrraedd yma.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ddiddorol iawn, cafodd yr asennau ar gyfer bw\u00e2u Dyfrbont Dd\u0175r Pontcysyllte eu bwrw yn ffowndri haearn Plas Kynaston gan William Hazeldine yng Nghefn Mawr.<\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.wrecsam.gov.uk\/service\/parciau-chefn-gwlad\/parc-gwledig-ty-mawr\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Cynlluniwch ymweliad.<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"moel-fferna\">Moel Fferna<\/h3>\n\n\n\n<p>O ben Moel Fferna &#8211; man uchaf Llwybr Gogledd y Berwyn &#8211; ymestynna&#8217;r bryniau grugog i bob cyfeiriad. Mae golygfeydd am bellter; tua&#8217;r Gogledd i Fynyddoedd Llantysilio a Moelydd Clwyd, i&#8217;r Gorllewin tua&#8217;r Arennig, ac i&#8217;r De i Fryniau&#8217;r Berwyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn uchel ar lethrau&#8217;r bryn, y tu isaf i gopa Moel Fferna, mae clwstwr o adfeilion a thomenni llechi sy&#8217;n ymestyn fel bysedd o&#8217;r gweithfeydd<\/p>\n\n\n\n<p>canolog. Dyma&#8217;r cyfan sydd ar \u00f4l o chwarel lechi Moel Fferna. O dan y ddaear y cloddiwyd am y llechi a hynny drwy ffrwydro&#8217;r graig yn ofalus gan greu agorydd anferth oedd fel ogofeydd tanddaearol. Byddai&#8217;r darnau o lechfaen yn cael eu hollti er mwyn iddynt fod yn haws eu rhoi mewn wagenni a fyddai&#8217;n cael eu gwthio i&#8217;r wyneb drwy&#8217;r lefel hir. Caent eu hollti a&#8217;u naddu&#8217;n llechi yn y felin fawr.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn is i lawr y bryn roedd Chwarel Slabiau Glannau Dyfrdwy. Chwarel agored oedd hon, a gallwch weld wyneb y graig lle tynnwyd y llechfaen ohoni. Defnyddiwyd y slabiau i wneud byrddau llawdriniaeth, fatiau chwisgi, cerrig beddi, ac i adeiladu.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar eu hanterth yn 1901, roedd y chwareli hyn yn cyflogi dros 200 o ddynion a arferai gerdded i fyny i&#8217;r mynydd bob dydd o Garrog ac o Lyndyfrdwy. Yn raddol, lleihaodd y galw am lechi ac fe gaeodd y chwarel slabiau yn 1923 ar \u00f4l damwain angheuol pan fu farw dau o&#8217;r tri gweithiwr oedd yn dal i weithio yma.<\/p>\n\n\n\n<p>Parhaodd Chwarel Moel Fferna am gyfnod hirach gan gau yn 1960 am ei bod hi&#8217;n anodd cael chwarelwyr i weithio yma ac am fod y cystadlu yn erbyn teils a fasgynyrchwyd yn cwtogi&#8217;r elw.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae&#8217;r llechi tywyll a gloddiwyd o&#8217;r graig yn yr ardal yma yn rhai salach na llechi&#8217;r chwareli<\/p>\n\n\n\n<p>mawr yng Ngwynedd. Mewn lleoedd oer a gwlyb maent yn malu ac yn troi&#8217;n \u00f4l i lwch yn<\/p>\n\n\n\n<p>y diwedd. Gallwch weld enghreifftiau o&#8217;r llechi chwilfriw ymhobman yma. Allforiwyd llawer o lechi to i&#8217;r gwledydd poeth ble roeddynt yn para&#8217;n hirach.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch archwilio&#8217;r ardal hon ymhellach drwy ddilyn <a href=\"https:\/\/izi.travel\/en\/a41a-glyndyfrdwy-nant-y-pandy-audio-trail-taith-sain-nant-y-pandy\/en\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/izi.travel\/en\/browse\/a41ad4ba-cafc-48a6-bafd-b592bc8be4e4\/en\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Llwybr Sain Glyndyfrdwy Nant Y Pandy.<\/a><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wedi eu cuddio yn yr isdyfiant mae arwyddion bod y dirwedd yn arfer bod yn ferw o weithgarwch diwydiannol \u2013 yn gloddfeydd plwm, gweithfeydd haearn, chwareli a chamlesi. Gwahanol iawn i\u2019r heddwch a\u2019r tawelwch yr ydym yn ei fwynhau heddiw.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":2310,"menu_order":0,"template":"","article-category":[132,140],"class_list":["post-7684","article","type-article","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","article-category-discover-and-explore-cy","article-category-history-and-heritage-cy"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.7 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Treftadaeth Ddiwydiannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Treftadaeth Ddiwydiannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Wedi eu cuddio yn yr isdyfiant mae arwyddion bod y dirwedd yn arfer bod yn ferw o weithgarwch diwydiannol \u2013 yn gloddfeydd plwm, gweithfeydd haearn, chwareli a chamlesi. Gwahanol iawn i\u2019r heddwch a\u2019r tawelwch yr ydym yn ei fwynhau heddiw.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-10-22T12:57:35+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/double-steam-train-Ty-Mawr-Country-Park_small.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"2000\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"1333\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"7 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/\",\"name\":\"Treftadaeth Ddiwydiannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/double-steam-train-Ty-Mawr-Country-Park_small.jpg\",\"datePublished\":\"2025-06-08T14:41:21+00:00\",\"dateModified\":\"2025-10-22T12:57:35+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/double-steam-train-Ty-Mawr-Country-Park_small.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/double-steam-train-Ty-Mawr-Country-Park_small.jpg\",\"width\":2000,\"height\":1333,\"caption\":\"Steam train on Cefn Viaduct\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Articles\",\"item\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Treftadaeth Ddiwydiannol\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\",\"name\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"description\":\"Area of Outstanding Natural Beauty\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization\",\"name\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg\",\"width\":381,\"height\":148,\"caption\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/\",\"https:\/\/www.instagram.com\/Clwyd_Dee_AONB\/\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Treftadaeth Ddiwydiannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Treftadaeth Ddiwydiannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","og_description":"Wedi eu cuddio yn yr isdyfiant mae arwyddion bod y dirwedd yn arfer bod yn ferw o weithgarwch diwydiannol \u2013 yn gloddfeydd plwm, gweithfeydd haearn, chwareli a chamlesi. Gwahanol iawn i\u2019r heddwch a\u2019r tawelwch yr ydym yn ei fwynhau heddiw.","og_url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/","og_site_name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/","article_modified_time":"2025-10-22T12:57:35+00:00","og_image":[{"width":2000,"height":1333,"url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/double-steam-train-Ty-Mawr-Country-Park_small.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"7 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/","name":"Treftadaeth Ddiwydiannol - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/double-steam-train-Ty-Mawr-Country-Park_small.jpg","datePublished":"2025-06-08T14:41:21+00:00","dateModified":"2025-10-22T12:57:35+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/double-steam-train-Ty-Mawr-Country-Park_small.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/double-steam-train-Ty-Mawr-Country-Park_small.jpg","width":2000,"height":1333,"caption":"Steam train on Cefn Viaduct"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/industrial-heritage\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Articles","item":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Treftadaeth Ddiwydiannol"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/","name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","description":"Area of Outstanding Natural Beauty","publisher":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization","name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg","width":381,"height":148,"caption":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape"},"image":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/","https:\/\/www.instagram.com\/Clwyd_Dee_AONB\/"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/7684","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/article"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/7684\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8902,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/7684\/revisions\/8902"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2310"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7684"}],"wp:term":[{"taxonomy":"article-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article-category?post=7684"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}