{"id":8118,"date":"2025-09-05T14:05:47","date_gmt":"2025-09-05T13:05:47","guid":{"rendered":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/article\/gronant-to-cwm\/"},"modified":"2025-09-05T14:28:44","modified_gmt":"2025-09-05T13:28:44","slug":"gronant-to-cwm","status":"publish","type":"article","link":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/","title":{"rendered":"Gronant a Cwm"},"content":{"rendered":"\n<p>Yn \u00f4l pob tebyg, preswylydd enwocaf pentref Gronant oedd Elis Gruffydd (<em>c.<\/em>1490 \u2013 <em>c.<\/em> 1552), croniclydd Cymreig adnabyddus yn ystod y cyfnod modern cynnar. Roedd yn filwr a fu\u2019n gwasanaethu yng ngwarchodlu Lloegr yn Calais. Tua 1522 cwblhaodd ei waith enfawr ar hanes y byd, \u2018Cronicl o wech oesodd\u2019, yn adrodd hanes y Chwe Oes ac, yn benodol, hanes Cymru a Lloegr. Cedwir Cronicl Elis Gruffydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir dadlau mai&#8217;r twyni tywod sy\u2019n ymestyn i\u2019r dwyrain o Brestatyn ydi\u2019r rhai mwyaf sylweddol a chyfan o holl dwyni arfordir Gogledd Cymru. Mewn mannau eraill, mae canrifoedd o ddatblygiad diwydiannol, twristiaeth a gweithgareddau dynol eraill wedi lleihau neu ddileu y twyni a arferai ymestyn ar hyd yr arfordir.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae twyni Gronant yn cynnal planhigion prin, gan gynnwys celyn y m\u00f4r, llathlys y m\u00f4r a tegeiran bera (pyramidal orchid). Mae anifeiliaid prin yr ardal yn cynnwys yr ysgyfarnog, ehedydd, mining bee a sandhill rustic moth. Mae&#8217;r llyffant y twyni (natterjack toad) wedi cael ei ailgyflwyno, ac o 2003 i 2006 rhyddhawyd madfallod y tywod ifanc ar dwyni Gronant. Mae madfallod y tywod, sy&#8217;n ehangach ac yn fwy na madfallod cyffredin, yn gynhenid \u200b\u200bi&#8217;r twyni o arfordir Gogledd Cymru ond wedi cael eu difa gan effaith gweithgaredd dynol ar eu cynefinoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Ym mhen dwyreiniol twyni Gronant mae traethell raean lle mae\u2019r morwennol fychan, cwtiad torchog ac adar eraill yn nythu. Hwn ydi un o\u2019r poblogaethau mwyaf cynhyrchiol o\u2019r wennol fechan ym Mhrydain. Mae mwy na 6% o boblogaeth Prydain yn atgynhyrchu yng Gronant. Dyma&#8217;r unig le yng Nghymru lle y bridiau\u2019r rhywogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwarchod yr adar swil yma rhag ymyrraeth ers 2005.<\/p>\n\n\n\n<p>Darganfod mwy:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/northwaleslittleterns.weebly.com\/gronantdunes.html\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/northwaleslittleterns.weebly.com\/gronantdunes.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Twyni Gronant <\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/littleterns.denbighshirecountryside.org.uk\/cymraeg\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/littleterns.denbighshirecountryside.org.uk\/cymraeg\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">M\u00f4r-wennol Fach<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"llanasa\">Llanasa<\/h3>\n\n\n\n<p>Disgrifir Llanasa fel un o blwyfi hynafol Sir y Fflint.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwyddys bod y pentref, sydd wedi ei enwi ar \u00f4l y Sant Asa, wedi bodoli ers <em>c.<\/em>600 OC, o leiaf, ac fe\u2019i gelwid yn wreiddiol yn Llanasaff, sef Eglwys Asaff (Asa). Dyma lle mae bedd Sant Asa a lle cadwyd ei greiriau cyn iddynt gael eu symud i Gadeirlan Llanelwy rywdro cyn 1281. Yn ddiweddarach, yr eglwys blwyf hynafol hon oedd man claddu Gruffudd Fychan (tad Owain Glynd\u0175r).<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y caeau sy\u2019n amgylchynu Llanasa darganfuwyd sawl arteffact nodedig yn dyddio o\u2019r cyfnodau mesolithig a neolithig.\u00a0 Mae pobl wedi bod yn fforio, ffermio a chladdu\u2019r meirwon yn yr ardal hon ers miloedd o flynyddoedd. Mae crug crwn Ty\u2019n-y-caeau yn safle archaeolegol yn Llanasa.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r pentref, sydd \u00e2 18 o adeiladau rhestredig, yn Ardal Gadwraeth ddynodedig, ac fe adeiladwyd llawer o\u2019r tai hanesyddol yno gyda cherrig lleol Gwespyr. Gwelir y garreg hon, o liw m\u00eal, yng nghestyll Rhuddlan a Dinbych, Ffynnon Gwenffrewi ac Abaty Dinas Basing. Mae nifer o adeiladau cynnar o\u2019r 16eg ganrif a\u2019r 17eg ganrif yn y pentref; y pwysicaf yw Gwylgre a Henblas ysblennydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Darganfod mwy:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/www.llanasa.wales\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.llanasa.wales\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Llanasa<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.mythslegendsodditiesnorth-east-wales.co.uk\/llanasa\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.mythslegendsodditiesnorth-east-wales.co.uk\/llanasa\">Curious Clwyd<\/a> <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"gwaenysgor\">Gwaenysgor<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae anheddiad bach Gwaenysgor ar ymyl llwyfandir calchfaen yn edrych dros Brestatyn a M\u00f4r Iwerddon. Mae\u2019r golygfeydd ar hyd yr arfordir yn drawiadol.<\/p>\n\n\n\n<p>Saif yr anheddiad ar ymyl calchfaen Bryniau Clwyd ac mae\u2019n glwstwr tynn o amgylch eglwys y Santes Mair Magdalen a thafarn yr Eagle &amp; Child Inn. Mae Llyfr Dydd y Farn (1086) yn rhestru maenor ac eglwys sydd wedi mynd yn adfail yn \u201cWenescol\u201d. O ddadansoddi\u2019r ffurf Gymraeg fodern ar enw\u2019r lle, gwelir mai \u201cgwaun ger ysgor (caer)\u201d sydd yma \u2013 adlais o\u2019r anheddiad cynhanesyddol a fu ar Fryn Gop gerllaw. Mae arolygon archaeolegol wedi dangos bod pobl wedi bod yn ffermio yn yr ardal am 5,000 o flynyddoedd, o leiaf. Mae crug Hen D\u0177\u2019n safle archaeolegol yn Nhrelawnyd a Gwaenysgor.<\/p>\n\n\n\n<p>Darganfod mwy:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Gwaenysgor-Booklet.pdf\" data-type=\"link\" data-id=\"\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Gwaenysgor-Booklet.pdf\">Gwaenysgor<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.mythslegendsodditiesnorth-east-wales.co.uk\/gwaenysgor\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.mythslegendsodditiesnorth-east-wales.co.uk\/gwaenysgor\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Curious Clwyd<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/castles-and-historical-sites\/\">Y Gop<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"cwm\">Cwm<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ardal Cwm gerllaw pentref Rhuallt, ac mae\u2019n cynnwys sawl pentrefan gan gynnwys Melinau Marian, Marian Cwm, Pentre Cwm ac ardal Bod Hamer.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna sawl safle hynafol o bwysigrwydd archaeolegol yn y cyffiniau. Mae bryngaer o\u2019r Oes Haearn ar Foel Hiraddug, a elwir hefyd y Foel. Mae chwarel calchfaen wedi bwyta i ran ogleddol y bryn, ond mae\u2019r llethr bellach yn warchodfa natur a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru; ceir yno laswelltiroedd calchaidd lled-naturiol. Mae\u2019n lle arbennig i fynd am dro, gyda nifer o lwybrau sy\u2019n addas i deuluoedd. Ar y copa gellwch fwynhau golygfeydd panoramig o gefn gwlad o\u2019ch cwmpas, ac arfordir gogledd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae tomen Cwm yn safle archaeolegol gerllaw gwyddfa, sef tomen gladdu hynafol, ac mae hefyd yn agos at grugiau Aelwyd Uchaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd yn yr ardal hon mae ogof\u00e2u Thorncliffe. Mae lloches dan glogwyn Nant-y-Fuach gerllaw Coed T\u0177 Newydd, ac Ogof Dragon\u2019s Hall. Mae lloches dan glogwyn Nant-y-Fuach yn safle archaeolegol a gloddiwyd rhwng 1950 a 1957. Canfu archaeolegwyr lestri Peterborough, pen saeth pigog a cholseidiog am amryw esgyrn anifeiliaid \u2013 a oedd yn dangos bod pobl wedi bod yn byw yn yr ardal am gyfnod hir.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adfeilion amrywiol y gellir eu gweld yn dystiolaeth o breswyliad mwy diweddar gan bobl. Mae adfeilion y Felin Fawr a\u2019r Felin Fach i\u2019w gweld gerllaw Ffynnon Asa. Mae adfeilion <a href=\"https:\/\/www.dyserth.com\/castle.html\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.dyserth.com\/castle.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Castell Dyserth<\/a> i\u2019w gweld hefyd, ac mae mwy o wybodaeth amdano <a href=\"https:\/\/www.castlewales.com\/dysr_cym.html\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.castlewales.com\/dysr_cym.html\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Lle diddorol arall i ymweld ag o yw Gwarchodfa Natur y Graig Fawr a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae yno ddolydd, clogwyni creigiau trawiadol, ac mae wedi ei dynodi\u2019n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei gynefin calchfaen unigryw. Cewch fwy o wybodaeth<a href=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/visit\/wales\/graig-fawr\"> <\/a><a href=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/cy\/visit\/wales\/graig-fawr\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/www.nationaltrust.org.uk\/cy\/visit\/wales\/graig-fawr\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Am fwy o deithiau cerdded a golygfeydd panoramig, gellwch gerdded i fyny Mynydd y Cwm, sydd ag uchder o 304.8 metr. Yn ddiweddar fe dderbyniodd statws Marilyn, gan fod ganddo esgynfa o 150 metr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae eglwys Cwm \u2013 Eglwys Sant Mael a Sant Sulien \u2013 yn addolfan hynafol mewn lleoliad prydferth. Mae\u2019r fynwent yn llawn blodau gwylltion yn y gwanwyn a\u2019r haf, ac mae\u2019n agos at lwybr cerdded Taith Clwyd a rhwydwaith o lwybrau troed mwy lleol. Cewch fwy o wybodaeth <a href=\"https:\/\/www.nationalchurchestrust.org\/church\/st-mael-st-sulien-cwm\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.mythslegendsodditiesnorth-east-wales.co.uk\/cwm\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Gellir gweld lluniau hanesyddol o\u2019r Cwm a\u2019r cyffiniau <a href=\"https:\/\/dyserth.com\/Dyserth%20Old%20Photos\/Cwm%20and%20Pentre%20Cwm\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Gronant yn rhan o system eang o dwyni tywod rhwng Traeth Barkby i\u2019r gorllewin a Phwynt Talacre i\u2019r dwyrain ar ochr orllewinol o aber Glannau Dyfrdwy.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":0,"menu_order":0,"template":"","article-category":[151,139,132],"class_list":["post-8118","article","type-article","status-publish","hentry","article-category-clwydian-range-clusters-cy","article-category-communities-cy","article-category-discover-and-explore-cy"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.7 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Gronant a Cwm - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Gronant a Cwm - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae Gronant yn rhan o system eang o dwyni tywod rhwng Traeth Barkby i\u2019r gorllewin a Phwynt Talacre i\u2019r dwyrain ar ochr orllewinol o aber Glannau Dyfrdwy.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-09-05T13:28:44+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/crdv-yoast.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"1200\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"675\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/\",\"name\":\"Gronant a Cwm - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website\"},\"datePublished\":\"2025-09-05T13:05:47+00:00\",\"dateModified\":\"2025-09-05T13:28:44+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Articles\",\"item\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Gronant a Cwm\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\",\"name\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"description\":\"Area of Outstanding Natural Beauty\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization\",\"name\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg\",\"width\":381,\"height\":148,\"caption\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/\",\"https:\/\/www.instagram.com\/Clwyd_Dee_AONB\/\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Gronant a Cwm - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Gronant a Cwm - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","og_description":"Mae Gronant yn rhan o system eang o dwyni tywod rhwng Traeth Barkby i\u2019r gorllewin a Phwynt Talacre i\u2019r dwyrain ar ochr orllewinol o aber Glannau Dyfrdwy.","og_url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/","og_site_name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/","article_modified_time":"2025-09-05T13:28:44+00:00","og_image":[{"width":1200,"height":675,"url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/crdv-yoast.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/","name":"Gronant a Cwm - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website"},"datePublished":"2025-09-05T13:05:47+00:00","dateModified":"2025-09-05T13:28:44+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/gronant-to-cwm\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Articles","item":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Gronant a Cwm"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/","name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","description":"Area of Outstanding Natural Beauty","publisher":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization","name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg","width":381,"height":148,"caption":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape"},"image":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/","https:\/\/www.instagram.com\/Clwyd_Dee_AONB\/"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/8118","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/article"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/8118\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8126,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/8118\/revisions\/8126"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8118"}],"wp:term":[{"taxonomy":"article-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article-category?post=8118"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}