{"id":8353,"date":"2025-09-09T15:54:40","date_gmt":"2025-09-09T14:54:40","guid":{"rendered":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/article\/the-dee-valley\/"},"modified":"2025-09-16T16:44:16","modified_gmt":"2025-09-16T15:44:16","slug":"the-dee-valley","status":"publish","type":"article","link":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/","title":{"rendered":"Dyffryn Dyfrdwy"},"content":{"rendered":"\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-vimeo wp-block-embed-vimeo wp-embed-aspect-18-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"An Animated History of the Dee Valley\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/689194004?dnt=1&amp;app_id=122963\" width=\"1290\" height=\"645\" frameborder=\"0\" allow=\"autoplay; fullscreen; picture-in-picture; clipboard-write; encrypted-media; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\"><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Mae system LANDMAP Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhannu\u2019r estyniad 230 cilomedr sgw\u00e2r yma i\u2019r ardaloedd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"calchfeini-graianrhyd-i-landegla\">Calchfeini Graianrhyd i Landegla<\/h3>\n\n\n\n<p>Ardal o olygfeydd calchfaen carbonifferaidd arbennig sy\u2019n cynnwys bryniau calchfaen, brigiadau creigiau, dyffrynnoedd a choedwigoedd. Mae\u2019r coed a\u2019r ffiniau caeau yn dilyn y llinellau cymhleth o gerrig agored i ffurfio tirwedd ffermio amgaeedig. Mae waliau ac adeiladau calchfaen yn rhan o gymeriad yr ardal. Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y Graig wedi\u2019i ddiogelu oherwydd ei laswelltir calchfaen ac asid. Mae\u2019r calchfeini yn cynnwys ogofau anhygoel gydag olion Neolithig.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"dyffryn-y-morwynion\">Dyffryn y Morwynion<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r dyffryn hwn wedi\u2019i amg\u00e1u i\u2019r de gan grib uchel Mynydd Llantysilio a Chyrn-y-Brain ac i\u2019r gogledd gan fryniau tonnog Llanelidan a Gwyddelwern. Mae\u2019r afon yn codi yn y dyffryn cul i\u2019r gogledd o Goed Llandegla, gan lifo tua\u2019r de-orllewin i ymuno ag Afon Dyfrdwy yng Ngharrog. Mae gan y dyffryn hir a llydan hwn lethrau ysgafn o borfeydd wedi\u2019u hamgylchynu gan berthi a waliau carreg. Mae Caer Drewyn, caer cynhanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol, yn nodi pen gorllewinol yr ardal.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"mynydd-llantysilio\">Mynydd Llantysilio<\/h3>\n\n\n\n<p>Dyma ran o un o rostiroedd agored gorau gogledd Cymru, gyda chynefinoedd prin a phwysig a safleoedd o ddiddordeb hanesyddol. Mae\u2019r tir, sydd yn dir comin agored yn bennaf, yn codi dros 500 metr. Mae\u2019r rhosydd sych sy\u2019n gorchuddio\u2019r rhan helaeth o\u2019r ardal yn rhan o Ardal Gadwraeth Arbennig, a rhyngwladol bwysig, Mynyddoedd y Berwyn a De Clwyd ac yn darparu cynefin ar gyfer adar yr ucheldir fel y rugiar ddu, pibydd y waun, yr ehedydd, a\u2019r gylfinir. Yn y grib fe welwch chi dystiolaeth o anheddiad cynhanesyddol yn ogystal \u00e2 henebion fel bryngaer Moel y Gaer. Mae cynnwys y tir sydd o amgylch Bwlch yr Oernant ar y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Pwysig yn amlygu pwysigrwydd chwareli llechi\u2019r ardal.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"724\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Moel-y-Gaer-Llantysilio-web-1024x724.jpg\" alt=\"Moel y Gaer Llantysilio\" class=\"wp-image-2132\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Moel-y-Gaer-Llantysilio-web-1024x724.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Moel-y-Gaer-Llantysilio-web-300x212.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Moel-y-Gaer-Llantysilio-web-768x543.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Moel-y-Gaer-Llantysilio-web-1200x848.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Moel-y-Gaer-Llantysilio-web.jpg 1500w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Moel y Gaer<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"mynyddoedd-cyrn-y-brain-a-rhiwabon\">Mynyddoedd Cyrn-y-Brain a Rhiwabon<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ardal eang hon yn gorchuddio\u2019r ucheldiroedd a\u2019r rhosydd agored i\u2019r gogledd o Ddyffryn Dyfrdwy. Mae\u2019n cynnwys Mynydd Cyrn-y-Brain, Coed Llandegla a Mynydd Rhiwabon yn ogystal \u00e2 Rhosydd Llandegla, Mynydd Esclus a Mynydd y Mwynglawdd ger y ffin. Mae rhan fwyaf o lwyfandir rhos agored, anghysbell a llydan yr ardal hon yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Mynyddoedd y Berwyn a De Clwyd. Yma hefyd fe welwch chi boblogaethau allweddol o adar bridio, fel y cudyll bach, mwyalchen y mynydd, y dylluan glustiog a\u2019r cwtiad aur. Mae Chwarel Pant Glas yn safle allweddol ar gyfer daeareg strwythurol, mae yna balmentydd calchfaen yn Aber Sychnant a system genedlaethol bwysig o ogofeydd yn y Mwynglawdd. Ceir tystiolaeth dros ardal eang o aneddiadau cynhanesyddol ar ffurf carneddau a meini hirion ar dir uchel.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"llethrau-dwyreiniol-mynydd-rhiwabon\">Llethrau dwyreiniol Mynydd Rhiwabon<\/h3>\n\n\n\n<p>Tirwedd amgaeedig, gyda phorfeydd yn bennaf, sy\u2019n gorwedd ar grib ddwyreiniol yr ardal ac sy\u2019n wynebu Wrecsam a Gwastadedd Caer. Er bod y tir yn dir amaethyddol wedi\u2019i wella, mae yma nifer o gloddiau coed a choedlannau bychan. Ceir golygfeydd tuag i mewn ac allan o\u2019r ffermydd anghysbell a\u2019r pentrefannau bychain. Ymhellach i\u2019r dwyrain mae\u2019r ffermydd anghysbell a\u2019r pentrefannau yn troi\u2019n aneddiadau mwy fel Penycae a Garth ac mae dylanwad y pyllau glo yn fwyfwy amlwg. Mae llawer o\u2019r dyffrynnoedd bychain yn cynnwys gweddillion coetiroedd lled-naturiol hynafol (gan gynnwys coetiroedd derw ac ynn) sy\u2019n safleoedd bywyd gwyllt lleol. Mae bryngaer Pen y Gaer yn safle o bwysigrwydd hanesyddol eithriadol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"bro-llangollen-a-dyffryn-dyfrdwy\">Bro Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy<\/h3>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i hamg\u00e1u i\u2019r gogledd gan Fynyddoedd Llantysilio a Rhiwabon ac i\u2019r de gan ochr ogleddol Mynydd y Berwyn, mae\u2019r dirwedd hon yn eiconig a\u2019r golygfeydd yn eithriadol. Dros y canrifoedd mae\u2019r ardal wedi ysbrydoli sawl chwedl, llenor, arlunydd a cherddor. Cafodd yr ucheldiroedd a\u2019r dyffrynnoedd eu ffurfio gan ymdoriadau a mas-symudiad, ac yna\u2019u cerfio gan rewlifau. Mae\u2019r ardal hon yn borth dramatig i ogledd Cymru gydag ochrau\u2019r dyffrynnoedd yn serth, ystumiau rhychiog a dwfn, a therasau ffosil. Ar yr ochr ogleddol mae dyffryn serth afon Eglwyseg a chlogwyni calchfaen carbonifferaidd Creigiau Eglwyseg \u2013 y llethrau sgri mwyaf trawiadol ym Mhrydain. Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a\u2019r Rhodfa Panorama, sy\u2019n rhedeg ar hyd troed Creigiau Eglwyseg, yn cynnig golygfeydd syfrdanol o\u2019r fro. Mae ochr ddeheuol Dyffryn Dyfrdwy yn gadwyn o ddyffrynnoedd serth. Mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Afon Dyfrdwy yn bwysig oherwydd ei gynefinoedd eog, dyfrgi a gwlyptir. Mae\u2019r henebion hynafol yn cynnwys Castell Dinas Br\u00e2n ac Abaty Glyn y Groes, ac mae\u2019r rhan fwyaf o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Dd\u0175r a Chamlas Pontcysyllte hefyd yn yr ardal hon.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"742\" src=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Valle-Crucis-Abbey-web-1024x742.jpg\" alt=\"Valle Crucis Abbey\" class=\"wp-image-2197\" srcset=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Valle-Crucis-Abbey-web-1024x742.jpg 1024w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Valle-Crucis-Abbey-web-300x218.jpg 300w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Valle-Crucis-Abbey-web-768x557.jpg 768w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Valle-Crucis-Abbey-web-1536x1114.jpg 1536w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Valle-Crucis-Abbey-web-1200x870.jpg 1200w, https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/06\/Valle-Crucis-Abbey-web.jpg 2000w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Abaty Valle Crucis<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"gogledd-mynydd-y-berwyn\">Gogledd Mynydd y Berwyn<\/h3>\n\n\n\n<p>Ar ochr ddeheuol Bro Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy mae\u2019r dirwedd yn wahanol iawn i dirwedd ucheldir y gogledd. Mae\u2019n ardal fwy syml, anghysbell ac yn llai sefydlog. Mae\u2019r rhan hon o Fynydd y Berwyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig Ewropeaidd, sy\u2019n cynnwys rhos, gorgors a mignen o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae\u2019n gartref i ysgyfarnogod, bras y gors, cudyllod bach, hebogau tramor, y barcut coch, bod tinwyn, cwtiaid aur a\u2019r rugiar ddu a choch. Mae Coedwig Ceiriog hefyd yn gynefin i wiwerod coch. Mae mawndiroedd yr ardal yn rhai o bwysigrwydd cenedlaethol, gyda defnydd tir a safleoedd claddu sy\u2019n dyddio\u2019n \u00f4l i\u2019r cyfnod cynhanesyddol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\" id=\"chirk-estate-to-froncysyllte\">Stad y Waun i Froncysyllte<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn gorwedd ar gornel dde-ddwyreiniol yr Tirwedd Cenedlaethol mae\u2019r dirwedd hon mewn lleoliad strategol bwysig ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae\u2019r ardal yn borth i Fro Llangollen ac yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Dd\u0175r a Chamlas Pontcysyllte. Yma hefyd mae castell cenedlaethol bwysig y Waun. Mae\u2019r tir glas, y parcdir a\u2019r hen goed yn y Waun yn gynefin sydd wedi\u2019i flaenoriaethu\u2019n genedlaethol am ei fioamrywiaeth ac yn gartref i amrywiaeth o saproffytau ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Mae yna nifer o goetiroedd hynafol a safleoedd bywyd gwyllt lleol o fewn y parc ac ymhellach i\u2019r gogledd ger Froncysyllte.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae rhai o dirweddau a safleoedd treftadaeth mwyaf eiconig Cymru i\u2019w canfod yma yn yr estyniad deheuol i\u2019r Tirwedd Cenedlaethol wreiddiol a ychwanegwyd yn 2011.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":8351,"menu_order":0,"template":"","article-category":[132,161],"class_list":["post-8353","article","type-article","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","article-category-discover-and-explore-cy","article-category-the-clwydian-range-and-the-dee-valley-cy"],"blocksy_meta":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.7 - https:\/\/yoast.com\/wordpress\/plugins\/seo\/ -->\n<title>Dyffryn Dyfrdwy - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Dyffryn Dyfrdwy - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae rhai o dirweddau a safleoedd treftadaeth mwyaf eiconig Cymru i\u2019w canfod yma yn yr estyniad deheuol i\u2019r Tirwedd Cenedlaethol wreiddiol a ychwanegwyd yn 2011.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-09-16T15:44:16+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Pen-y-Pigyn-waterfall.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"945\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"626\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"5 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/\",\"name\":\"Dyffryn Dyfrdwy - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Pen-y-Pigyn-waterfall.jpg\",\"datePublished\":\"2025-09-09T14:54:40+00:00\",\"dateModified\":\"2025-09-16T15:44:16+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Pen-y-Pigyn-waterfall.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Pen-y-Pigyn-waterfall.jpg\",\"width\":945,\"height\":626,\"caption\":\"Pen y Pigyn waterfall\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Cartref\",\"item\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Articles\",\"item\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Dyffryn Dyfrdwy\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\",\"name\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"description\":\"Area of Outstanding Natural Beauty\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization\",\"name\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\",\"url\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg\",\"width\":381,\"height\":148,\"caption\":\"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/\"},\"sameAs\":[\"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/\",\"https:\/\/www.instagram.com\/Clwyd_Dee_AONB\/\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Dyffryn Dyfrdwy - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Dyffryn Dyfrdwy - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","og_description":"Mae rhai o dirweddau a safleoedd treftadaeth mwyaf eiconig Cymru i\u2019w canfod yma yn yr estyniad deheuol i\u2019r Tirwedd Cenedlaethol wreiddiol a ychwanegwyd yn 2011.","og_url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/","og_site_name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/","article_modified_time":"2025-09-16T15:44:16+00:00","og_image":[{"width":945,"height":626,"url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Pen-y-Pigyn-waterfall.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Est. reading time":"5 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/","name":"Dyffryn Dyfrdwy - Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","isPartOf":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Pen-y-Pigyn-waterfall.jpg","datePublished":"2025-09-09T14:54:40+00:00","dateModified":"2025-09-16T15:44:16+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/#primaryimage","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Pen-y-Pigyn-waterfall.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/Pen-y-Pigyn-waterfall.jpg","width":945,"height":626,"caption":"Pen y Pigyn waterfall"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/the-dee-valley\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Cartref","item":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Articles","item":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/article\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Dyffryn Dyfrdwy"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#website","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/","name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","description":"Area of Outstanding Natural Beauty","publisher":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#organization","name":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg","contentUrl":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/04\/cradvnl-logo-2.jpg","width":381,"height":148,"caption":"Clwydian Range and Dee Valley National Landscape"},"image":{"@id":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/ClwydDeeAONB\/","https:\/\/www.instagram.com\/Clwyd_Dee_AONB\/"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/8353","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/article"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/8353\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8597,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article\/8353\/revisions\/8597"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8351"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8353"}],"wp:term":[{"taxonomy":"article-category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/article-category?post=8353"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}