Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy
Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy
Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy
Eisiau helpu natur? 11 – 18 oed? Os felly, beth am ymuno efo Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy?
Rydym ni’n ailgynnull Grŵp Ceidwaid Ifanc Dyffryn Dyfrdwy ar ôl saib hir oherwydd Covid-19. Mae’r grŵp yn berffaith ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed sydd eisiau dysgu mwy am ein tirlun anhygoel, ymgymryd â thasgau cadwraeth ymarferol, cynnal arolygon bywyd gwyllt a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored llawn hwyl.
Sefydlwyd y grŵp yn wreiddiol yn 2012, ac mae llawer o’r ceidwaid cyntaf yn dal i wirfoddoli neu hyd yn oed yn gweithio i’r Gwasanaeth Cefn Gwlad heddiw.
Rydym ni’n cwrdd unwaith y mis, gyda digwyddiadau 4 neu 6 awr. Mae’n rhaid i chi wisgo dillad addas, yn cynnwys dillad glaw ac esgidiau call. Dewch â bwyd a diod efo chi hefyd, ond rydym ni’n aml iawn yn darparu siocled poeth ac yn coginio dros dân.
Mae ein digwyddiad cyntaf yng Nghoed Pen y Pigyn, Corwen, ddydd Mercher 27 Hydref o 10am tan 3pm. Byddwn yn tocio coed conwydd i wneud lle i goed derw brodorol dyfu. Ar ôl cinio a ‘chydig o goginio dros dân, bydd yr artist lleol Jude Wood yn ymuno efo ni i greu ychydig o gelf goedwig.
Os hoffet ti ymuno efo ni, anfona neges i ros.stockdale@sirddinbych.gov.uk, ac fe wnawn ni anfon y ffurflen gofrestru atat ti.
Perthnasol
Y Bws Darluniadwy
Our Picturesque Landscape
Gwasanaeth bws newydd yn Nyffryn Dyfrdwy i ddarparu mynediad at rai o gyrchfannau allweddol y dirwedd hardd a hanesyddol hon.
Crynodeb o'r Prosiect: Mynediad
Our Picturesque Landscape
Crynodeb o'n Prosiect Tirwedd Pictiwrésg: Mynediad