Beicio

Beicio

Os ydych chi’n feiciwr ffordd neu feiciwr mynydd, gallwch ddod o hyd i gyfoeth o lwybrau cyffrous i’w darganfod yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Mae ein llwybrau beicio mynydd yn rhai o’r llwybrau gorau yng Nghymru gyda dringfeydd heriol, traciau sengl technegol a disgynfeydd serth. Mae canolfannau beicio rhagorol megis OnePlanet Adventure yng Nghoed Llandegla yn cynnig llwybrau wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar gyfer pob oedran a gallu, a phob un wedi’u graddio er mwyn rhoi syniad i chi o’r hyn i’w ddisgwyl cyn i chi ddechrau. Mae ardaloedd sgiliau dynodedig er mwyn ymarfer, caffis a siopau beic safonol i brynu neu logi.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae Beicio Gogledd Cymru yn wefan dynodedig lle gallwch ddod o hyd i ganllaw cyfan o bopeth sy’n ymwneud â beicio yn yr ardal, yn ogystal â chardiau llwybrau y gellir eu lawrlwytho, ffeiliau GPX, darparwyr llety a chyfleusterau beicio.

Wedi’i gefnogi gan y miloedd o ymwelwyr sy’n dod yma i ddefnyddio ein llwybrau bob blwyddyn, rydym hefyd yn atynnu nifer o ddigwyddiadau mawr beicio mynydd. Beth am ymuno neu wylio o’r ochr i weld yr arbenigwyr wrthi.

Mae ein milltiroedd o ffyrdd bach troellog drwy dirluniau godidog yn cynnig ffordd wych o gael awyr iach ac ymarfer corff wrth weld yr AHNE. Mae rhywbeth diddorol i’w ddarganfod bob amser, megis pentrefi croesawgar, bwytai gwych, a bywyd gwyllt amrywiol. Mae’r ffordd Prestatyn i Ddyserth yn enghraifft berffaith o lwybr sy’n hawdd i bob aelod o’r teulu. Coridor i fywyd gwyllt sy’n ymestyn am bedair milltir ac yn dilyn yr hen reilffordd, lle gallwch fwynhau blodau gwyllt prin, gloÿnnod byw, llygod y gwair a chudyllod coch cyn darganfod y caffi cudd yn yr hen sied nwyddau, sy’n cynnig lluniaeth yn ogystal â chyfle i brynu celf a chrefftau lleol.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?