Gofalu am yr AHNE

Mae rhostir grug yn cefnogi nifer o anifeiliaid a phlanhigion prin yn cynnwys y rugiar ddu, bod tinwen ac adar eraill yr ucheldir. Dros y 50 mlynedd ddiwethaf mae dros hanner rhostir y byd wedi diflannu – ac mae’r gweddill mewn cyflwr gwael.

Mae tri chwarter o rug y byd sy’n weddill i’w ganfod yma yn y DU, sy’n golygu fod pwysigrwydd cadwraeth rhyngwladol i’r 3,000 erw o grug rhos sydd yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Yn wir, ynghyd â’r gweundir glaswelltog, mae’r AHNE yn ffurfio’r ardal fwyaf o gynefin bywyd gwyllt sydd heb ei ddatblygu sy’n weddill yng Nghymru.

Er y caiff ei ystyried yn dirwedd wyllt a naturiol, mewn gwirionedd mae wedi cael ei greu wrth i bobl ei reoli’n barhaus dros sawl canrif. Mae ei oroesiad yn dibynnu’n gyfan gwbl ar gynnal y system draddodiadol o bori ochr y bryniau gan adael i ddefaid fwyta’r llystyfiant ifanc, gan reoli lledaeniad coed a llwyni a chadw’r grug a llus yn fyr.

Mae angen rheoli’r cyfan er mwyn diogelu’r dirwedd werthfawr yma. Mae’r tîm AHNE, ynghyd â gwirfoddolwyr, ffermwyr lleol a ffermwyr defaid yn cydweithio i reoli’r rhostir a sicrhau fod sgiliau’r cenedlaethau blaenorol yn cael eu pasio i genedlaethau’r dyfodol. Bob blwyddyn maent yn rheoli hyd at 120 acer o lus a grug trwy’u llosgi neu eu torri.

Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i fwy o bobl werthfawrogi harddwch yr ardal, ynghyd â’r gallu cynyddol i deithio yma, mae’r rheolwyr wedi cynnwys rhaglen o alluogi twristiaeth tra’n cydbwyso nifer cynyddol yr ymwelwyr gydag amddiffyn y dirwedd y maent wedi dod i’w fwynhau.

Rydym eisiau i bobl ddod i AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ond yn ogystal, rydym eisiau sicrhau fod pawb yn elwa, o’n cymunedau a busnesau lleol i brosiectau cadwraeth a mentrau amgylcheddol, ac wrth gwrs yr ymwelwyr eu hunain.

Gallwn gynnig cymorth a chyngor i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn yr AHNE a’r prosiectau o’i amgylch, o ran cynllunio, rheoli a chyfleoedd cyllid ar gyfer unrhyw brosiect sy’n amddiffyn neu’n gwella’r ardal.

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?