Llywodraethu a Rheoli AHNE

Llywodraethu a Rheoli AHNE

  • Stepping stones to Pen y Pigyn Wood
    Cerrig sarn Pen y Pigyn - Pen y Pigyn stepping stones
  • Access and viewpoint at Horseshoe Falls, September 2019
    Access and viewpoint at Horseshoe Falls, September 2019
  • Improved access and viewpoint at Horseshoe Falls
    Access and viewpoint at Horseshoe Falls, January 2020
  • Moel Famau, Mynedfa wedi'i hadfer i Dwr y Jiwbilî

Mae rheolaeth AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn cael ei lywodraethu gan Gyd-Bwyllgor ac mae ei lwyddiant yn dibynnu ar bartneriaethau cryf gyda chymunedau, gwirfoddolwyr, ffermwyr a pherchnogion tir a sefydliadau megis Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW. Rydym oll yn cydweithio gyda’r un nod o wella ein hamgylchedd a’i wneud yn fwy hygyrch.

Cydbwyllgor
Ffurfiodd y tri Awdurdod Lleol, sef Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint, gytundeb cyfreithiol i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â’r AHNE ar y cyd drwy Gydbwyllgor yn haf 2014. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys Aelodau Arweiniol o bob Awdurdod Lleol ac mae ganddo bŵer i weithredu ar ran yr Awdurdodau Lleol hynny i gyflawni dibenion yr AHNE. Caiff ei gefnogi gan Weithgor o swyddogion perthnasol o’r Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Phartneriaeth yr AHNE.

Partneriaeth yr AHNE
Mae Partneriaeth yr AHNE yn atebol i’r Cydbwyllgor am ddatblygu a chyflawni Cynllun Rheoli’r AHNE. Cafodd ei sefydlu er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o fuddion yn cael eu cynrychioli wrth gynllunio a chyflawni gwaith yr AHNE. Mae 25 aelod yn cynrychioli’r cymunedau trefol a gwledig sy’n rhan o’r AHNE, tri o aelodau awdurdodau lleol o bob un o’r awdurdodau partner, perchnogion tir, hamdden, mynediad a diddordebau arbennig eraill megis bioamrywiaeth a’r amgylchedd hanesyddol.

Mae pum Gweithgor wedi’u sefydlu er mwyn helpu i ganolbwyntio gwaith y Bartneriaeth ar gyflawni Cynllun Rheoli’r AHNE, sef: Sef:

  • Tirlun, Cymeriad ac Amgylchedd Adeiledig
  • Rheoli Tir a’r Amgylchedd Naturiol
  • Amgylchedd Hanesyddol
  • Iechyd, Hamdden a Mynediad
  • Busnes a Thwristiaeth Gynaliadwy
  • Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Mae modd i bob Gweithgor ymestyn eu haelodaeth y tu hwnt i’r bartneriaeth a chyfethol aelodau o gyrff perthnasol i roi cyngor ar agweddau arbennig o waith. Er enghraifft, mae’r Grŵp Rheoli Tir a’r Amgylchedd Naturiol yn cynnwys Swyddogion Bioamrywiaeth o bob un o’r Awdurdodau Lleol yn ogystal â swyddogion o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Yn yr un modd, mae Grŵp yr Amgylchedd Hanesyddol wedi cyfethol cynrychiolaeth gan CADW, y Comisiwn Brenhinol ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys.

Ein partneriaid allweddol

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o grwpiau a sefydliadau i ddarparu prosiectau a gwelliannau o amgylch yr AHNE, gan gynnwys:

Cyngor Bwrdeistref Siriol Wrecsam

Cyngor Sir Ddinbych

Cyngor Sir Fflint

Cyfoeth Naturiol Cymru

CADW

Cadwyn Clwyd

Iechyd Cyhoeddys Cymru

Llywodraeth Cymru

Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyswllt hanfodol rhwng yr AHNE a Llywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori ar bolisi cenedlaethol ac yn darparu cyllid craidd ar gyfer gwaith prosiect a staff. Mae’r swyddogion yn gweithio’n agos gyda ni yn genedlaethol ac yn rhanbarthol.

Ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn cynorthwyo i ddarparu prosiectau cymunedol mewn pedwar coedwig ym Mryniau Clwyd: Moel Famau, Llangwyfan, Nercwys a Phen y Pigyn.

Ffrindiau Moel Findeg

TDyma un esiampl o’n gwaith gyda grwpiau cymunedol lleol. Rydym yn helpu i reoli Gwarchodfa Natur Lleol Moel Findeg gyda Ffrindiau Moel Findeg a Chymdeithas Wledig Maeshafn a’r Fro, drwy grŵp llywio a drwy gymorth ymarferol ac ariannol.

Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Sefydlwyd yr elusen Cyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn 2015 gyda chymorth y tîm AHNE er mwyn helpu cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol i ddarganfod a mwynhau nodweddion arbennig yr AHNE. Bellach mae mwy na 200 o aelodau ac maent yn helpu tîm yr AHNE gyda digwyddiadau a phrosiectau, gan gynnig eu rhaglen ddigwyddiadau eu hunain a chyhoeddi cylchlythyr rheolaidd.

Gwirfoddolwyr

Mae nifer o bobl ar draws yr AHNE a thu hwnt yn rhoi ei hamser yn rheolaidd er mwyn cymryd rhan yn ein rhaglen o dasgau ymarferol, yn amrywio o godi wal gerrig a phlygu gwrych i gyfri’r rugiar ddu. Yn syml, ni all ein gwaith ddigwydd heb eu cymorth. Gallwch chi gymryd rhan yn ein hystod o weithgareddau gwirfoddoli: darganfyddwch fwy.

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?