Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Cymunedau

Cymerwch olwg ar ein cymunedau a’r ffordd y mae ein pobl, trefi a chymunedau wedi’u cysylltu â’r dirwedd.

Serch hynny mae cymeriad unigryw Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cael ei siapio gan genedlaethau o bobl sydd wedi byw a gweithio yma ers canrifoedd; gan gynnal y cynefinoedd, defnyddio’r adnoddau, creu’r cymunedau a dod â thirweddau’n fyw.

Ond nid rhywbeth mewn amgueddfa i edrych yn ôl arnynt gydag atgofion yw ein cymunedau – maent yn drefi a phentrefi byw a bywiog sydd yr un mor werthfawr heddiw ag y maent wedi bod erioed. Mae’r Tirwedd Cenedlaethol yn gweithio gyda’r cymunedau hyn i gynghori a chynnig cymorth wrth barhau i wneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn leoliad dymunol, croesawgar sydd yn llawn bywyd, antur a phersonoliaeth.

I gael gwybod mwy am y cymunedau eu hunain, cliciwch ar y grwpiau clwstwr isod.

Clystyrau Bryniau Clwyd

panorama of Nannerch and Tremeirchion

Tremeirchion i Nannerch

Mae’r ardal o amgylch Tremeirchion wedi’i orchuddio â beddrodau o’r Oes Efydd, megis Beddrodau Crwn Criafol a’r ddau feddrod crwn ar Foel Maen Efa, a gall hyn ddynodi parhad mewn...

signpost to Cilcain

Llangwyfan a Cilcain

Mae Llangwyfan yn bentrefan i’r gorllewin o fryngaer Moel Arthur.

Gronant a Cwm

Mae Gronant yn rhan o system eang o dwyni tywod rhwng Traeth Barkby i’r gorllewin a Phwynt Talacre i’r dwyrain ar ochr orllewinol o aber Glannau Dyfrdwy.

Valle Crucis Abbey

Llanarmon-yn-Iâl ac Eryrys

Mae pentref Llanarmon-yn-Iâl wedi’i leoli i’r de-ddwyrain o dref Rhuthun. Mae’r afon Alyn yn llifo heibio ochr ddwyreiniol y pentref.

Clystyrau Dyffryn Dyfrdwy

Chirk Castle

Rhwng Stad y Waun a Froncysyllte

Mae’r dirwedd rhwng y ddau le hwn ar ymyl yr ucheldiroedd, ond yn wynebu’r iseldiroedd.

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau