Gronant
Mae Gronant yn rhan o system eang o dwyni tywod rhwng Traeth Barkby i’r gorllewin a Phwynt Talacre i’r dwyrain ar ochr orllewinol o aber Glannau Dyfrdwy. Ymysg y twyni gwelltog mae amrywiol lwyfannau gwylio ble gall yr hen a’r ifanc fwynhau dringo ac ymgolli yn yr hyn sydd o’u cwmpas. Mae byrddau gwybodaeth yn sôn am y planhigion a’r anifeiliaid helaeth sydd i’w canfod yno.
Yn ôl pob tebyg, preswylydd enwocaf pentref Gronant oedd Elis Gruffydd (c.1490 – c. 1552), croniclydd Cymreig adnabyddus yn ystod y cyfnod modern cynnar. Roedd yn filwr a fu’n gwasanaethu yng ngwarchodlu Lloegr yn Calais. Tua 1522 cwblhaodd ei waith enfawr ar hanes y byd, ‘Cronicl o wech oesodd’, yn adrodd hanes y Chwe Oes ac, yn benodol, hanes Cymru a Lloegr. Cedwir Cronicl Elis Gruffydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gellir dadlau mai’r twyni tywod sy’n ymestyn i’r dwyrain o Brestatyn ydi’r rhai mwyaf sylweddol a chyfan o holl dwyni arfordir Gogledd Cymru. Mewn mannau eraill, mae canrifoedd o ddatblygiad diwydiannol, twristiaeth a gweithgareddau dynol eraill wedi lleihau neu ddileu y twyni a arferai ymestyn ar hyd yr arfordir.
Mae twyni Gronant yn cynnal planhigion prin, gan gynnwys celyn y môr, llathlys y môr a tegeiran bera (pyramidal orchid). Mae anifeiliaid prin yr ardal yn cynnwys yr ysgyfarnog, ehedydd, mining bee a sandhill rustic moth. Mae’r llyffant y twyni (natterjack toad) wedi cael ei ailgyflwyno, ac o 2003 i 2006 rhyddhawyd madfallod y tywod ifanc ar dwyni Gronant. Mae madfallod y tywod, sy’n ehangach ac yn fwy na madfallod cyffredin, yn gynhenid i’r twyni o arfordir Gogledd Cymru ond wedi cael eu difa gan effaith gweithgaredd dynol ar eu cynefinoedd.
Ym mhen dwyreiniol twyni Gronant mae traethell raean lle mae’r morwennol fychan, cwtiad torchog ac adar eraill yn nythu. Hwn ydi un o’r poblogaethau mwyaf cynhyrchiol o’r wennol fechan ym Mhrydain. Mae mwy na 6% o boblogaeth Prydain yn atgynhyrchu yng Gronant. Dyma’r unig le yng Nghymru lle y bridiau’r rhywogaeth.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gwarchod yr adar swil yma rhag ymyrraeth ers 2005.
Darganfod mwy:
Llanasa
Disgrifir Llanasa fel un o blwyfi hynafol Sir y Fflint.
Gwyddys bod y pentref, sydd wedi ei enwi ar ôl y Sant Asa, wedi bodoli ers c.600 OC, o leiaf, ac fe’i gelwid yn wreiddiol yn Llanasaff, sef Eglwys Asaff (Asa). Dyma lle mae bedd Sant Asa a lle cadwyd ei greiriau cyn iddynt gael eu symud i Gadeirlan Llanelwy rywdro cyn 1281. Yn ddiweddarach, yr eglwys blwyf hynafol hon oedd man claddu Gruffudd Fychan (tad Owain Glyndŵr).
Yn y caeau sy’n amgylchynu Llanasa darganfuwyd sawl arteffact nodedig yn dyddio o’r cyfnodau mesolithig a neolithig. Mae pobl wedi bod yn fforio, ffermio a chladdu’r meirwon yn yr ardal hon ers miloedd o flynyddoedd. Mae crug crwn Ty’n-y-caeau yn safle archaeolegol yn Llanasa.
Mae’r pentref, sydd â 18 o adeiladau rhestredig, yn Ardal Gadwraeth ddynodedig, ac fe adeiladwyd llawer o’r tai hanesyddol yno gyda cherrig lleol Gwespyr. Gwelir y garreg hon, o liw mêl, yng nghestyll Rhuddlan a Dinbych, Ffynnon Gwenffrewi ac Abaty Dinas Basing. Mae nifer o adeiladau cynnar o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif yn y pentref; y pwysicaf yw Gwylgre a Henblas ysblennydd.
Darganfod mwy:
Gwaenysgor
Mae anheddiad bach Gwaenysgor ar ymyl llwyfandir calchfaen yn edrych dros Brestatyn a Môr Iwerddon. Mae’r golygfeydd ar hyd yr arfordir yn drawiadol.
Saif yr anheddiad ar ymyl calchfaen Bryniau Clwyd ac mae’n glwstwr tynn o amgylch eglwys y Santes Mair Magdalen a thafarn yr Eagle & Child Inn. Mae Llyfr Dydd y Farn (1086) yn rhestru maenor ac eglwys sydd wedi mynd yn adfail yn “Wenescol”. O ddadansoddi’r ffurf Gymraeg fodern ar enw’r lle, gwelir mai “gwaun ger ysgor (caer)” sydd yma – adlais o’r anheddiad cynhanesyddol a fu ar Fryn Gop gerllaw. Mae arolygon archaeolegol wedi dangos bod pobl wedi bod yn ffermio yn yr ardal am 5,000 o flynyddoedd, o leiaf. Mae crug Hen Dŷ’n safle archaeolegol yn Nhrelawnyd a Gwaenysgor.
Darganfod mwy:
Cwm
Mae ardal Cwm gerllaw pentref Rhuallt, ac mae’n cynnwys sawl pentrefan gan gynnwys Melinau Marian, Marian Cwm, Pentre Cwm ac ardal Bod Hamer.
Mae yna sawl safle hynafol o bwysigrwydd archaeolegol yn y cyffiniau. Mae bryngaer o’r Oes Haearn ar Foel Hiraddug, a elwir hefyd y Foel. Mae chwarel calchfaen wedi bwyta i ran ogleddol y bryn, ond mae’r llethr bellach yn warchodfa natur a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru; ceir yno laswelltiroedd calchaidd lled-naturiol. Mae’n lle arbennig i fynd am dro, gyda nifer o lwybrau sy’n addas i deuluoedd. Ar y copa gellwch fwynhau golygfeydd panoramig o gefn gwlad o’ch cwmpas, ac arfordir gogledd Cymru.
Mae tomen Cwm yn safle archaeolegol gerllaw gwyddfa, sef tomen gladdu hynafol, ac mae hefyd yn agos at grugiau Aelwyd Uchaf.
Hefyd yn yr ardal hon mae ogofâu Thorncliffe. Mae lloches dan glogwyn Nant-y-Fuach gerllaw Coed Tŷ Newydd, ac Ogof Dragon’s Hall. Mae lloches dan glogwyn Nant-y-Fuach yn safle archaeolegol a gloddiwyd rhwng 1950 a 1957. Canfu archaeolegwyr lestri Peterborough, pen saeth pigog a cholseidiog am amryw esgyrn anifeiliaid – a oedd yn dangos bod pobl wedi bod yn byw yn yr ardal am gyfnod hir.
Mae’r adfeilion amrywiol y gellir eu gweld yn dystiolaeth o breswyliad mwy diweddar gan bobl. Mae adfeilion y Felin Fawr a’r Felin Fach i’w gweld gerllaw Ffynnon Asa. Mae adfeilion Castell Dyserth i’w gweld hefyd, ac mae mwy o wybodaeth amdano yma.
Lle diddorol arall i ymweld ag o yw Gwarchodfa Natur y Graig Fawr a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae yno ddolydd, clogwyni creigiau trawiadol, ac mae wedi ei dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei gynefin calchfaen unigryw. Cewch fwy o wybodaeth yma.
Am fwy o deithiau cerdded a golygfeydd panoramig, gellwch gerdded i fyny Mynydd y Cwm, sydd ag uchder o 304.8 metr. Yn ddiweddar fe dderbyniodd statws Marilyn, gan fod ganddo esgynfa o 150 metr.
Mae eglwys Cwm – Eglwys Sant Mael a Sant Sulien – yn addolfan hynafol mewn lleoliad prydferth. Mae’r fynwent yn llawn blodau gwylltion yn y gwanwyn a’r haf, ac mae’n agos at lwybr cerdded Taith Clwyd a rhwydwaith o lwybrau troed mwy lleol. Cewch fwy o wybodaeth yma ac yma.
Gellir gweld lluniau hanesyddol o’r Cwm a’r cyffiniau yma.
