Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

On the Corwen Giant Trail

Llwybr Cawr Corwen

Yn nhref hanesyddol Corwen, mae ffurf gysglyd o Drewyn y cawr. Cerddodd drwy’r dyffryn ddiwethaf ar 23 Mawrth 2019, ar ôl ymweld â’i gariad y forwyn laeth y credwn sy’n byw ar Fryncaer Caer Drewyn. Ar ôl gadael cyfres o ôl traed mewn caeau cyfagos, aeth yn ôl i gysgu. Pwy a ŵyr pryd y bydd yn cerdded eto?

Y lle gorau i’w weld yw drwy ddilyn y llwybr o’r dref drwy Goed hyfryd Pen y Pigyn i’r olygfan arbennig, mae’n sicr yn werth y dringo. Edrychwch allan am y gwrthrychau wnaeth Drewyn eu gollwng yn ystod ei daith olaf, allwch chi ddod o hyd iddynt?

Crëwyd gan yr artist Gordon Rogers gyda chymorth y gymuned leol, yn arbennig Ysgol Caer Drewyn. Ariannwyd gan Croeso Cymru ac Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

@WakingCorwensGiant ar Facebook neu Instagram

Map llwybr Cawr Corwen Giant trail map
Map llwybr Cawr Corwen Giant trail map

1: Ôl Troed

Dyma un o nifer o olion traed a wnaed gan Drewyn pan ddeffrodd ar Gaer Drewyn a cherdded i Gorwen.

Olion traed Drewyn – Drewyn’s Footprint
Olion traed Drewyn – Drewyn’s Footprint

2: Drewyn yn Cysgu

Fe wnaed y marciau hyn yn y tir pan syrthiodd Drewyn i gysgu eto. Fe ddaeth Drewyn i Gorwen i chwilio am ei gariad y Forwyn Laeth. Mae mor fawr fel bod angen i chi ddringo i frig Pen y Pigyn i’w weld – ond tra rydych chi yma fe allwch fwynhau’r blodau gwyllt yn tyfu lle mae’n cysgu.

Drewyn yn Cysgu – Drewyn Asleep
Drewyn yn Cysgu – Drewyn Asleep

3: Ceiniogau

Efallai fod gan Drewyn dwll yn ei boced gan ei fod wedi gollwng nifer o wrthrychau o amgylch Corwen gan gynnwys y ceiniogau hyn. Mae rhai yn credu mai llun o gawr yw’r ddelwedd ar y ceiniogau hyn ac eraill yn credu mai llun aderyn yn hedfan sydd yma. Mae’n bosib eu bod wedi eu bathu gan Fendigeidfran a oedd yn byw yng Nghastell Dinas Brân uwchben Llangollen.

Darnau Arian Drewyn / Drewyn’s Coins
Darnau Arian Drewyn – Drewyn’s Coins

4: Pibell Drewyn

Wedi ei wneud o gasgen wisgi ac wedi ei lenwi gyda mawn mae’n ymddangos fod pibell Drewyn wedi ei wneud gan un ai cawr o’r Alban neu o Iwerddon. Ond sut y daeth yma?

Teulu yn mwynhau r-daith – Family enjoying the walk
Teulu yn mwynhau r-daith – Family enjoying the walk

5: Brws Dannedd Drewyn

Mae blew y brws hwn wedi ei wneud o frwyn yn tyfu yn Nol Afon.

Brwsh Dannedd Drewyn – Drewyn’s Tooth Brush
Brwsh Dannedd Drewyn – Drewyn’s Tooth Brush

6: Llwy Drewyn

Wedi ei siapio gan gawr yn gwasgu’r dur gyda’u bys a’u bawd – maent wedi gwasgu’r metel mor galed hyd nes eu bod wedi gadael ôl bawd ar yr wyneb.

Llwy mawr i Gawr – A Spoon fit for a Giant
Llwy mawr i Gawr – A Spoon fit for a Giant

7: Crib Drewyn

Crib barf lle mae dail wedi dechrau blaguro – gall cribau cawr drawsnewid yn fforestydd dwys.

8: Nodwydd ac Edau

Os oedd Drewyn yn sefyll yn y llannerch ar Lwybr y Dagr isod a’i gariad yn sefyll yma ar frig y clogwyn, dyma’r unig le am filltiroedd o gwmpas lle gallent edrych i fyw llygaid ei gilydd. Credir na wnaed yr Edau a’r Nodwydd hyn gan Drewyn ond yn hytrach ar ei gyfer a bod ei gariad wedi eu gadael yma er mwyn iddo ddod o hyd iddynt.

I lawr yn Nol Corwenna gallwch ei weld yn cysgu a’r llwybr o olion traed a wnaeth ar ei siwrne ddiwethaf. Pan fydd yn deffro bydd yn gallu trwsio ei boced, casglu ei eiddo ac yna fe allant barhau ar eu hantur nesaf.