Fforwm Cymunedol Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Nos Iau 1 Hydref | 19:00–20:30
Ystafell Charles Darby,
Stori Brymbo, Stryd Fawr Newydd, Brymbo, Wrecsam LL11 5AX https://storibrymbo.co.uk/
Archebwch eich lle drwy Eventbrite Fforwm Cymunedol
e-bostiwch parcgwledig.loggerheads@sirddinbych.gov.uk
neu ffoniwch 01824 712757.

Mae croeso i bawb sydd â diddordeb yn y Dirwedd Genedlaethol.
Dewch draw i gael blas ar y gwaith pwysig sy’n digwydd ledled Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a chael cyfle i leisio’ch barn, gofyn cwestiynau a helpu i ddylanwadu ar ddyfodol y dirwedd.
Mae ein fforymau’n cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, Aelodau Lleol a phobl eraill â diddordeb yn y Dirwedd Genedlaethol.
Cyflwyniadau:
Yn y fforwm hwn, byddwn yn clywed am ddau o brosiectau pwysig:
Atal Tân ar y Rhostir
Dysgwch fwy am y gwaith sy’n digwydd i atal tanau ar y rhostir, gwarchod ein tirwedd werthfawr a lleihau’r peryglon i fywyd gwyllt a chynefinoedd.

Prosiect Adfer y Gylfinir
Cewch glywed am y gwaith sy’n mynd rhagddo yn y Dirwedd Genedlaethol i hybu adferiad gylfinirod a gwarchod yr aderyn annwyl hwn ar ein rhostiroedd a thir amaeth.
Bydd cyfle hefyd i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm y Dirwedd Genedlaethol a chlywed am brosiectau ar y gweill, cymorth ymarferol a chyfleoedd posib am gyllid.

Beth allwch ei ddisgwyl?
Clywed beth sy’n digwydd yn lleol
Cael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, gan gynnwys llwyddiannau diweddar, prosiectau ar y gweill a chyfleoedd sy’n codi yn eich ardal chi.
Dweud eich dweud
Codi materion lleol, gofyn cwestiynau a lleisio’ch barn i dîm y Dirwedd Genedlaethol yn uniongyrchol.
Cydweithio
Ymchwilio i gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth wrth gyflawni dyletswyddau statudol a Chynllun Rheoli’r Dirwedd Genedlaethol.
Rhannu syniadau ac ysbrydoliaeth
Rhowch wybod inni am brosiectau, gweithgareddau a syniadau yn eich cymuned chi. Gall rhannu eich profiadau helpu pobl eraill i ddatblygu eu cynlluniau eu hunain.
Canfod cymorth a chyfleoedd
Cael gwybod am gymorth ymarferol, offer cynllunio cymunedol, prosiectau ar y gweill a chyfleoedd posib am gyllid.
Fforwm i’ch cymuned chi
Bwriedir i’r fforymau fod yn sgwrs ddwy ffordd a bod digonedd o gyfleoedd i drafod materion sydd o bwys yn lleol a chynnal sesiwn holi ac ateb penodol.
P’un a ydych chi’n cynrychioli Cyngor Tref neu Gymuned, grŵp cymunedol neu brosiect lleol, neu bod gennych ddiddordeb yn nyfodol y Dirwedd Genedlaethol, mae croeso ichi ddod.
Efallai yr hoffech dynnu sylw at gwestiwn, syniad, prosiect neu broblem sydd gennych – neu dim ond dysgu mwy am beth sy’n digwydd ledled y Dirwedd Genedlaethol.
A fedrai eich cyngor benodi Cefnogwr y Dirwedd Genedlaethol?
Mae rhai Cynghorau Tref a Chymuned wedi penodi Cefnogwr y Dirwedd Genedlaethol o blith eu haelodau. Mae hynny’n ffordd gadarnhaol o atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng cynghorau a thîm y Dirwedd Genedlaethol a sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n gyson.
Os nad yw eich cyngor wedi penodi Cefnogwr eto, byddem yn falch iawn pe gallech ystyried gwneud hynny.
I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch parcgwledig.loggerheads@sirddinbych.gov.uk
Mynd â’r Fforwm i Gymunedau gwahanol
Gwyddom fod y Dirwedd Genedlaethol yn eithaf helaeth a’i bod weithiau’n anodd i bobl deithio’n bell.
I’w gwneud yn fwy hwylus i bobl gymryd rhan yn y fforymau, rydym yn cwrdd mewn gwahanol gymunedau yn y Dirwedd Genedlaethol yn eu tro, gyda’r nod o ymweld â chymaint o gymunedau â phosib.
Os gwyddoch chi am gymuned a fyddai’n elwa ar gynnal fforwm yn y dyfodol, rhowch wybod inni.
Cynhelir y cyfarfod nesaf yn
Ystafell Charles Darby
Stori Brymbo
Stryd Fawr Newydd
Brymbo
Wrecsam
LL11 5AX
Nos Iau 1 Hydref | 19:00–20:30

(*Sylwer* bod Ystafell Charles Darby yng nghefn y prif adeilad a bod y fynedfa drwy gât ar ochr yr adeilad).
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi, a chydweithio i ofalu am Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a’i gwella.



