Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Maes Parcio Coed Moel Famau Trwydded Parcio Blynyddol

£30.00

Category:
  • Anrhegion Ffantastig
  • Llongau yn y DU
  • Wedi'i Wneud yn Lleol
Pryniant diogel gwarantedig

Rhif Cofrestru Car: Rhowch rif cofrestru’r car yr hoffech i’r drwydded hon fod yn berthnasol iddo.

Os oes angen ail drwydded arnoch ar gyfer car gwahanol, rhowch yr eitem hon yn eich basged ac yna dychwelwch i’r dudalen hon i nodi rhif cofrestru gwahanol.

Noder: Mae pob trwydded yn rhedeg o 1af Ebrill i 31ain Mawrth

Bydd eich data yn cael ei brosesu gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyfoeth Naturiol Cymru at ddibenion penodol o asesu eich datganiad o ddiddordeb. Mae angen prosesu eich data personol er mwyn cymryd camau ar eich cais chi cyn ffurfio contract/cytundeb. Ni fydd Cyngor Sir Ddinbych na Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn delio â gwybodaeth bersonol, gweler ein Polisïau Preifatrwydd: www.denbighshire.gov.uk/preifatrwydd a Cyfoeth Naturiol Cymru / Hysbysiad Preifatrwydd

Amodau a thelerau trwyddedau parcio arhosiad hir

Yn y ddogfen hon rydym ni wedi defnyddio’r term ‘trwydded’. Bydd y term yn cyfeirio at e-drwyddedau newydd (yn weithred Mawrth 2026).

Mae’r amodau a’r telerau hyn yn cynnwys trwyddedau un cyfradd (flat rate).

  1. Mae trwyddedau ar gael i drigolion y sir ac i unigolion eraill fel ei gilydd.
  2. Ni fydd deiliaid trwyddedau yn sicr o gael lle parcio yn ôl y galw, ond byddant yn cael hawl i barcio am ddim (yn amodol ar argaeledd lle) yn unrhyw un o’r meysydd parcio a restrir isod:
    Parc Gwleidg Loggerheads
    Maes Parcio Bwlch Penbarras, Parc Gwleidg Moel Famau
    Maes Parcio Moel Fenlli, Parc Gwleidg Moel Famau
    Maes Parcio Coed Moel Famau, Parc Gwleidg Moel Famau
  3. Pan fydd e-drwydded barcio wedi ei rhoi byddant ond yn cael eu rhoi ar gyfer (un) cerbyd penodol.
  4. Os yw rhywun yn newid cerbyd yna bydd trwydded newydd yn cael ei chyhoeddi yn rhad ac am ddim. Bydd yn rhaid gwneud cais i’r Cyngor am hyn.
  5. Mae’n rhaid i gerbydau fod ag MOT, yn ddiogel i fod ar y ffordd ac wedi’u trethu a’u hyswirio ar gyfer cyfnod y drwydded. Bydd methiant i gydymffurfio â hyn yn arwain at ddirymu eich trwydded.
  6. Gadewir y cerbydau ar fenter y perchennog. Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, anaf, difrod i unigolion, cerbydau, ategolion nac eiddo, oni bai bod hynny wedi’i achosi gan esgeulustod, diffygdalu bwriadol neu dorri dyletswydd y Cyngor.
  7. Rhaid i gerbydau allu defnyddio un man parcio’n unig.
  8. Caiff y drwydded ei chyhoeddi yn amodol ar y rheolau a’r rheoliadau sydd ar waith yn y maes parcio (gwelwch yr arwyddion yn y maes parcio) ac fel y nodir gan Gyngor Sir Ddinbych/Cyfoeth Naturiol Cymru a gellir ei diddymu gan y Cyngor os bydd y rheolau neu’r rheoliadau yn cael eu torri.