Llwybr Cawr Corwen

Llwybr Cawr Corwen

  • *Map llwybr Cawr Corwen Giant trail map
    Map llwybr Cawr Corwen Giant trail map
  • *Golygfan Pen y Pigyn Viewpoint
    Golygfan Pen-y-Pigyn Viewpoint

Dilynwch ôl-troed Drewyn. A allwch chi ganfod y pethau mae wedi’u gollwng ar hyn y ffordd?

1: Ôl Troed

Dyma un o nifer o olion traed a wnaed gan Drewyn pan ddeffrodd ar Gaer Drewyn a cherdded i Gorwen.

Olion traed Drewyn – Drewyn’s Footprint

2: Drewyn yn Cysgu

Fe wnaed y marciau hyn yn y tir pan syrthiodd Drewyn i gysgu eto. Fe ddaeth Drewyn i Gorwen i chwilio am ei gariad y Forwyn Laeth. Mae mor fawr fel bod angen i chi ddringo i frig Pen y Pigyn i’w weld – ond tra rydych chi yma fe allwch fwynhau’r blodau gwyllt yn tyfu lle mae’n cysgu.

*Drewyn yn Cysgu - Drewyn Asleep

Drewyn yn Cysgu – Drewyn Asleep

3: Ceiniogau

Efallai fod gan Drewyn dwll yn ei boced gan ei fod wedi gollwng nifer o wrthrychau o amgylch Corwen gan gynnwys y ceiniogau hyn. Mae rhai yn credu mai llun o gawr yw’r ddelwedd ar y ceiniogau hyn ac eraill yn credu mai llun aderyn yn hedfan sydd yma. Mae’n bosib eu bod wedi eu bathu gan Fendigeidfran a oedd yn byw yng Nghastell Dinas Brân
uwchben Llangollen.

*giant coins

Darnau Arian Drewyn / Drewyn’s Coins

4: Pibell Drewyn

Wedi ei wneud o gasgen wisgi ac wedi ei lenwi gyda mawn mae’n ymddangos fod pibell Drewyn wedi ei wneud gan un ai cawr o’r Alban neu o Iwerddon. Ond sut y daeth yma?

*Teulu yn mwynhau r-daith - Family enjoying the walk

Teulu yn mwynhau r-daith – Family enjoying the walk

5: Brws Dannedd Drewyn

Mae blew y brws hwn wedi ei wneud o frwyn yn tyfu yn Nol Afon.

*Brwsh Dannedd Drewyn - Drewyn's Tooth Brush

Brwsh Dannedd Drewyn – Drewyn’s Tooth Brush

6: Llwy Drewyn

Wedi ei siapio gan gawr yn gwasgu’r dur gyda’u bys a’u bawd – maent wedi gwasgu’r metel mor galed hyd nes eu bod wedi gadael ôl bawd ar yr wyneb.

*Llwy mawr i Gawr - A Spoon fit for a Giant

Llwy mawr i Gawr – A Spoon fit for a Giant

7: Crib Drewyn

Crib barf lle mae dail wedi dechrau blaguro – gall cribau cawr drawsnewid yn fforestydd dwys.

8: Nodwydd ac Edau

Os oedd Drewyn yn sefyll yn y llannerch ar Lwybr y Dagr isod a’i gariad yn sefyll yma ar frig y clogwyn, dyma’r unig le am filltiroedd o gwmpas lle gallent edrych i fyw llygaid ei gilydd. Credir na wnaed yr Edau a’r Nodwydd hyn gan Drewyn ond yn hytrach ar ei gyfer a bod ei gariad wedi eu gadael yma er mwyn iddo ddod o hyd iddynt.

I lawr yn Nol Corwenna gallwch ei weld yn cysgu a’r llwybr o olion traed a wnaeth ar ei siwrne ddiwethaf. Pan fydd yn deffro bydd yn gallu trwsio ei boced, casglu ei eiddo ac yna fe allant barhau ar eu hantur nesaf.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?