Mwynhau’r Tirwedd Cenedlaethol
Mae tirweddau trawiadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi denu ymwelwyr ers cannoedd o flynyddoedd. O gopaon godidog i ddyffrynnoedd coediog a golygfeydd dramatig bob yn ail: Dyma’r cefndir perffaith i amrywiaeth o weithgareddau awyr agored fel cerdded, beicio a chwaraeon dŵr.
Mae hanes y bobl a fu’n byw a gweithio yn yr ardal i’w weld yn y cyfoeth o atyniadau treftadaeth: archwiliwch ein cadwyn o fryngaerydd, mentrwch ar draws Dyfrbont Pontcysyllte, profwch y llonyddwch yn Abaty Glyn y Groes, ac ewch i weld dros eich hunain pam roedd Castell Dinas Brân a Chastell y Waun yn amddiffynfeydd mor effeithiol.
Rydym yn falch o’r cynefinoedd rydym yn eu cadw a’u gwella ar gyfer ein bywyd gwyllt. Gallwn gynnig y rhywogaethau prin a’r hardd, o adar fel Cornhedydd y Coed a’r Grugiar Ddu i blanhigion fel tegeirianau a Chrwynllys Chwerw. Dewch i ddarganfod, mwynhau ac efallai eu helpu i oroesi hyd yn oed.
Ein trefi a phentrefi yw curiad calon y Tirwedd Cenedlaethol. Mae gan bob un eu cymeriad Cymreig amlwg eu hunain, ac amrywiaeth o siopau, caffis a bwytai lle gallwch flasu bwyd a diod arbennig wedi’u cynhyrchu’n lleol. Cadwch olwg am ddigwyddiadau traddodiadol, fel eisteddfodau a sioeau gwledig, sy’n dal i adlewyrchu’r berthynas agos rhwng pobl a’r tir hyd heddiw.
Mae’n hawdd trefnu ymweliad gyda’n hawgrymiadau defnyddiol am ffyrdd i archwilio’r Tirwedd Cenedlaethol, p’un ai oes angen help arnoch ar gyfer teithio, parcio neu leoedd i aros.

Cynllunio ymweliad
Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi’i lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae ei agosrwydd at y ffin â Lloegr a gogledd-orllewin Lloegr yn ei gwneud yn lle hygyrch i weld rhannau o’r cefn gwlad gorau ym Mhrydain.

Archwiliwch ein Parciau Gwledig
Rydym ni’n lwcus iawn bod gennym ni dri pharc gwledig yma yn yr Tirwedd Cenedlaethol, pob un gyda chymeriad unigryw, ond y cyfan â llawer i’w gynnig.

Gweithgareddau
Nid dim ond y cerddwyr a’r beicwyr sy’n cael mwynhau’r Tirwedd Cenedlaethol – mae nifer o weithgareddau eraill i chi gymryd rhan ynddynt, a fydd yn rhoi cyfle i chi weld Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy o safbwynt gwahanol.



