Dros wyliau’r Pasg eleni cafodd ceidwaid Loggerheads gwmni’r Ceidwaid Ifanc i gyflawni bioblitz bach o’r Parc Gwledig. Fe wnaethant gerdded drwy’r dydd mewn glaswelltir serth, calchaidd trwy ganol y clogwyn, ar ben y clogwyni braf, coetir llydanddail aeddfed, coetir wedi’u bôn-docio, cyn gorffen ar hyd y parth torlannol ar ochr yr afon.
Nododd y Ceidwaid Ifanc pob rhywogaeth a welsant, gan gynnwys coed, blodau gwyllt, anifeiliaid di-asgwrn-cefn, ffwng, mamaliaid ac ymlusgiaid. Erbyn diwedd y prynhawn, cofnodwyd 104 o rywogaethau.

Roedd rhai o’r pethau prin a nodedig yn cynnwys y Wifwrnwydden, Deintlys Cennog, a’r Gwybedog Brith cyntaf a welwyd gan dîm y ceidwaid yn 2026.
Y rhai mwyaf poblogaidd ymysg Ceidwaid Ifanc oedd y gloÿnnod byw blaen oren, bwncathod a 2 o fadfallod yn gorwedd yn yr haul.
Felly y tro nesaf byddwch yn ymweld â Loggerheads, sicrhewch eich bod yn cadw llygaid am y bywyd gwyllt sy’n eich amgylchynu.
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen Ceidwaid ifanc, cysylltwch ag Imogen Hammond ar imogen.hammond@denbighshire.gov.uk




