Clychau’r gog Coed Bell – canu trwy ganrifoedd
Yng nghoedwig sy’n edrych dros y môr, mae clychau’r gog yn canu – yn tawelu’r ymadawedig yn eu cwsg tragwyddol.
Claddfa hynafol ond llawn bywyd, mae Coed Bell wedi blodeuo’n llawn efo’i arddangosiad hyfryd o glychau’r gog frodorol. Mae’r blodau prydferth yma i’w weld yn gorchuddio’r coetir hynafol tu ôl i’r fynwent fodern.
Y blodau yma oedd canolbwynt y daith cerdded yn y goedwig arweiniwyd gan Geidwad Steve ar Ddydd Sadwrn 16eg o Fai, rhan o’r 21ain Gŵyl Gerdded Prestatyn a Bryniau Clwyd flynyddol.
Mae’r DU yn gartref i hanner y boblogaeth clychau’r gog y byd, felly mae’u cadwraeth yn ein tirluniau yn hanfodol bwysig. Mae clychau’r gog yn ddangosyddion coetir hynafol ac yn dynodi safleoedd pwysig sydd wedi goroesi dros amser, yn tyfu ac yn ffynnu ochr yn ochr â ni. Mae’r safleoedd yma llawn adnabyddiaeth hynafol a rhwydwaith hynafol sydd wedi datblygu a goroesi dros ganrifoedd, efo’u rhywogaethau’n cydweithredu i sicrhau eu dyfodol. Mae’r blodau yma yn rhan anwes o dreftadaeth naturiol Prydain sydd i’w weld yn llên gwerin a chwedloniaeth ledled y wlad.




Yn Gymraeg, mae’r enw “clychau’r gog” wedi dod oherwydd mae’r blodeuo yn cyd-fynd â dychweliad y gog – aderyn efo cân yn dod yn fwyfwy prin. Dydy’r cysylltiadau yma rhwng natur, iaith a diwylliant ddim yn ddamweiniol, mae pob un wedi tyfu ac esblygu efo’r lleill. Mae hyn yn dangos er mwyn sicrhau cadwraeth un agwedd o’n dreftadaeth, rydym angen gweithio i gadw pob un. Mae treftadaeth naturiol a threftadaeth ddiwylliannol wedi’u gysylltu’n annatod, ac mae cadwraeth un yn amhosib heb gadwraeth y llall.
Wrth ymweld â’r coed, gwnewch yn siŵr i beidio damsang clychau’r gog, neu byddwch yn drysu’r tylwyth teg! Dywedir eu bod nhw’n arwain ymwelwyr amharchus ar goll i gerdded y goedwig am ganrifoedd, heb allu dod o hyd i ffordd allan. Mae hi hefyd yn anghyfreithlon i ddifrod clychau’r gog, i dorri nhw, neu i drawsblannu’r bylbiau oherwydd maent yn rhywogaeth warchodedig felly bydd angen iddych ymdopi efo gyfraith y ddau fyd!
Mae calendr natur yn ein hatgoffa o dreigl amser ac fel pob blodyn, nid yw clychau’r gog yn canu trwy’r flwyddyn. Bydd ei amser blodeuo yn dod i ben yn fuan. Os nad ydych yn gallu eu hymweld y tro yma, gwnewch yn siŵr i ddod yn ôl blwyddyn nesaf i werthfawrogi ei blodeuo byrhoedlog.




