Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Ein Prosiectau

Mae tîm y Dirwedd Genedlaethol, ei bartneriaid a’n gwirfoddolwyr yn rhan o waith cyflawni ystod eang o brosiectau. Mae’r rhain yn amrywio o brosiectau safle-benodol sy’n gysylltiedig â rhywogaeth, nodwedd neu gymuned benodol, i brosiectau tirwedd sy’n gysylltiedig â threftadaeth, y celfyddydau a diwylliant; neu amddiffyn a gwella cynefin neu rywogaeth benodol.

Mae’r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer goroesiad rhai o’n rhywogaethau cynhenid. Anifeiliaid, planhigion, ffyngau a bacteria – mae gan bob rhywogaeth ran bwysig i’w chwarae yn yr ecosystem. Yn aml, gall rheoli un rhywogaeth fod yn fuddiol i eraill sy’n rhannu’r cynefin hwnnw.

Mae’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y Dirwedd Genedlaethol wrth wraidd llawer o’n prosiectau. O ddarparu cyfleoedd i bobl wella iechyd corfforol a lles meddyliol i gefnogi cymunedau cyfan trwy ddigwyddiadau a chyfleoedd cyllido. 

Mae yna nifer o ffyrdd i ymgysylltu â ni a chymryd rhan yn ein gwaith, neu ddarganfod mwy am ein prosiectau cyfredol a blaenorol.

Heather cutting Moel Famau

Ffermio Bro

Mae Ffermio Bro yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru, fydd yn parhau hyd at fis Mawrth 2028, fydd yn dod â ffermwyr a pherchnogion tir at ei gilydd i greu newid...

Hebridean Sheep in wildflower meadow

Prosiect Datrysiadau Tirlun

Datrysiadau Tirlun – Mae Prosiect Pori Cyfoeth Naturiol wedi dechrau yng Nogledd Ddwyrain Cymru.

dark skies with bench

Prosiect Awyr Dywyll

Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arwain prosiect Awyr Dywyll drwy Gymru gyfan.

Castell Dinas Bran in frost

Menter Gwella Tirwedd

Mae’r MGT yn gynllun ariannu gwerth £12 miliwn gan Ofgem i’r Grid Cenedlaethol a’i nod yw gostwng effeithiau gweledol yr isadeiledd trydan mewn tirweddau a ddiogelir.

Twristiaeth Gynaliadwy

Yn Nhirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu twristiaeth gynaliadwy.

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau