Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Llanfwrog Community Centre refit

Llwyddiant ôl-ffitio

Llwyddiant ôl-ffitio

Mae’r prosiect Awyr Dywyll wedi lleihau llygredd golau yng Nghanolfan Gymunedol Llanfwrog. 

Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arwain prosiect Awyr Dywyll drwy Gymru gyfan.

Llanfwrog Community Centre refit

Mae staff y prosiect Awyr Dywyll wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Gymunedol Llanfwrog i osod goleuadau fflyd newydd ar y cyrtiau tennis a’r maes ymarfer golff. 

Gan ddefnyddio cyllid gan Gronfa Tirweddau Cynaliadwy, Llefydd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, ymgysylltodd yr AHNE â dylunwyr goleuadau amgylcheddol, Dark Source, i amlinellu cynllun goleuadau newydd er mwyn gorchfygu effeithiau llygredd golau. Drwy’r cynllun hwn, llwyddodd y clwb i dderbyn cyllid gan Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog i ôl-osod y cyrtiau.

A Wyddoch Chi

Mae lefelau goleuo sy’n uwch na’r angen a golau sy’n disgleirio pan a lle nad oes ei angen yn wastraffus. Mae gwastraffu ynni ar ddyluniad goleuadau gwael yn arwain at ganlyniadau economaidd ac amgylcheddol enfawr.

Wedi’u lleoli ar gyrion tref Rhuthun, mae’r cyrtiau tennis a’r maes ymarfer golff yn agos at goetir a choed hynafol sy’n gartref i ystlumod sy’n clwydo. Mae goleuadau artiffisial yn amlygu ystlumod i ysglyfaethwyr wrth iddynt adael eu clwydi, sy’n achosi iddynt amddifadu eu clwydi’n gyfan gwbl.

Gall goleuadau artiffisial hefyd gael effaith anuniongyrchol ar yr ystlumod hyn wrth iddynt fwydo ar bryfaid sy’n hedfan. Fodd bynnag, caiff pryfaid sy’n hedfan eu denu at olau artiffisial a’u lladd yn syth wrth ddod i gysylltiad â’r ffynhonnell golau, sy’n arwain at ostyngiad yn y pryfaid hyn sy’n bwydo ystlumod yn ogystal ag adar ac anifeiliaid eraill. 

Mae cymdeithas Cymuned Llanfwrog wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau’r llygredd golau yn y ganolfan ac wedi cymryd gymaint o gamau lliniaru â phosibl yn ogystal â chreu amgylchedd diogel i ddefnyddio’r cyrtiau tennis a’r maes ymarfer golff. 

Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych ar Ddatblygu Lleol a Chynllunio: “Nid yn unig mae newid y goleuadau wedi cael effaith gadarnhaol ar fywyd gwyllt, mae hefyd wedi lleihau allyriadau carbon. Mae ffigurau wedi dangos, drwy newid yr hen oleuadau fflyd 2KW am oleuadau fflyd chwaraeon golau tywyll 800W newydd, gellir arbed 31.2KW/h pan fydd y 6 chwrt yn cael eu defnyddio, a fydd yn arbed 61.9% o drydan ac allyriadau carbon ac yn gam cadarnhaol iawn o ran yr amgylchedd a chostau cynnal y ganolfan.” 

Mae clwb rygbi Rhuthun hefyd yn ystyried newid goleuadau’r cae rygbi i fod yn fwy effeithlon o ran ynni a chydymffurfio ag Awyr Dywyll. Erbyn y gaeaf, dylai’r holl waith fod wedi cael ei gwblhau a dylai’r 3 clwb fod â goleuadau ynni effeithlon sydd hefyd yn cydymffurfio ag Awyr Dywyll.