Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Trefniant newydd ar gyfer Trwyddedau Parcio Blynyddol

Diweddarwyd: 2il Ebrill 2026

Wrth i’r gwanwyn flodeuo a’r clociau wedi symud ymlaen, mae’n bryd adnewyddu eich trwyddedau parcio blynyddol.


Ymhen amser, byddwn yn symud y system i’n hadran fanwerthu newydd ar y wefan newydd hon, sydd i fod i fynd yn fyw o fewn yr ychydig wythnosau nesaf. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yma. Yn y cyfamser, beth am archwilio ein gwefan newydd?

Sut ydw i’n adnewyddu fy nhrwydded?
Cam 1 – Yn dibynnu ar leoliad eich trwydded ddewisol, ewch i naill ai:

  • Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Loggerheads – ar gyfer Parciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau
  • Tŷ a Gardd Hanesyddol Plas Newydd – ar gyfer Maes Llantysilio Green a Gwarchodfa Natur Wenffrwd.

Cam 2 – Cwblhewch y ffurflen gofrestru
Cam 3 – Dewch â modd i dalu, sef £35 am y flwyddyn

Beth nesaf?
Nid yw Cyngor Sir Ddinbych / Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn rhoi trwydded barcio papur ac maent wedi symud i system drwyddedau parcio electronig. Bydd rhif cofrestru eich car yn cael ei anfon at yr adran berthnasol i brosesu’r drwydded electronig, a ddylai gymryd dim mwy na 5 diwrnod i’w actifadu.

Gweler y telerau ac amodau isod.

Moel Famau permit CY