Difrod Llifogydd yn y Parc
Difrod Llifogydd yn y Parc
Mae Parc Gwledig Loggerheads yn profi aflonyddwch mawr o ganlyniad Storm Babet.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio’n galed i wneud atgyweiriadau i’r safle sydd wedi dioddef difrod sylweddol oherwydd llifogydd, y gwaethaf mae’r safle wedi’i brofi ers 2000.
Bydd rhannau o’r parc, gan gynnwys llwybrau troed ac adeiladau amrywiol, yn parhau ar gau hyd nes y clywir yn wahanol, gyda nifer o ddigwyddiadau yn gorfod cael eu gohirio neu eu canslo o ganlyniad.
Mae’r caffi eisoes wedi gallu ailagor, a’r gobaith yw y bydd y Ganolfan Ymwelwyr yn gallu agor yn rhannol yn fuan.
Mae’r Cyngor yn cynghori’r rhai sy’n gobeithio ymweld â Pharc Gwledig Loggerheads yn ystod yr hanner tymor i ddisgwyl aflonyddwch sylweddol i wasanaethau arferol a llwybrau cerdded ar y safle.
Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio: “Mae’n drist gweld yr effeithiau dinistriol y mae’r storm ddiweddar wedi’u cael ar Barc Gwledig Loggerheads, yn ogystal â rhannau eraill o Sir Ddinbych. Gallai’r newyddion hwn fod yn siomedig i unrhyw un sy’n dymuno ymweld â’r safle dros yr hanner tymor, a chynghorwn fod unrhyw un sydd wedi gwneud cynlluniau i wneud hynny’n disgwyl rhywfaint o aflonyddwch i’r norm tra bod gwaith atgyweirio amrywiol yn cael ei wneud.
“Hoffwn ddiolch i’r tîm sy’n gweithio’n ddiflino i wneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol er mwyn caniatáu i’r ardaloedd sydd ar gau ar hyn o bryd ail-agor yn ddiogel i’r cyhoedd cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, hoffem weld unrhyw un sy’n ymweld â’r lleoliad hwn yn dal i allu mwynhau harddwch y parc.”