Swyddog Rhwydweithiau Ecolegol Tywyll
Cyfnod Datblygu Rhwydweithiau’r Nos, Rhaglen Rhwydweithiau Natur.
Dyma gyfle cyffrous i weithio gyda Parc Cenedlaethol a’r Tirweddau Cenedlaethol ledled Gogledd Cymru ar brosiect i wella ansawdd ein hawyr nos a’i fioamrywiaeth.
Swyddog Rhwydweithiau Ecolegol Tywyll
Cyfeirnod Swydd: PCCS00044D2FDE
Lleoliad: Neuadd y Sir Rhuthun gyda theithio ar draws Gogledd Cymru
Cyflog: Gradd 7, £34,434 – £36,363 yn amodol ar werthusiad
Oriau: 37 awr yr wythnos
Contract: Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2028

Ynglŷn â Chyfnod Datblygu Rhwydweithiau’r Nos
Mae awyr nos Cymru ymhlith y tywyllaf yn y byd. Bydd y swydd hon yn cefnogi prosiect newydd cyffrous i wella a diogelu ansawdd yr awyr ymhellach yn ogystal â monitro a diogelu’r fioamrywiaeth sy’n dibynnu arni. Mae’n gyfle i weithio yn nhirweddau mwyaf prydferth a bioamrywiol Cymru ar draws mewn maes cadwraeth newydd cyffrous.
Nod prosiect Cyfnod Datblygu Rhwydweithiau’r Nos yw gwella rhwydweithiau ecolegol blaenoriaethol drwy fynd i’r afael â llygredd golau, un o brif achosion dirywiad cynefinoedd ond sy’n aml yn cael ei anwybyddu. Bydd yn mapio coridorau tywyll i gefnogi symudiad rhywogaethau a chydnerthedd ecosystemau. Bydd canfyddiadau’n llywio ôl-osodiadau goleuadau yn y dyfodol i ailgysylltu cynefinoedd darniog. Bydd monitro bioamrywiaeth a golau sylfaenol yn arwain camau gweithredu hirdymor.
Mae’r swydd yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Dinbych. Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, gwnewch gais ar-lein drwy’r wefan www.sirddinbych.gov.uk chwiliwch am swyddi gwag ar yr hafan a dilynwch gyfarwyddiadau pellach.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd or swydd ymhellach, cysylltwch â Ceri Lloyd ar 07909934320.
Ariennir y swydd yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.



