Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Parc Gwledig Loggerheads: Pennod Newydd Sbon

Mae Parc Gwledig Loggerheads ar fin cychwyn cyfnod newydd cyffrous. Diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gallu buddsoddi mewn cyfres o welliannau ar draws 10 o brosiectau; un o’r rhai mwyaf arwyddocaol yw gwella’r porth poblogaidd hwn i Dirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Fel un o gyrchfannau ymwelwyr prysuraf Sir Ddinbych, mae Loggerheads yn lleoliad y mae pobl yn dychwelyd iddo o un flwyddyn i’r llall. Nod y prosiect, a ddechreuodd yn 2025, yw gwneud y parc hyd yn oed yn fwy croesawgar – gan uwchraddio’r prif adeiladau ymwelwyr, creu canopi yn yr awyr agored gyda seddi ychwanegol, gwella hygyrchedd, a mynd i’r afael â phroblemau llifogydd hirsefydlog.

Mynd i’r Afael â Llifogydd

Bydd y rheiny sy’n gyfarwydd â’r safle yn gwybod fod llifogydd wedi bod yn her yma erioed, gan achosi difrod i adeiladau a chyfyngu ar fynediad i’r parc. Ar ddechrau 2025, dechreuodd gwaith ar raglen lliniaru llifogydd, gan gynnwys adfer wal yr afon, ailwampio’r bont droed, a gosod llifddorau ar adeiladau’r felin isaf. Cafodd y gwaith hanfodol hwn ei wneud gan gontractwr o ogledd Cymru, sef MWT, ac roedd yn nodi cam mawr ymlaen tuag at amddiffyn y parc ar gyfer y dyfodol.

Rhoi Bywyd Newydd i’r Adeiladau

FYm mis Awst 2025, rhoddwyd sylw i’r adeiladau eu hunain; y ganolfan ymwelwyr, y caffi, y gegin, yr ystafell gyfarfod a’r toiledau cyhoeddus. Y nod oedd gwneud pob man yn fwy hygyrch, ymarferol a mwy pleserus i’w defnyddio.

Mae gwaith ailwampio helaeth wedi’i wneud:

  • Uwchraddio’r caffi
  • Diweddaru’r system wresogi a gwaith gwifrau
  • Ail-ddylunio cynllun yr adeilad
  • Addurno pob man
  • Ychwanegu paneli solar er mwyn lleihau ôl-troed carbon y safle

Yn ystod y gwaith adnewyddu, mae’r ganolfan ymwelwyr wedi symud i’r Oriel am gyfnod dros dro, er mwyn sicrhau bod cyngor, gwybodaeth a’r siop yn dal i fod ar gael. Symudodd caffi Tŷ’r Felin i adeilad arall gerllaw am gyfnod dros dro, gan gynnig diodydd poeth a byrbrydau tra bo’r prif gaffi ar gau.

Y man cyntaf i ailagor oedd y toiledau cyhoeddus, sydd wedi cael eu hadnewyddu ac sydd bellach yn arddangos lluniau o wahanol leoliadau o amgylch y parc.

Creu Gwell Profiad Awyr Agored

Yn fwy diweddar, mae gwaith wedi canolbwyntio ar wella’r ardaloedd awyr agored. Mae mannau newydd ar gyfer darparu lle i eistedd a chynnal digwyddiadau yn dod at ei gilydd ac maent wedi’u llunio’n ofalus i gyd-fynd â’r gerddi te presennol ac i warchod y goeden gedrwydden fendigedig sydd wedi dod yn rhan nodedig o’r parc.

Mae’r gorffeniadau olaf yn yr ardal awyr agored bellach ar y gweill, ac yn ystod gwyliau’r Pasg bydd modd i chi ymweld yn ôl yr arfer i weld y datblygiadau drosoch chi eich hun. Bydd y parc gwledig a chaffi Tŷ’r Felin yn aros ar agor trwy gydol yr amser.