Mae partneriaeth ledled Gogledd Cymru wedi llwyddo i sicrhau cyllid i fynd i’r afael ag effeithiau ecolegol golau artiffisial ar draws tirweddau dynodedig Gogledd Cymru.
Ar ran partneriaeth Prosiect NOS, bu Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn llwyddiannus yn eu cais o’r enw Rhwydweithiau’r Nos, a gyflwynir gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.
Dyfarnwyd £247,225 i’r bartneriaeth, sy’n cynnwys Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Tirwedd Genedlaethol Ynys Môn, Tirwedd Genedlaethol Llŷn ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, i fynd i’r afael â phroblemau sy’n cael eu hachosi gan Olau Artiffisial yn y Nos sy’n newid ymddygiad rhywogaethau ac yn bygwth bioamrywiaeth.

Mae tywyllwch yn rhan hanfodol o’n treftadaeth naturiol ac yn hanfodol ar gyfer dyfodol dros 30% o fertebriaid a 60% o infertebratau, gan fod y rhan fwyaf o ffurfiau bywyd yn cael eu llywodraethu gan rythmau biolegol sy’n cael eu rheoleiddio gan olau.
Fodd bynnag, mae Golau Artiffisial yn y Nos yn tarfu ar y cylchoedd hyn. Bydd prosiect Rhwydweithiau’r Nos yn nodi parthau llygredd allweddol trwy fapio golau, cynnal arolygon ecolegol a chydweithio â thirfeddianwyr, cymunedau ac asiantaethau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gweithgareddau ôl-osod a chysgodi yn y dyfodol i leihau’r ymyrraeth.
Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi’r gwaith o greu dwy swydd newydd. Bydd un Swyddog Rhwydweithiau Ecolegol yn y Nos yn cynorthwyo datblygiad y cynlluniau hyn i amddiffyn y tywyllwch naturiol sy’n hanfodol ar gyfer iechyd yr ecosystem, ac un Swyddog Ymgysylltu â’r Gynulleidfa sydd â’r dasg o godi ymwybyddiaeth a chefnogi newid ymddygiad trwy ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Rydym ni wrth ein bodd ein bod ni wedi sicrhau’r cyllid hwn i fynd i’r afael â’r problemau sydd ynghlwm â llygredd golau. Ni fyddai sicrhau’r cyllid hwn wedi bod yn bosibl heb waith caled a chydweithrediad partneriaeth Prosiect NOS sy’n cynnwys y tirweddau dynodedig ledled Gogledd Cymru. Bydd y cyllid hwn yn mynd yn bell i amddiffyn ein rhywogaethau, drwy gynnal profion ac arolygon hanfodol a chodi ymwybyddiaeth o’r effeithiau posibl y gall Golau Artiffisial yn y Nos eu cael”.





