Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Craft Workshop Print

Printiau Collage Bryniau Clwyd gyda Ruth Thomas

Ymunwch â Ruth ar gyfer gweithdy creadigol, llawn collage ac inc, i greu printiau hardd ar thema tirwedd a bywyd gwyllt Bryniau Clwyd!

Dyddiad: 25ain Ebrill 2026
Amser: 10yb – 1yp
Lleoliad: Ystafell Addysg, Canolfan Grefft Rhuthun
Cost: £30 y pen

Bydd Ruth yn darparu enghreifftiau o brintiau ac yn egluro’r broses o greu plât printio. Gan ddefnyddio llun neu ffotograff fel man cychwyn, byddwn yn gwneud darluniau llinell syml ar gerdyn, cyn torri’r darluniau allan i greu platiau printio yn defnyddio collage; gellir creu rhagor o linellau a gweadau gydag edau, tâp a beiro.

Workshop print 2024

Bydd Ruth yn dangos i chi sut i ychwanegu’r inc at eich platiau gyda rholer a’u printio ar wasg ysgythru symudol, er mwyn creu printiau gwreiddiol i fynd adref gyda chi.  Mae printiau du a gwyn yn edrych yn hyfryd, ond mae modd i chi weithio hefo lliw hefyd.

Mae croeso i chi ddod â llun neu ffotograff gyda chi fel man cychwyn ar gyfer eich print.  Bydd ffotograffau ychwanegol ar gael.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. P’un a ydych chi’n artist profiadol neu’n ddechreuwr brwd, mae croeso i bawb yn y gweithdy hwn.

Print Workshop

Bydd yr holl offer a deunyddiau gwaith print yn cael eu darparu. Dylech wisgo hen ddillad neu ddod â ffedog gyda chi. Bydd te, coffi a bisgedi ar gael.

Mae Ruth yn wneuthurwr printiau yn Nyffryn Clwyd. Mae hi’n aelod o RCA Conwy ac Urdd Gwneuthurwyr Cymru. Mae hi wedi bod yn creu printiau gan ddefnyddio collage ers nifer o flynyddoedd ac mae’n cynnal gweithdai ar gyfer grwpiau o bob oed.                                                                                                                            

Sut i archebu eich lle:  Ffoniwch Barc Gwledig Loggerheads ar 01824712757.  I sicrhau eich lle bydd angen i chi wneud taliad dros y ffôn. 

Polisi ad-daliadau: Yn yr achos annhebygol lle bydd y gweithdy hwn yn cael ei ganslo, byddwch yn cael eich ad-dalu’n llawn. Ni roddir unrhyw ad-daliadau os byddwch yn newid eich meddwl am eich archeb neu os na fyddwch yn dod i’r gweithdy.