Shopping Cart
Your cart is currently empty.

Return to shop

Ymarfer Hyfforddi Tanau Gwyllt

Yn gynharach yr wythnos hon, cynhaliodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ymarfer hyfforddi tanau gwyllt ym Moel Famau ochr yn ochr â phartneriaid o Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Chyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd Tim Owen, Arweinydd Tanau Gwyllt y Gwasanaeth: “Bob blwyddyn mae tân yn gyfrifol am ddinistrio miloedd o hectarau o gefn gwlad, mannau agored a chynefinoedd bywyd gwyllt ac fel y gwyddom, mae’n hawdd iawn i danau gwyllt fynd allan o reolaeth, felly mae ymarferion hyfforddi fel hyn yn hynod bwysig. Roedd yr ymarfer yn gyfle perffaith i staff ymarfer eu sgiliau diffodd tanau gwyllt i sicrhau eu bod yn barod os bydd yn rhaid iddynt fynd i’r afael â thanau gwyllt.

“Hoffwn ddiolch i bartneriaid yng Nghyngor Sir Ddinbych am y cyfle i allu ymgymryd â’r hyfforddiant hanfodol hwn ar eu tir.”

Hyfforddiant Tanau Gwyllt ar Foel Famau

Cofiwch y bydd y cyfnod llosgi yn dod i ben ar y 31ain o Fawrth mewn ardaloedd ucheldirol a daeth i ben ar y 15fed o Fawrth mewn ardaloedd eraill. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i losgi’n gyfrifol. Rydym yn annog pob tirfeddiannwr sy’n ymgymryd â llosgi dan reolaeth i roi gwybod trwy ffonio’r Ystafell Reoli ar 01931 522 006 📞