Ceidwaid Gwirfoddol – diweddariad

Ceidwaid Gwirfoddol – diweddariad

  • ©EmmaShootsLife

Detholiad o Gylchlythyr y Cyfeillion, Chwefror 2024

Bydd ein darllenwyr yn siŵr o fod yn cofio darn a gyhoeddwyd llynedd am gynlluniau i recriwtio ceidwaid gwirfoddol i helpu i gefnogi unigolion sy’n ymweld ag ardaloedd allweddol yn y AHNE. Roedd Views from Friends yn awyddus i gael gwybod sut yr oedd pethau yno erbyn hyn a phleser oedd cael ein gwahodd i sesiwn adborth rhwng y gwirfoddolwyr Ceri, Frank a Phil ac Arweinydd Prosiect yr AHNE, Ceri Lloyd a Rhiannon Bartley, swyddog cefnogi’r gwirfoddolwyr o ddydd i ddydd.

Mynegwyd diddordeb gan lawer pan gafodd y cynllun ei grybwyll am y tro cyntaf, ond yn dilyn archwilio cysylltiadau personol a chyfyngiadau amser yn llawn, roedd y garfan derfynol yn cynnwys 11 unigolyn ymroddedig a oedd eisiau rhannu eu brwdfrydedd dros y tirlun gydag awydd i helpu eraill – tua’r nifer yma yr oedd gan y tîm AHNE y gallu i reoli, felly roedd pawb ar ei ennill! Y cam nesaf oedd darparu eu crysau T a’u crysau gyda’r logo hollbwysig!

Wrth siarad am eu profiad hyd yma, roedd sylwadau Ceri, Frank a Phil yn gadarnhaol iawn. Wedi’u lleoli’n bennaf o amgylch Bwlch Pen Barras/Moel Famau, roeddent wedi mwynhau cyfuniad o ymgysylltu gyda’n hymwelwyr a gweithgareddau ymarferol megis y dasg di-ddiolch o gasglu sbwriel. Soniodd Phil am un achlysur lle’r oeddent wedi cefnogi unigolyn sâl nes i help proffesiynol gyrraedd. Yn ystod y cyfarfod, trafodwyd sawl mater lle gall y profiad maent wedi’i gael hyd yma gael ei ddefnyddio i wella’r gwasanaeth yn y dyfodol. Un datblygiad cadarnhaol iawn a welwyd oedd cytundeb i sefydlu trefniadau lle gall y gwirfoddolwyr gyfathrebu’n well ac yn anffurfiol gyda’i gilydd, i rannu gwybodaeth a phrofiad a datblygu cyfeillgarwch. Mynegodd y Gwirfoddolwyr barodrwydd i fonitro ardaloedd llai poblogaidd o’r AHNE hefyd.

Ar y cyfan, roedd y cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae ystyriaeth eisoes yn cael ei rhoi i sut y gellir ei ymestyn i gyrchfannau poblogaidd eraill yn yr AHNE. Calonogol iawn oedd clywed mor gadarnhaol yr oedd y rhan fwyaf o’r cyswllt gydag ymwelwyr wedi bod. Nid yw’n syndod mai’r broblem fwyaf ar gyfer y tri ohonynt oedd cŵn nad oedd yn cael eu cadw dan reolaeth agos. Yn gyffredinol, roedd y rhan fwyaf o’r bobl yn hapus i wrando ar gyngor – ond mae eithriadau o hyd….!

Felly diolch yn fawr iawn i Ceri, Frank a Phil, ynghyd â’u cydweithwyr, sydd yr un mor ymrwymedig, am gyfraniad arbennig hyd yma. Rydym yn edrych ymlaen at glywed am gynnydd pellach cyn hir.

0 Sylwadau

Perthnasol

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2024 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?