Datgan diddordeb – Ffermio BRO
Datgan diddordeb – Ffermio BRO

Mae Ffermio Bro yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru, fydd yn parhau hyd at fis Mawrth 2028, fydd yn dod â ffermwyr a pherchnogion tir at ei gilydd i greu newid amgylcheddol cadarnhaol ar ein tirweddau mwyaf gwerthfawr. Gan weithredu yn Nhirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, rydym yn meithrin ecosystemau cadarn wrth gefnogi arferion ffermio cynaliadwy. Mae Ffermio Bro yn rhaglen ar y cyd sy’n ariannu gweithgareddau sy’n cwmpasu nifer o ffermydd i greu effaith ar raddfa tirwedd.
Amcanion y Rhaglen
Gan weithio gyda’n gilydd, ein nod yw:
- Gwella cynaliadwyedd a gwytnwch busnesau fferm
- Cefnogi adferiad natur a gwytnwch ecosystemau
- Darparu gweithgareddau sy’n cwmpasu nifer o ffermydd i gyflawni nodau amgylcheddol cyffredin
- Creu cyfleoedd ar gyfer cynnwys y cyhoedd yn ein tirweddau a’n treftadaeth ddiwylliannol
Ein Meysydd Pwyslais
Drwy gydweithio wedi’i dargedu a chefnogaeth arbenigol, rydym yn canolbwyntio ar:
- Terfynau Traddodiadol: Adfer nodweddion hanesyddol megis waliau cerrig a chloddiau a chreu coridorau bywyd gwyllt
- Rheoli Dŵr Ffres: Gwella gwytnwch dalgylchoedd, ansawdd dŵr a chreu cynefinoedd gwlyptir
- Gwarchod Tiroedd Comin: Gwarchod cynefinoedd sy’n flaenoriaeth a rhoi strategaethau atal tân gwyllt ar waith
- Cadw Rhywogaethau: Amddiffyn rhywogaethau allweddol drwy reoli cynefinoedd wedi’i dargedu
- Ffermio Adfywiol: Cefnogi arferion sy’n gwella iechyd y pridd a bioamrywiaeth
Gweithgareddau Cymwys
Mae’r rhaglen yn ariannu ystod eang o weithgareddau sy’n rhan o amcanion Rheoli Tir Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn cynnwys:
- Plannu coed dwysedd isel wedi’i dargedu ac adfer coetiroedd a allai gynnwys plannu ar lannau serth afonydd, mewn corneli caeau, a chreu porfeydd coediog.
- Adfywio naturiol.
- Creu gwrychoedd a’u hadfer drwy osod gwrychoedd, bôn-docio a chau bylchau.
- Cael gwared ar Rywogaethau Estron Goresgynnol a’u difa.
- Ymyriadau rheoli risgiau llifogydd yn naturiol.
- Gwella cynefinoedd mewn gwlyptiroedd ac ar lannau afonydd a chreu ac adfer pyllau.
- Prosiectau adfer terfynau traddodiadol.
- Adfer coetiroedd yn cynnwys waliau cerrig a chloddiau pridd.
- Adfer gweirgloddiau, a chreu stribedi a llecynnau adar gwyllt, bywyd gwyllt a phryfed peillio.
- Gwella mynediad i gefn gwlad drwy uwchraddio/gwella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd.
- Mesurau wedi’u targedu er mwyn cefnogi adferiad rhywogaethau bywyd gwyllt a chynefinoedd.
- Mesurau wedi’u targedu er mwyn gwella ansawdd dŵr, megis rheoli da byw.
Enghreifftiau yn unig yw’r rhain, nid rhestr gynhwysfawr.
Y Broses Ymgeisio am Gyllid
Bydd ffermwyr a pherchnogion tir yn Nhirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ymgeisio’n uniongyrchol am gyllid i’r Dirwedd Genedlaethol a bydd y tîm Ffermio Bro, yn ogystal â’r Panel Asesu Lleol yn dyfarnu cyllid am weithgareddau sy’n adlewyrchu anghenion lleol. Mae’r tîm Ffermio Bro yn cynnwys Ymgynghorwyr arbenigol fydd yn gweithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir i ddatblygu ceisiadau a chefnogi ymgeiswyr drwy’r broses.
Mae Ffermio Bro yn rhan o gam paratoi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) a bydd yr hyn a ddysgir yn llywio datblygiad yr haen gydweithredol.
I wneud cais am gyllid:
- Cwblhewch ffurflen Datganiad o Ddiddordeb. Ffermio-Bro-Ffurflen-EOI-Form
- Bydd y ffenestr ariannu gyntaf yn cau ddydd Gwener 30 Awst 2025
- Bydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu ystyried yn y ffenestri Datgan Diddordeb nesaf.
Beth Sy’n Digwydd Nesaf?
- Ar ôl derbyn y Datganiad o Ddiddordeb, bydd y tîm yn cysylltu â chi i drafod eich Prosiect a gweithio gyda chi i gwblhau cais llawn.
- Yn dilyn dyddiad cau’r Datganiadau o Ddiddordeb, bydd y ceisiadau’n cael eu sgorio a’u hasesu gan y Tîm Ffermio Bro (dan £10,000) neu’r Panel Asesu (dros £10,000).
- Yn dilyn yr asesiad, gwneir Cynigion Grant ar gyfer gwaith i’w gwblhau cyn diwedd mis Chwefror 2026.
Prif Fanteision ymuno â Ffermio Bro:
- Mynediad at arweiniad a chefnogaeth
- Arian ar gyfer gwelliannau amgylcheddol
- Rhwydweithio gyda rheolwyr tir eraill
- Cyfrannu at newid amgylcheddol ar raddfa tirwedd
I gael mwy o wybodaeth, ac i ddechrau ar eich cais, cysylltwch â’n tîm Ffermio Bro yn Dafydd.Roberts@denbighshire.gov.uk neu Dafydd Roberts ar 07887 822051
Am fwy o wybodaeth am y cynllun, dilynwch y ddolen isod: