Gwaith ffordd – Moel Famau

Gwaith ffordd – Moel Famau

Gwaith Atgyweirio Lonydd Cerbydau i gychwyn ym Mwlch Pen Barras

Mae gwaith Atgyweirio Lonydd Cerbydau i fod i ddechrau ym Mwlch Pen Barras, Moel Famau yn ddiweddarach y mis hwn,  gan gynnwys gosod marciau ffordd newydd i wahardd cerbydau rhag parcio.  Mae hyn er mwyn mynd i’r afael â thagfeydd traffig a difrod cysylltiedig i’r ymylon glaswelltog.

Disgwylir i’r gwaith ddechrau ddydd Llun 13 Mawrth a disgwylir iddo gymryd hyd at 5 diwrnod i’w gwblhau.

Bydd y ffordd ar gau i gerbydau a cherddwyr o fynedfa’r maes parcio uchaf am bellter o 1.2 milltir i gyfeiriad y dwyrain. O fewn y rhan o’r ffordd sy’n cau, bydd yr holl ffyrdd ymyl cyfagos ar gau am gyfnod y gwaith, gan gynnwys mynediad i Feysydd Parcio Moel Famau, Moel Fenlli a Choedwig Moel Famau.

Bydd mynediad i eiddo preswyl a busnesau sydd wedi’u lleoli ar Fwlch Pen Barras ar gael, er efallai y bydd rhywfaint o oedi ac amhariad. Anogir trigolion i beidio â theithio’n ddiangen er mwyn lleihau tagfeydd traffig.

Bydd arwyddion priodol yn dangos y llwybr amgen.  Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod oriau gwaith arferol.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai’r gwaith hanfodol yma ei achosi ac yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud mor sydyn ac effeithlon â phosibl.”

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2025 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?