Help-heli yn Ninas Brân!

Help-heli yn Ninas Brân!

  • Helicopter in snow
    Helicopter listing bags of stone off Castell Dinas Bran
  • Helicopter in snow at Sunset

Mae hofrennydd wedi bod wrth law i helpu Ceidwaid yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ymgymryd â gwaith pwysig ar lethrau hyfryd Castell Dinas Brân.

Yn gynharach yn yr hydref – dan arweiniad arbenigol archeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys – cloddiodd Ceidwaid, gwirfoddolwyr a chontractwyr bron i 35 tunnell o ddeunyddiau o borthdy’r castell fel rhan o’r gwaith adfer cyffrous sy’n mynd rhagddo yn y castell.

Rhoddwyd y deunyddiau a gloddiwyd mewn bagiau, yn barod i gael eu hawyrgludo’n uniongyrchol i un o’r llwybrau allweddol sy’n ymdroelli tua’r copa.

Mae’r adran hon o’r llwybr wedi erydu a lledu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan fygwth poblogaeth planhigion prin fel y beryn coesnoeth a’r cornwlyddyn syth sy’n tyfu yma yn Ninas Brân.

Bydd contractwyr medrus yn defnyddio’r deunyddiau hyn i atgyweirio’r adrannau sydd wedi’u difrodi ar y llwybr.

Meddai Rhun Jones, Uwch Geidwad yn Nyffryn Dyfrdwy, “Mae’r prosiect hwn yr ydym wedi bod yn gweithio arno mewn partneriaeth â Cadw ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys wedi bod yn hynod o gyffrous – ac nid wyf yn dweud hynny oherwydd bod gennym hofrennydd yma i symud yr holl ddeunyddiau!”

“Wrth gynllunio’r prosiect, roeddem yn gwybod y byddai llawer o wastraff ynghlwm â’r gwaith o adfer y castell a chlirio’r porthdy. Ond roedd yn gyfle gwych i ddefnyddio’r deunyddiau a gliriwyd i wella cyfleoedd mynediad yn ogystal â diogelu cynefinoedd glaswelltir bregus er mwyn i bawb fedru parhau i fwynhau treftadaeth gyfoethog naturiol a hanesyddol Dinas Brân.”

Oeddech chi’n gwybod?

Mae rhai pobl yn credu bod Y Greal Sanctaidd wedi’i gladdu mewn ogof yn ddyfn o dan Gastell Dinas Brân.

Meddai Rhun Jones, Uwch Geidwad yn Nyffryn Dyfrdwy, “Mae’r prosiect hwn yr ydym wedi bod yn gweithio arno mewn partneriaeth â Cadw ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys wedi bod yn hynod o gyffrous – ac nid wyf yn dweud hynny oherwydd bod gennym hofrennydd yma i symud yr holl ddeunyddiau!”

“Wrth gynllunio’r prosiect, roeddem yn gwybod y byddai llawer o wastraff ynghlwm â’r gwaith o adfer y castell a chlirio’r porthdy. Ond roedd yn gyfle gwych i ddefnyddio’r deunyddiau a gliriwyd i wella cyfleoedd mynediad yn ogystal â diogelu cynefinoedd glaswelltir bregus er mwyn i bawb fedru parhau i fwynhau treftadaeth gyfoethog naturiol a hanesyddol Dinas Brân.”

Darperir y gwaith o adfer y castell drwy’r prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth tirlun a gaiff ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda chefnogaeth a chyllid ychwanegol gan Cadw.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio Cabinet Sir Ddinbych: “Mae’r gwaith hwn yn dangos cydweithio gwych ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canlyniadau mewn tirnod mor amlwg yn Llangollen.”

0 Sylwadau

The National Lottery Heritage Fund in Wales

Copyright © 2025 Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Clwydian Range and Dee Valley.

Log in with your credentials

Forgot your details?